Dax FitzMedrud (Nhw/Eu) - Swyddog Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol
Mae Dax yn cefnogi holl ryddid i fyfyrwyr Traws ac o rywedd anghydffurfiol yn yr Undeb.
E-bost: daf38@aber.ac.uk
Wedi dwyn perswâd arnyn nhw, Dax sy’n cymryd y rôl eleni. Mae hyn yn golygu nad oes ganddynt bleidlais yn y Senedd eleni.
Cyfrifoldebau holl Swyddogion Gwirfoddol
- Mynychu pob cyfarfod UMAber a’r Brifysgol gan gynnwys cyfarfodydd y Senedd a Fforymau.
- Gweithredu mewn modd proffesiynol a phriodol bob amser.
- Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu yn cael eu cymryd yn unol â chyfansoddiad UMAber a pholisi cyfredol UMAber.
- Bod yn barod i adrodd ar gynnydd y gwaith o dan eu cylch gorchwyl.
- Cyfarfod a chysylltu'n rheolaidd â Swyddogion Ymddiriedolwyr ac aelodau staff perthnasol.
- Mynychu y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch perthnasol trwy gydol y flwyddyn.
- Mynychu’r Bwrdd Cynghori perthnasol.
- Mynychu’r holl hyfforddiant perthnasol i’w rôl.
Cyfrifoldebau y Swyddog Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol.
- Cynrychioli myfyrwyr sy’n huniaethu fel Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol (sef y rheini sy’n Draws a hefyd yn anneuaidd neu’n Anghydffurfiol eu Rhywedd) ar faterion sy’n berthnasol iddynt.
- Cydlynu ac arwain ymgyrchoedd dros faterion sy’n ymwneud ag anghenion myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol. · Bod yn ffynhonnell wybodaeth a man cyswllt i fyfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol.
- Rhoi cyngor i UMAber ar y ffyrdd y gall wella ei waith yn ôl anghenion myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol.
- Gweithio gyda myfyrwyr, y swyddogion llawn amser a swyddogion ar draws Cymru a’r DU i sicrhau bod anghenion myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol yn cael eu cynrychioli.
Blaenoriaethau Presennol:
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Dax yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…
I weld y diweddaraf gan y Swyddog Traws+ ac o Rywedd Anghydffurfiol, gweler tudalen y Swyddogion LHDTC+ yma
Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...