Cadeirydd yr Undeb

Joe Thomas (fe/ei) - Cadeirydd yr undeb

“Mae Joe yn cefnogi strwythurau democrataidd yr Undeb.”

E-bostl: umcadeirydd@aber.ac.uk


Cyfrifoldebau holl Swyddogion Gwirfoddol

 

  • Mynychu pob cyfarfod UMAber a’r Brifysgol gan gynnwys cyfarfodydd y Senedd a Fforymau.
  • Gweithredu mewn modd proffesiynol a phriodol bob amser.
  • Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu yn cael eu cymryd yn unol â chyfansoddiad UMAber a pholisi cyfredol UMAber.
  • Bod yn barod i adrodd ar gynnydd y gwaith o dan eu cylch gorchwyl.
  • Cyfarfod a chysylltu'n rheolaidd â Swyddogion Ymddiriedolwyr ac aelodau staff perthnasol.
  • Mynychu y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch perthnasol trwy gydol y flwyddyn.
  • Mynychu’r Bwrdd Cynghori perthnasol.
  • Mynychu’r holl hyfforddiant perthnasol i’w rôl.

 

Cyfrifoldebau Cadeirydd yr Undeb

  • Gweithio gyda'r Llywydd a'r staff perthnasol i drefnu Cyfarfodydd y Senedd a Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, gan sicrhau bod cyfarfodydd wedi'u trefnu a'u hysbysebu'n dda.
  • Cadeirio'r Senedd a Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol yn effeithiol gyda dealltwriaeth gref o ofynion Cyfansoddiad UMAber. Ymgynghori â'r staff a'r swyddogion perthnasol i sicrhau bod ymagwedd bwrpasol yn cael ei mabwysiadu wrth ddehongli Cyfansoddiad UMAber.
  • Sicrhau bod aelodau UMAber yn deall gweithdrefnau Cyfarfodydd y Senedd a Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol yn dda.
  • Sicrhau y cedwir at reolau a safonau ymddygiad UMAber yng Nghyfarfodydd y Senedd a Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, yn enwedig o ran polisïau craidd UMAber.

 


Blaenoriaethau Presennol:

Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Joe yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…

 


Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...

 

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock 

Ais13@aber.ac.uk

LlaisUM@aber.ac.uk

Cadeirydd yr undeb

Joe Thomas

umcadeirydd@aber.ac.uk

 

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576