Diwylliant Cymreig a UMCA
Mared Edwards
Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA
"Mared yw llais diwylliant Cymreig a myfyrwyr Cymraeg yn Aberystwyth."
Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar hyrwyddo diwylliant Cymru gan roi cyfle i fyfyrwyr Aber ddysgu, siarad a byw'r iaith.
E-bost: cymraegum@aber.ac.uk
Fy Rôl
Bydd y Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA yn gyfrifol am y canlynol:
- Sicrhau cynrychiolaeth ddigonol o'r diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr a sicrhau bod y polisi dwyieithrwydd yn cael ei hyrwyddo.
- Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â buddiannau siaradwy y Gymraeg a dysgwyr.
- Cynrychioli anghenion yr aelodau mewn Neuaddau Preswyl cyfrwng Cymraeg.
- Sicrhau bod UMPA yn cael ei gadw'n gyfoes ynghylch materion lleol a chenedlaethol sy'n effeithio ar fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.
- Lobïo UCM i ddarparu cynrychiolaeth ddigonol o'r diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg.
- Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth UMPA i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
- Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol. h. Cwrdd yn rheolaidd gydag adrannau perthnasol y Brifysgol i hyrwyddo anghenion siaradwyr Cymraeg a'r rheiny sy'n dysgu'r iaith.
Pwyllgorau’r Brifysgol / Cyfarfodydd a Fynychwyd:
- Cyngor y Brifysgol
- Senedd
- Bwrdd Academaidd
- Pwyllgor Llywodraethiant a Chydymffurfiaeth
- Pwyllgor Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
- Grwp Gweithredol yr Iaith Gymraeg
Blaenoriaethau Presennol
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Mared yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…
Gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg a chyfieithu mewn modiwlau Cymraeg *
- Creu ac hyrwyddo system adrodd ar-lein ar gyfer cyrsiau Cymraeg sy’n cynnwys deunydd a darlithoedd Saesneg heb eu cyfieithu
- Datblygu perthnasoedd gweithredol cryf gyda Chynrychiolwyr Academaidd Cymraeg
----------
|
 |
Sicrhau bod yna fwy o wasanaethau cefnogi myfyrwyr ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg
- Trefnu 2 ddigwyddiad bob tymor i hyrwyddo anghenion iechyd meddwl y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n hunaniaethu fel dynion
- Monitro nifer y myfyrwyr Cymraeg sydd yn defnyddio gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr
----------
|
  |
Ailadeiladu’r berthynas rhwng myfyrwyr Cymraeg ar draws yr holl neuaddau preswyl a gwneud UMCA yn fwy cynhwysol i ddysgwyr/myfyrwyr 2il iaith.
- Trefnu 8 digwyddiad neu sesiynau cymysgu
- Mynychu 2 gyfarfod bob tymor gyda’r Tîm Bywyd Preswyl
----------
|
 |
Mae * yn dynodi polisi a basiwyd yn ddemocrataidd gan fyfyrwyr Aberystwyth.

