Hysbysebu

Photos showing advertising at Aberystwyth Students Union

Pam dylid hysbysebu gydag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth? 

Yma, yn nhref hanesyddol Aberystwyth mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cynrychioli dros 8,000 o fyfyrwyr. Lleolir ein tref hardd a chroesawgar ar arfordir Gorllewin Cymru rhwng Mynyddoedd Cambria a Bae Ceredigion ac fe welwn ni fyfyrwyr o ledled y byd yn dod atom bob blwyddyn. 

Rydyn ni yma i sicrhau bod myfyrwyr Aber yn caru bywyd myfyrwyr, ac fel hynny, rydyn ni’n y lle gorau i gysylltu myfyrwyr â brandiau y byddan nhw’n eu caru. Mae ein myfyrwyr yn chwarae rhan fawr yn yr Undeb gyda thros 16,000 o ddilynwyr ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a channoedd yn manteisio ar ein gofodau. Prifysgol Aberystwyth yw’r uchaf yn y DU o ran bywyd myfyrwyr. 

 

Cyflwyno Native: Ein partner cyfryngau

I hysbysebu gyda ni ar-lein neu ar y campws, cysylltwch â Native. Fel partner hysbysebu unigryw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, mae Native yn rhedeg ein cyfryngau ar y campws a gall helpu i chi feithrin perthnasoedd cynaliadwy ac ystyrlon gyda myfyrwyr 18-25 oed. Gellir dysgu mwy am gyfleoedd hysbysebu gydag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth trwy ein pecyn cyfryngau. 

 

I archebu eich ymgyrch nesaf a dechrau cyrraedd myfyrwyr yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, cysylltwch â native heddiw.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576