Niwroamrywiaeth

Crewyd y dudalen hon er budd unigolyn niwroamrywiol – gyda diagnosis neu beidio – fel bod cymuned ac adnoddau trwy gydol eich amser yn y Brifysgol. Ar ben hyn, efallai y bydd gwybodaeth o ddefnydd o ran cyngor academaidd, gweld darnau gan fyfyrwyr a chael gwell ddealltwriaeth o Niwroamrywiaeth!


Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth

Hyfforddiant Niwroamrywiol gyda Phrif Weithredwraig Undeb Aberystwyth, Trish

Sesiwn Gwestiynau ac Atebion gyda’r Gwasanaeth Hygyrchedd

 

 


Darnau gan Fyfyrwyr

Yno y buom ni i gyd yn byw

Roedd yn crynu gan yr oerfel heb do Chi roddodd loches a llecyn cynnes i fi Braf heb yr un cartref â’i debyg Arogl hwt bydol a chartrefol Gyda gwyntoedd o’r goedwig law Galwadau’r goedwig berodd ddryswch Gyda chytgan brydlon...o adar yn canu i bryfed mewn rhythm Tawelwch nosweithiau o law o brig y coed bob nos yn y pendraw Tân yn llosgi ac yn cynhesu pob cornel Goleuni’n uwch i’w daldra fel goleuad gogoneddus Dim ond llygod sy’n digwydd mynd drosodd Byddai llawer o greaduriaid fod wedi dod yma o’r blaen Gwnaed y drws o foncyff a llenwyd y bylchau gyda phinwydd sgriw Cysgu... cysgasom A phawb ei dro i gadw’r tân i losgi Ffrindiau a gelynion wrth y drws gyda’r noson Yn bryderus wedi heriau llym Un dydd torrwyd dy galon yn hanner Finnau hefyd Wylais yn anobeithiol mewn glaw trwm A daeth y wawr drosof Daeth ffrind o bentrefan wellt Doedd y tân ddim yr un mor gynnes na braf â’r arfer Adref â ni ymhell oddi wrth y goedwig law Bydd y cnau pandanus yn barod at y cylch nesaf A phothelli ar hyd ein coesau a’n hwynebau’n gleisiau Cyrraedd adref o’r diwedd Swn bwrlwm plant a thasgau dynion Dyma dad yn dweud o’r diwedd “dy dro di yw hi fy mab i”

Gan Tobert Ken, myfyriwr ymchwil gradd meistr mewn Amaethyddiaeth gydag IBERS ar-lein

Fideo TikTok gan Robyn: “wrth i ti lywio’r byd gyda diagnosis ADHD, fe ddaw i’r amlwg bod rhai yn dy weld yn euog nes y profir yn ddieuog yn hytrach na’r ffordd arall. Cest ti ar ddeall dy fod di’n anabl a disgwyl wynebu rhagfarn yn erbyn anableddau sy’n dy drin yn is-raddol am fod angen addasiadau ar dy gyfer, am dy symptomau, am dy feddyginiaeth a bod rhaid chwilio amdani. Ond mae hefyd teimlad bod gweddill y byd o’r farn fod y pethau hyn wedi dy lygru rhywfodd. Ac oherwydd hyn dy fod di’n amheus, yn rheibus hyd yn oed. Ar ei orau, dy fod di’n anghyfrifol. Bydd dy feddyg teuluol yn dangos i ti restrau o symptomau o broblemau cymdeithasu y gallai ADHD beri i ti. Byddant yn gadael i ti feddwl mai arnat ti yn unig mae’r bai ac nid y ffaith na wrandawon nhw ar dy ddiagnosis a disgwyl i ti ymddwyn pe na baet ti wedi pan yn ei ddal yn dy erbyn”. Cymerwch olwg ar y fideo yma drwy TikTok
 

 

Rydyn ni hefyd mor ffodus o fod â Chymdeithas Niwroamrywiol yma yn Undeb Aberystwyth, ewch i ymweld â’i chynnwys yma


Gwasanaethau’r Brifysgol

Sefydliadau Allanol

cymorth sydd ar gael i chi:

  • Partneriaid Hygyrch: Mae’r gwasanaeth hwn yn bodoli fel y gall unrhyw un sydd ag anabledd neu anawsterau lwyddo mewn bywyd wrth addasu ar gyfer eu hanghenion unigol. Gallant hefyd helpu i chi fanteisio ar arian oddi wrth y llywodraeth fel bod darpariaeth deg o’r cymorth sydd angen arnoch chi yn y gweithle.
  • Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cymru: Lleolir y gwasanaeth hwn yng Ngheredigion. Mae’n cynnig asesiadau diagnostig am awtistiaeth i oedolion (weithiau ar y cyd gyda gwasanaethau eraill), cymorth a chyngor i oedolion, rhieni/gofalwyr a gweithwyr awtistig.

Elusennau: mae cymorth, ymgyrchoedd ac adnoddau defnyddiol ar gael i chi trwy’r holl sefydliadau hyn.

Oes yna elusennau eraill sydd dod i’r meddwl ganddoch chi y dylem ni rannu gyda’n myfyrwyr? Gadewch i ni wybod drwy llaisum@aber.ac.uk

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576