Rhwydwaith Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol

Sefydlwyd y Rhwydwaith Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol ym Medi 2023 wedi trafodaethau gyda’r Brifysgol yn sôn am yr angen i feithrin gofod diogel a chroesawgar i fyfyrwyr sy’n draws, o rywedd anghydffurfiol, neu’n cwestiynu. Wedi’i drefnu gan y Swyddogion Gwirfoddol LDHTC+, Dax ac Elena, oedden nhw am wneud yn siwr bod cymuned i bob myfyriwr yma yn Aberystwyth.

 

   Mae gan y Rhwydwaith bedwar prif nod:

  • Cynnig gofodau cymdeithasol i fyfyrwyr traws ac o rywedd anghydffurfiol ddod at ei gilydd a mwynhau eu hamser yn Aberystwyth.
  • Rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol gydag adnoddau llesiant perthnasol.
  • Cynnal gweithdai a digwyddiadau i addysgu’r gymuned ehangach ar gynnwys pobl draws ac iaith ryddhau.
  • Cynnig llwyfan i fyfyrwyr traws ac o rywedd anghydffurfiol gael dweud eu dweud ar benderfyniadau yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.

 

Gellir ymuno â’r rhwydwaith yn rhad ac am ddim ac mae croeso i holl fyfyrwyr traws ac o rywedd anghydffurfiol yn ogystal â’r rhai sy’n cwestiynu a chynghreiriaid sy’n dod i gefnogi ffrind.


Nodyn oddi wrth ein Swyddogion LDHTC+, Dax ac Elena:

"Ein gobaith ni gyda’r rhwydwaith myfyrwyr traws ac o rywedd anghydffurfiol hwn yw i ddod â phobl cwîar yn Aber yn agosach at ei gilydd. Dyn ni eisiau cefnogi cymaint o bobl â phosib ar eu taith i ddarganfod eu hunan, ni waeth be fo’r cyfeiriad. Fe ydw’i yn bersonol am i’r rhwydwaith hwn fod yn ofod i bobl ddod i gael help gydag unrhyw broblemau o natur rhyweddol. Mae darganfod eich hunan a’r amser gwleidyddol cythryblus sydd ohoni yn gallu ei gwneud hi’n anodd gwybod ym mha le y gellir cael cymorth. Dyma obeithio ei gwneud hi’n haws i bawb trwy sefydlu cymuned!"

 

Toiledau Niwtral o Ran Rhywedd ar Gampws Penglais

Cefnogaeth i Fyfyrwyr Trawsryweddol a Rhywedd-amrywiol Aberywtyth Gwasanaethau Myfyrwyr

 

 



Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...

Swyddog LHDTQ+ 

Dax FitzMedrud  + Elena Bloomquist 

umlhdtq+@aber.ac.uk

LLESIANT

Helen Cooper

llesiantum@aber.ac.uk

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk  /  

suvoice@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576