Streiciau’r UCU

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Streiciau’r UCU 

Yn sgil y diffyg penderfyniadau wedi trafodaethau ers y streiciau cynt, mae’r Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) wedi galw am ail gyfnod o weithred ddiwydiannol. Gyda’r streiciau cyntaf yn digwydd yr wythnos hon, dyma grynodeb o’r hyn sydd ar y gweill a ble y gellir cael rhagor o wybodaeth. 

Dyddiau y streiciau: 

  • Wythnos 1: Mercher 1 mis Chwefror 
  • Wythnos 2: Iau 9 a Gwener 10 mis Chwefror 
  • Wythnos 3: Iau 14 i Iau 16 mis Chwefror 
  • Wythnos 5: Mawrth 21 i Iau 23 mis Chwefror 
  • Wythnos 5: Llun 27 Chwefror i Iau 2 mis  Mawrth 
  • Wythnos 6: Dim gweithredu diwydiannol wythnos 6 mis Mawrth 
  • Wythnos 7: Iau 16 a Gwener 17 mis  Mawrth 
  • Wythnos 8: Llun 20 i Fercher 22 mis Mawrth 

Gall y streiciau beri i ddarlithoedd gael eu canslo yn ystod y dyddiadau uchod ac efallai na fyddant yn cael eu haildrefnu na’u huwchlwytho i Panopto. Nid oes disgwyl unrhyw foicotio marcio neu asesiadau yn ystod y dyddiadau hyn.  

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglyn ag ymuno â’r Linellau Piced neu ynglyn â’r streiciau yn gyffredinol, mae croeso i chi gysylltu ag UCU Prifysgol Aberystwyth: ucu-aber@aber.ac.uk

I ddeall eich hawliau’n well, mae’r Swyddfa Fyfyrwyr wedi rhoi canllaw at ei gilydd i chi ei ddarllen yma (yn uniaith Saesneg): officeforstudents.org.uk/for-students/student-rights-and-welfare/student-guide-to-industrial-action/ 

Bydd UMAber a’n gwasanaethau yn dal ar agor yn ystod y streiciau hyn. Nid oes gan Undeb y Myfyrwyr safbwynt gwleidyddol tuag at y streiciau hyd yn hyn. Os ydych chi eisiau i Undeb y Myfyrwyr gymryd safbwynt gwleidyddol, rydym yn annog i chi gyflwyno syniad i ni am y safbwynt y dylem ni gymryd trwy ein gwefan Syniadau erbyn 12pm Chwefror 6ed: https://www.umaber.co.uk/newidaber/eichsyniadau/. 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576