Swyddog Myfyrwyr Annibnnol

GWAG  - Swyddog myfyrwyr annibnnol

"Mae GWAG yn cefnogi cynrychioli myfyrwyr annibynnol yn yr Undeb."

E-bost: umannibnnol@aber.ac.uk

 

 

Cyfrifoldebau holl Swyddogion Gwirfoddol

  • Mynychu pob cyfarfod UMAber a’r Brifysgol gan gynnwys cyfarfodydd y Senedd a Fforymau.
  • Gweithredu mewn modd proffesiynol a phriodol bob amser.
  • Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu yn cael eu cymryd yn unol â chyfansoddiad UMAber a pholisi cyfredol UMAber.
  • Bod yn barod i adrodd ar gynnydd y gwaith o dan eu cylch gorchwyl.
  • Cyfarfod a chysylltu'n rheolaidd â Swyddogion Ymddiriedolwyr ac aelodau staff perthnasol.
  • Mynychu y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch perthnasol trwy gydol y flwyddyn.
  • Mynychu’r Bwrdd Cynghori perthnasol.
  • Mynychu’r holl hyfforddiant perthnasol i’w rôl.

 

Cyfrifoldebau y Swyddog Myfyrwyr Annibynnol

• Cynrychioli myfyrwyr sy'n nodi eu bod yn annibynnol (gan gynnwys y rhai sy'n gadael gofal, myfyrwyr sydd wedi dieithrio, ffoaduriaid, gofalwyr ifanc, a rhieni mewn addysg) ar faterion sy'n berthnasol iddynt.

• Cydlynu ac arwain ymgyrchoedd ar faterion yn ymwneud ag anghenion myfyrwyr annibynnol.

• Gweithredu fel ffynhonnell gwybodaeth a phwynt cyswllt i fyfyrwyr annibynnol.

• Cynghori UMAber ar ffyrdd y gall wella ei waith yn unol ag anghenion myfyrwyr annibynnol.

 
• Gweithio gyda myfyrwyr, swyddogion amser llawn a swyddogion ledled Cymru a'r DU i sicrhau bod anghenion myfyrwyr annibynnol yn cael eu cynrychioli.

 


Blaenoriaethau Presennol:

Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae GWAG yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…

 


Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock 

Ais13@aber.ac.uk

LlaisUM@aber.ac.uk

  Swyddog myfyrwyr annibnnol

GWAG

umannibnnol@aber.ac.uk

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576