Laura Young - Llywydd Academaidd
"Laura yw llais myfyrwyr ar gyfer popeth academaidd"
Mae ei rôl hi'n rhoi sylw penodol i hyrwyddo buddiannau academaidd ein myfyrwyr.
E-bost: academaiddum@aber.ac.uk
|
Mwy amdanaf i
Fe wnes i isradd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac dwi wrthi’n gorffen fy ngradd meistr mewn Astudiaethau Llenyddol. Dwi wedi gweithio gydag elusennau eraill o’r blaen ee Read With Me, wedi gwirfoddoli â Tenovus a fi oedd pen ar brosiect Llyfrgell Fach Rydd y Brifysgol.
Mae dod i ddeall yn well y newidiadau sydd angen, a dod i ddeall yr hyn sydd o bwys i bobl eraill yn fy ysgogi i.
Yn fy mywyd personol dwi’n mwynhau cerdded ger y môr, cymdeithasu â ffrindiau ar y traeth, bod yn greadigol (dyfrlliw yn enwedig), darllen, ac dwi wrth fy modd gyda’r Moomins!
Ffaith Ddiddorol: Debyg y galla’ i ddyfynnu y rhan fwyaf o St.Trinian's 2007.
|
 |
Blaenoriaethau Presennol
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Laura yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae hi wedi’i wneud hyd yma.
|
Bydd myfyrwyr Aberystwyth yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u cynrychioli. Byddwn yn siarad â myfyrwyr yn rheolaidd er mwyn deall yr heriau y maent yn eu hwynebu, gan sicrhau fod gennym yr wybodaeth sydd ei hangen i'w chyflwyno i'r Brifysgol ac arwain gwaith yr Undeb.
|
   |
|
Ni ddylai un myfyriwr fyw mewn llety llawn llwydni
- Siarad gyda myfyrwyr a chasglu gwybodaeth a straeon am eu profiad tai.
- Meithrin cysylltiadau â’r Cyngor Lleol yn ogystal â Llywodraeth Cymru.
- Edrych ar ffyrdd o sicrhau fod eiddo ar rent yn gorfod darparu sgôr tamprwydd cyhoeddus.
- Edrych ar ddeddf hawliau rhentwyr yng Nghymru.
- Rhoi canllawiau clir a hawdd eu deall i fyfyrwyr ar eu hawliau fel rhentwyr at ei gilydd.
- Darparu teclynnau mesur tamprwydd i’w benthyg i fyfyrwyr tra’n ymweld â llety.
|
 |
|
----------
|
 |
|
----------
|
 |
|
----------
|
 |
|
|
| |
Mae * yn dynodi polisi a basiwyd yn ddemocrataidd gan fyfyrwyr Aberystwyth. Darganfod mwy
Bydd y Llywydd Academaidd yn gyfrifol am y canlynol:
- Cynrychioli corff y myfyrwyr ar faterion sy'n ymwneud materion academaidd, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol ac lraddedig, ac ehangu cyfranogiad.
- Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd syn ymwneud materion academaidd. Ffurfio sail ar gyfer polisiuml'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghylch materion sy'n ymwneud materion academaidd.
- Cynorthwyo a datblygu rhwydwaith o gynrychiolwyr academaidd drwy gadeirio'r Fforwm Academaidd.
- Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch di'm rheolaeth UMPA i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
- Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd ag adrannau perthnasol y Brifysgol i ddatblygu buddiannau academaidd.
Pwyllgorau'r Brifysgol / Cyfarfodydd a Fynychwyd:
- Bwrdd Academaidd
- Pwyllgor Gwella Academaidd
- Dysgu ac Addysgu
- Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial
- Bwrdd Darpariaethu Cydweithredol
- Pwyllgor Cynllunio’r Portfolio
- Cyfarfod y Pwyllgor Ywchwil ac Arleosi
- Psyllgor Graddau Ymchwil
- Senedd
- Grwp Rheoli Ystadau
- Grwp Llywio Gwaith Achos Myfyrwyr
- Gweithgor Llais y Myfyrwyr
- Grwp Llywio Amserlennu
- Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru