Dax FitzMedrud (nhw/ eu) + Elena Bloomquist (hi/nhw/ei) - Swyddog LHDTQ+
"Mae Dax a Elena yn cefnogi myfyrwyr o’r grwp rhyddhau LDHTC+ yn yr Undeb."
Email: daf38@aber.ac.uk
Cyfrifoldebau holl Swyddogion Gwirfoddol
- Mynychu pob cyfarfod UMAber a’r Brifysgol gan gynnwys cyfarfodydd y Senedd a Fforymau.
- Gweithredu mewn modd proffesiynol a phriodol bob amser.
- Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu yn cael eu cymryd yn unol â chyfansoddiad UMAber a pholisi cyfredol UMAber.
- Bod yn barod i adrodd ar gynnydd y gwaith o dan eu cylch gorchwyl.
- Cyfarfod a chysylltu'n rheolaidd â Swyddogion Ymddiriedolwyr ac aelodau staff perthnasol.
- Mynychu y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch perthnasol trwy gydol y flwyddyn.
- Mynychu’r Bwrdd Cynghori perthnasol.
- Mynychu’r holl hyfforddiant perthnasol i’w rôl.
Cyfrifoldebau’r Swyddog LDHTC+
|
• Cynrychioli myfyrwyr sy'n ystyried eu hunain fel LGBTQ+ ar faterion sy'n berthnasol iddynt.
• Cydlynu ac arwain ymgyrchoedd ar faterion yn ymwneud ag anghenion myfyrwyr LGBTQ+.
• Gweithredu fel ffynhonnell gwybodaeth a phwynt cyswllt ar gyfer myfyrwyr LGBTQ+.
• Cynghori UMAber ar ffyrdd y gall wella ei waith yn unol ag anghenion myfyrwyr LGBTQ+.
|
Gweithio gyda myfyrwyr, swyddogion amser llawn a swyddogion ledled Cymru a’r DU i sicrhau bod anghenion myfyrwyr LGBTQ+ yn cael eu cynrychioli a hyrwyddo nodau’r Ymgyrch LGBTQ+
Blaenoriaethau Presennol
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Dax + Elena yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…
Mae’r Swyddogion LDHT+ wedi rhannu’r rôl er mwyn ymdrin â mwy o feysydd rhyddid. Am y rhan fwyaf (ond ddim yn gyfan gwbl) holltwyd y rôl fel bod un yn canolbwyntio ar Ryddid LHDT+ a’r llall ar Ryddid Traws+. Dyma eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn: 1. Cefnogi’r Rhwydwaith Traws+ (Golygir Traws+ myfyrwyr Trawsryweddol ac o rywedd anghydffurfiol) Trefnu a chynnal digwyddiadau i fyfyrwyr Traws+ ddod at ei gilydd a chreu rhwydwaith diogel. Hyrwyddo’r rhwydwaith fel bod myfyrwyr Traws+ yn ymwybodol o’i fodolaeth. Casglu adborth oddi wrth fyfyrwyr Traws+ a’i rannu gyda’r Undeb ynglyn â chynnig gwell gymorth. Toiledau Niwtral o ran Rhywedd Diweddaru’r rhestr o le mae’r toiledau niwtral o ran rhywedd ar gampws Penglais. Cysylltu ag Adrannau Hugh Owen ynghylch sefydlu toiled niwtral o ran rhywedd. Cefnogi’r Wythnos SHAG Creu cyfleoedd i iechyd rhywiol LDHT+ Gweithio gyda’r Undeb i ddefnyddio iaith gynhwysol. Cefnogi Mis Hanes LDHTC+ Trefnu digwyddiad Dathlu Balchder. Ymchwilio thema eleni a threfnu gweithgareddau. Gweithio gyda’r Swyddogion Rhyddid eraill ar weithgareddau ar y cyd. Gweithio gyda’r Swyddog Myfyrwyr DALIE ar gynghrair solidariaeth Cefnogi Mis Hanes Anableddau
Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...