Llesiant

Helen Cooper (hi/ei/nhw) - Llesiant

" yw llais myfyrwyr ar gyfer llesiant a rhyddhad"

Mae ei rôl yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein myfyrwyr mor hapus ac iach â phosib.

E-bost: llesiantum@aber.ac.uk

Fy Rôl

 

Bydd y Swyddog Llesiant yn gyfrifol am y canlynol:

  • Cynrychioli corff y myfyrwyr ar faterion sy'n perthyn i lesiant, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr, lles, cydraddoldeb ac amrywioldeb.
  • Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â llesiant myfyrwyr.
  • Ffurfio sail ar gyfer polisïau'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghylch materion sy'n ymwneud â llesiant myfyrwyr.
  • Cynorthwyo a datblygu rhwydwaith o fyfyrwyr ar faterion llesiant drwy gadeirio'r Parth Llesiant.
  • Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth UMPA i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
  • Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.
  • Mynychu cyfarfodydd rheolaidd ag adrannau perthnasol y Brifysgol i ddatblygu llesiant myfyrwyr ymhellach.

 

Pwyllgorau’r Brifysgol / Cyfarfodydd a Fynychwyd:

 

  • Pwyllgor Profiad Myfyrwyr
  • Aber Hygyrch
  • Hyrwyddwyr Cydraddoldeb
  • Cyfarfod Rhwydwaith Canllawiau Cyfoedion
  • Cyfarfod Cydlynwyr Anabledd yr Adran
  • Cyfarfod Grwp Strategaeth Cyffuriau ac Alcohol
  • Grwp Polisi Gweithredu Traws
  • Grwp Monitro Presenoldeb
  • Cyfarfod Prifysgol Aberystwyth Di-blastig

 


Blaenoriaethau Presennol

Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Helen yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae hi wedi’i wneud hyd yma.

 

Sicrhau bod gwasanaethau cadarnhau rhywedd ar gael yn yr UM i fyfyrwyr traws neu o rywedd anghydffurfiol:

• Sefydlu cronfa gadarnhau rhywedd, i helpu lleihau costau nwyddau cosmetig, a chostau newid pasbort a thrwydded.

• Parhau â’r Prosiect ‘Yma a Thraws’ gan sicrhau fod nwyddau ar gael i fyfyrwyr eu defnyddio.

 • Cynnig cymorth a chymuned trwy ddigwyddiadau fel y Cwrdd a Chyfarch LDHTC+, Cylchoedd Cefnogi a sgyrsiau ar drawsnewid

. • Hyrwyddo’r Rhwydwaith Traws

Gwella Gwasanaethau Llesiant Myfyrwyr ar y campws:

• Gweithio gyda’r Gwasanaethau Myfyrwyr i roi cynlluniau Atal Hunanladdiad ar waith ac ailysgrifennu neu adolygu’r polisi sy’n ymwneud â diogelwch a llesiant myfyrwyr.

 • Cynnal Wythnos Llesiant*

• Cynnal sesiynau llesiant rheolaidd yn Undeb y Myfyrwyr i gynnig llefydd sydd heb ffocws ar helpu i’r myfyriwr/wraig wella fel bod eu hastudiaethau’n mynd yn well yn unig.

• Hyrwyddo gwrando’n astud a gweithio ar gymorth cyntaf iechyd meddwl i fyfyrwyr.

 • Gwella cyfathrebu ar draws y campws

Atal Aflonyddu Rhywiol, Ymosodiadau Rhywiol a Sbeicio diodydd a chefnogi goroeswyr:

• Cynnwys citiau gwrth-sbeicio ar gyfer y tu ôl i’r bar a’u dosbarthu yn y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch priodol.

 • Cynnal hyfforddiant cydsyniad i aelodau pwyllgor (Llywyddion, Ysgrifenyddion Llesiant a Chymdeithasol).

• Hyrwyddo gwasanaethau allanol a leolir yn y Brifysgol i gefnogi yn well ac offer ‘Adrodd***’ ar wefan yr UM.

   

Dylai UMAber barhau i gefnogi myfyrwyr traws ac o rywedd amrywiol gan ddarparu cynhyrchion cadarnhau rhywedd. *

----------

Dylem ni gynnal wythnos SHAG bob blwyddyn. *

----------

Dylai’r Brifysgol a’r UM sefyll dros Hawliau Cyffredinol o Blaid Atgenhedlu. *

----------

Atal sbeicio diodydd a chefnogi goroeswyr. *

----------

Mae * yn dynodi polisi a basiwyd yn ddemocrataidd gan fyfyrwyr Aberystwyth.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576