Mae wedi dod i’r amlwg bod yna gynnydd difrifol mewn sbeicio diodydd ar draws Aberystwyth ac rydym wrthi’n gweithredu. Credwn ni fod gan bob myfyriwr yr hawl i fwynhau eu hamser gyda’u ffrindiau heb ofn o gael eu sbeicio.
Mae gan yr ymgyrch hwn 3 nod:
- Rhoi platfform i fyfyrwyr adrodd achosion o sbeicio er mwyn casglu data ar sut mae’n effeithio ar ein myfyrwyr
- Cydweithio gyda lleoliadau lleol i ddarparu deunydd am ddim i leihau’r achosion o sbeicio diodydd fel gorchuddion diod.
- Darparu deunydd addysgol ar sut i helpu rhywun sydd wedi cael eu sbeicio a rhybuddion i bobl beidio â sbeicio diodydd pobl eraill.
 |
Os ydych chi wedi cael eich sbeicio ac yn chwilio am gymorth llesiant ychwanegol, gallwch chi gysylltu â’n Gwasanaeth Cynghori undeb.cyngor@aber.ac.uk neu drwy ffonio 01970 621712 |
Eisiau dysgu mwy am yr ymgyrch?