Rachel Barwise
Cyfleoedd Myfyrwyr
"Rachel yw llais myfyrwyr ar gyfer chwaraeon, cymdeithasau a chyfleoedd gwirfoddoli"
Mae'r rôl yn rhoi sylw penodol i ddarparu myfyrwyr Aber â'r profiad gorau posib a chynnig mwy na dim ond gradd.
E-bost: cyfleoeddum@aber.ac.uk
Fy Rôl
Bydd y Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr yn gyfrifol am y canlynol:
- Cynrychioli corff y myfyrwyr ar faterion sy'n ymwneud â chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
- Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
- Ffurfio sail ar gyfer polisïau'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghylch materion sy'n ymwneud â chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
- Cynorthwyo a datblygu rhwydwaith o glybiau a chymdeithasau drwy gadeirio'r Parth Chwaraeon a Chymdeithasau.
- Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth UMPA i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
- Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol. g. Mynychu cyfarfodydd rheolaidd ag adrannau perthnasol y Brifysgol i ddatblygu buddiannau clybiau, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
Pwyllgorau’r Brifysgol / Cyfarfodydd a Fynychwyd:
- Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd
- Grwp Gweithredol Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd
- Grwp Goruchwylio Prevent
- Pwyllgor Ffioedd ac Ysgoloriaethau
Blaenoriaethau Presennol
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Rachel yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma.
Cynyddu’r ymgysylltiad â Tîm Aber
- Trefnu ac hyrwyddo system awgrymu cymdeithasau trwy system fewngofnodi ar-lein cyn Wythnos y Glas
- Trefnu ac hyrwyddo Calendr o weithgareddau Rhowch Gynnig Arni
- Trefnu diwrnodau o weithred wirfoddoli
----------
|
 |
Datblygu clybiau a chymdeithasau cynhwysol
- Datblygu a chynnal gweithdai ‘Dim Esgusodion’ i o leiaf 20 clwb a chymdeithas
- Adolygiad Hygyrchedd a Chynhwysedd yn cael ei gynnal ar gyfer pob clwb a chymdeithas
----------
|
 |
Hyrwyddo a chefnogi digwyddiadau clybiau a chymdeithasau
- Cynyddu nifer y ddigwyddiadau Clybiau a Chymdeithasau a hysbysebir ar wefan yr UM
- Sefydlu system fesuro nifer o fwciadau’r ystafelloedd a lleoliadau yn ystod y flwyddyn academaidd
----------
|
 |
Lobïo’r Brifysgol i ddatblygu strategaeth tymor canolig i hir-dymor ar gyfer Chwaraeon yn y Brifysgol. *
----------
|
 |
Ymestyn mynediad i gampfa'r Ganolfan Chwaraeon ar benwythnosau. *
----------
|
 |
Mae * yn dynodi polisi a basiwyd yn ddemocrataidd gan fyfyrwyr Aberystwyth.