Gwrth-hiliaeth

 

Mae’r dudalen hon ar gyfer holl ymdrechion UMAber i fod yn wrth-hiliol. Byddwn yn cynnwys rhagor o wybodaeth ar ein ymgyrch amrywio’r cwricwlwm yn ogystal â’n hymgyrchoedd gwrth-hiliol.

Mae’r UM wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb a bod yn gynhwysol ym mhob maes o’n gwaith.



Siarter Cydraddoldeb Hiliol

Fel rhan o fy ymgyrch cydraddoldeb hiliol dwi wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Brifysgol ar eu cyflwyniad i’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol. Nod y Siarter Cydraddoldeb Hiliol yw helpu prifysgolion a sefydliadau ymchwil gyda’u gwaith i wella cynrychiolaeth, cynydd, a llwyddiant o bobl Ddu, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig mewn addysg uwch. Fi yw cyd-gadeirydd presennol y gweithgor myfyrwyr lle dwi’n edrych ar y boblogaeth fyfyrwyr ac yn dadansoddi amrywiaeth ein poblogaeth fyfyrwyr.

     Mae’r UM hefyd yn cymryd rhan yn yr Wythnos Cydraddoldeb Hiliol lle byddwn yn cynnal amryw o ddigwyddiadau fel gweithdai gwrth-hiliol ac yn dangos ffilmiau. Bydd staff yr UM hefyd yn cymryd rhan yn her 5 diwrnod yr wythnos Cydraddoldeb Hiliol, sef her genedlaethol i helpu sefydliadau i ddysgu am ffyrdd gorau o fynd i’r afael â Chydraddoldeb a Thegwch Hiliol.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576