STREIC UCU

Yn y Cyfarfod Mawr (Cyf Cyff), fe basiwyd polisi gan y myfyrwyr i gefnogi streiciau’r UCU. Byddwn yn parhau i gefnogi diddordebau academaidd myfyrwyr ac rydym yn gyrru ein cefnogaeth ac yn cydsefyll gyda’n staff Prifysgol sy’n mynd ar streic.

Pam fod yr UCU yn streicio? 

Mae’r Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU), yn sgil pleidlais gyfunol gan yr holl aelodaeth, wedi galw am ail gyfnod o weithredu diwydiannol yn ymwneud ag amodau gweithio, cyflog a phensiynau. Bydd streiciau ar draws y DU, mae Prifysgol Aberystywth ymysg y 150 o brifysgolion a welir gweithredu diwydiannol. 

Mae’r gweithrediadau hyn yn cynnwys streiciau (wedi diffyg llwyddiant mewn trafodaethau ers y streic diwethaf) bydd streiciau yn ystod y dyddiau isod: 

  • Mercher 1 mis Chwefror 

  • Iau 9 mis Chwefror 

  • Gwener 10 mis Chwefror 

  • Mawrth 14 mis Chwefror 

  • Mercher 15 mis Chwefror 

  • Iau 16 mis Chwefror 

  • Mawrth 21 mis Chwefror 

  • Mercher 22 mis Chwefror 

  • Iau 23 mis Chwefror 

  • Llun 27 mis Chwefror 

  • Mawrth 28 mis Chwefror  

  • Iau 2 mis Mawrth 

  • Iau 16 mis Mawrth 

  • Gwener 17 mis Mawrth 

  • Llun 20 mis Mawrth 

  • Mawrth 21 mis Mawrth 

  • Mercher 22 mis Mawrth 2023. 

Mae’r streiciau yn ymwneud â’r gofynion penodol hyn gan yr UCU: 

  • Cynyddu tâl i adlewyrchu o leiaf chwyddiant +2 neu 12% p’un bynnag yw’r gwerth uchaf 

  • Cau’r bylchau cyflog rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd 

  • Cael gwared â’r toriadau cyflog ar aelodau cynllun pensiwn yr USS ac adfer buddion i lefelau 2021


Ewch i’r "Streiciau - Canllaw i Fyfyrwyr" gan Student Ambassador, yma!


Newyddion UMAber:

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576