#GrymusoAber

 

Yn 2024 enillom wobr Cydnabyddiaeth UCM Cymru am ein gwaith Grymuso Aber!


Ymgyrch i ysbrydoli menywod a myfyrwyr o rywedd anghydffurfiol Prifysgol Aberystwyth i fod y gorau posibl mewn chwaraeon, cymdeithasau a bywyd academaidd yw #GrymusoAber.

Er mwyn i’r ymgyrch ddigwydd ar y cyd â Mis Hanes Menywod, rydyn ni wedi’i symud i fis Mawrth, a thema eleni yw ‘Menywod sy’n dadlau dros Degwch, Amrywioldeb, a Chynwysoldeb’.

Yn ystod mis #GrymusoAber, byddwn yn annog i gymuned fyfyrwyr Aber roi cynnig ar bethau newydd a gadael eu cylch cysur, boed trwy dreial chwaraeon newydd neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasau/academaidd a allai fod o ddiddordeb iddynt.

Rydyn ni’n lansio’r ymgyrch i fyfyrwyr Aberystwyth i ddangos na ddylai eu hofn o gael eu barnu eu rhwystro rhag cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd. Ar ben hyn, credwn ni y dylai myfyrwyr menywaidd ac o rywedd anghydffurfiol fod â chyfle teg a chyfartal ymhob sector o waith a gweithgaredd hamddenol.

Rydyn ni wedi creu’r ymgyrch hon oherwydd ein bod ni eisiau tynnu sylw at feysydd lle bo anghyfartaledd rhwng niferoedd dynion, menywod a’r rheini o rywedd anghydffurfiol sef perchen a rheoli busnesau neu gael swyddi yn y diwydiant Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, a Mathemateg.

Ein gobaith yw bod y mis hwn yn dangos bod croeso i fenywod a myfyrwyr o rywedd anghydffurfiol yn yr holl feysydd hyn trwy eu hannog a’u grymuso fel y byddant yn mynd amdani. Cadwch olwg ar ein gwefan a sianeli ein cyfryngau cymdeithasol yn nes at yr amser i weld calendr ein digwyddiadau a’n cyfleoedd yn ystod yr wythnos!


2024 Atgofion


Arddangosfa Cyfryngau Cymdeithasol Grwp Myfyrwyr - Ar hyd y Mis - Ar hyd y Mis - 

 

Edrychwch ar ein grwpiau myfyrwyr a thudalennau instagram UM

 

Fideos Alumni - Ar hyd y Mis - Ar hyd y Mis - Edrychwch ar instagram UM

 

Sesiwn Roboteg Aber (Sesiwn Crefft a Sgiliau) - pob Dydd Mercher - 14:00-17:00 - MP1.00  Physical  Science Building

 

Sgwrs gyrfaoeddABER Enterprise ar fenywod mewn busnes - 6ed o Fawrth - 14:00 - gweminar: Click here to join the meeting

 

Sesiwn Beintio Kaotica - 6ed o Fawrth - 12:00 - 18:00 - Ystafelloedd Cefn UM

 

Gwneud Llyfrnodau Rhydd Llyfrgell Fach - 7fed o Fawrth - 12:00 - 16:00 - Ystafell UM 4

 

Gwobrau Gwelededd Prifysgol Aberystwyth - 8fed o Fawrth - 09:00 - 12:30 - Ystafell astudio Iris De Freitas ac ystafell eth Hermann, Llyfrgell

 

Rocsoc - Merched o Roc - 12fed o Fawrth - 21:00 -  Dechrau a’r Inn on the pier

 

Bore Coffi Ôl-raddedigion - 22ain o Fawrth - 11:00 - 12:00 - UMAber Picturehouse

 

Dosbarthiadau Canolfan Chwaraeon am ddim - TBC - TBC -TBC




Pryd: 21ain – 27ain Tachwedd 2022

 

Amserlen digwyddiadau:

ENW'R DIGWYDDIAD DYDDIAD AMSER LLEOLIAD
#GrymusoAber: Sialens Strava 10k all week all day Ymunwch â'r grwp yma!
#GrymusoAber: Dosbarthiadau Canolfan Chwaraeon am ddim all week all week Cofrestrwch i'r dosbarthiadau yma!
#GrymusoAber: Cwrdd a Chyfarch Traws 21/11/2022 15:00-17:00 Picturehouse
#GrymusoAber: Dydd Mercher BUCS 23/11/2022 all day Gwahanol leoliadau yn Aberystywth
#GrymusoAberr: Sodro a Cylchedau gyda Aber Crafts 23/11/2022 15:00-18:00 Pantycelyn
#GrymusoAber: Cwrdd a Chyfarch Merched* 24/11/2022 15:30-16:30 Picturehouse
#GrymusoAber: Cymorth Cyntaf gyda St Johns 24/11/2022 18:00-20:00 Picturehouse
#GrymusoAber: Bore Coffi Ôl-Radd Merched 25/11/2022 11:00-12:30 Ystafell 5
#GrymusoAber: Cwrdd a Chyfarch LHDTQ+ 25/11/2022 13:00-15:00 Picturehouse
#GrymusoAber: Nofiad Cwiar gyda AberBalch 25/11/2022 18:00-20:00 Canolfan Chwaraeon
#GrymusoAber: Aber Town Women vs The New Saints 04/12/2022 KO 14:00 Park Avenue

 

I gofrestru digwyddiad yr ydych yn dymuno ei gynnal, cysylltwch â'ch Swyddog Cyfleoedd, Tiff ar suopportunities@aber.ac.uk 

 

Os hoffech chi ddysgu mwy am yr ymgyrch a ffyrdd o gymryd rhan, cysylltwch â ni:

 

Cyfleoedd Myfyrwyr

Tiff McWillaims

 cyfleoeddum@aber.ac.uk

Llesiant

Helen Cooper

llesiantum@aber.ac.uk

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576