Swyddog yr Amgylchedd a Ahynaladwyedd
Sully Ap Najeeb (ei/hi) - Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd
"Mae Sully yn gefn i holl fentrau cynaladwyedd amgylcheddol yr Undeb."
E-bost: sun1@aber.ac.uk
Cyfrifoldebau holl Swyddogion Gwirfoddol
- Mynychu pob cyfarfod UMAber a’r Brifysgol gan gynnwys cyfarfodydd y Senedd a Fforymau.
- Gweithredu mewn modd proffesiynol a phriodol bob amser.
- Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu yn cael eu cymryd yn unol â chyfansoddiad UMAber a pholisi cyfredol UMAber.
- Bod yn barod i adrodd ar gynnydd y gwaith o dan eu cylch gorchwyl.
- Cyfarfod a chysylltu'n rheolaidd â Swyddogion Ymddiriedolwyr ac aelodau staff perthnasol.
- Mynychu y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch perthnasol trwy gydol y flwyddyn.
- Mynychu’r Bwrdd Cynghori perthnasol.
- Mynychu’r holl hyfforddiant perthnasol i’w rôl.
Cyfrifoldebau Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd
• Cynrychioli myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â'r amgylchedd a chynaliadwyedd.
• Cydlynu ac arwain ymgyrchoedd ar faterion yn ymwneud â'r amgylchedd a chynaliadwyedd.
• Gweithredu fel ffynhonnell gwybodaeth a phwynt cyswllt i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn materion amgylcheddol.
• Cynghori UMAber ar ffyrdd y gall wella effaith amgylcheddol ei waith yn lleol ac yn fyd-eang.
• Gweithio gyda myfyrwyr, swyddogion amser llawn a swyddogion eraill ledled Cymru a'r DU i weithio ymhellach ar faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd.
|
• Cefnogi Effaith Werdd UMAber.
Blaenoriaethau Presennol
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Sully yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…
Cynnal adolygiad cynaladwyedd o’r UM a’i grwpiau myfyrwyr.
· Ysgrifennu cwestiynau a rhoi system adolygu at ei gilydd.
· Trefnu grwpiau ffocws ac ymchwil i’r Undeb a grwpiau myfyrwyr.
· Ysgrifennu adolygiad o ymatebion i’r arolwg.
· Rhoi cyngor i’r Undeb ar ganlyniadau cynaladwyedd.
|
|
Cefnogi’r Undeb yng nghynllun yr Effaith Werdd.
· Cefnogi ymchwil cynradd gyda myfyrwyr.
|
|
|
|
Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...