Swyddog Myfyrwyr Anabl

Xiavier Powley (fe/ei) - Swyddog Myfyrwyr anabl

"Mae Xiavier yn cefnogi myfyrwyr o’r grwp rhyddhau anabl yn yr Undeb."

E-bost:: xap1@aber.ac.uk

 

Cyfrifoldebau holl Swyddogion Gwirfoddol

  • Mynychu pob cyfarfod UMAber a’r Brifysgol gan gynnwys cyfarfodydd y Senedd a Fforymau.
  • Gweithredu mewn modd proffesiynol a phriodol bob amser.
  • Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu yn cael eu cymryd yn unol â chyfansoddiad UMAber a pholisi cyfredol UMAber.
  • Bod yn barod i adrodd ar gynnydd y gwaith o dan eu cylch gorchwyl.
  • Cyfarfod a chysylltu'n rheolaidd â Swyddogion Ymddiriedolwyr ac aelodau staff perthnasol.
  • Mynychu y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch perthnasol trwy gydol y flwyddyn.
  • Mynychu’r Bwrdd Cynghori perthnasol.
  • Mynychu’r holl hyfforddiant perthnasol i’w rôl.

 

Cyfrifoldebau’r Swyddog Myfyrwyr Anabl

• Cynrychioli myfyrwyr sy'n nodi eu bod yn anabl ar faterion sy'n berthnasol iddynt.

• Cydlynu ac arwain ymgyrchoedd ar faterion sy'n ymwneud ag anghenion myfyrwyr anabl

• Gweithredu fel ffynhonnell gwybodaeth a phwynt cyswllt i fyfyrwyr anabl.

• Cynghori UMAber ar ffyrdd y gall wella ei waith yn unol ag anghenion myfyrwyr anabl.

 
• Gweithio gyda myfyrwyr, swyddogion amser llawn a swyddogion ledled Cymru a'r DU i sicrhau bod anghenion myfyrwyr anabl yn cael eu cynrychioli a hyrwyddo nodau'r Ymgyrch Myfyrwyr Anabl.

 


Blaenoriaethau Presennol:

Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Xiavier yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…

Addysg i staff y Brifysgol ar Anableddau.

 · Cwrdd â’r Gwasanaethau Myfyrwyr.

 · Cwrdd â staff y Brifysgol i drafod rhoi hyfforddiant yn y cynllun cydraddoldeb strategol at y dair blynedd nesaf.

· Gweithio gyda’r Swyddogion Llawn Amser i sicrhau bod holl staff y Brifysgol wedi’u hyfforddi ar Anableddau ac Addysg ar Niwroamrywiaeth.

· Cyfathrebu gyda’r myfyrwyr ynglyn â’u profiadau.

Cefnogi Mis Hanes Pobl Anabl.

· Helpu trefnu a rhedeg digwyddiadau i bob myfyriwr/wraig eu mynychu i ddysgu am a dathlu anableddau a niwroamrywiaeth.

Cynnal mwy o ddigwyddiadau Cwrdd a Chyfarch Anabl a Niwroamwryiol eu naws yn amlach.

· Cynnal unwaith y mis yn ystod bob tymor academaidd.

   

 

 


Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...

 

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock 

Ais13@aber.ac.uk

LlaisUM@aber.ac.uk

Swyddog Myfyrwyr anabl

Xiavier Powley

umanabl@aber.ac.uk

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576