Alcohol a Chyffuriau

I lawer, mae mynd i’r brifysgol yn cael ei weld fel cyfle i gwrdd â phobl newydd, i gymdeithasu, ac i fwynhau profiadau newydd. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd unrhyw broblemau sylweddol yn deillio o hynny heblaw am y dolc y gall rownd arall o ddiodydd/shots ei rhoi yn eich cyfrif banc y tro nesaf y byddwch yn cael golwg arno.

Nid cymeradwyo gwahanol fathau o ymddygiad yw ein rôl ni, ond helpu myfyrwyr i sylweddoli beth fydd effaith y dewisiadau sydd ganddynt a gwneud dewisiadau gwybodus sy’n osgoi niwed neu gosb yn y pen draw.


Alcohol

Mae yfed cymdeithasol yn weithgaredd cyffredin i lawer o fyfyrwyr a hynny’n aml heb beri pryder, er ei bod yn bwysig cofio bod llawer o fyfyrwyr nad ydynt yn yfed, boed hynny am resymau meddygol, diwylliannol neu grefyddol. I’r rhai sy’n methu yfed am resymau meddygol, gall fod goblygiadau difrifol i yfed unrhyw alcohol o gwbl.

Mae yfed yn tueddu i newid y ffordd y bydd pobl yn prosesu gwybodaeth neu’n ymddwyn, gall leihau swildod, gwneud pobl yn fwy parod i gymryd risgiau a gall wneud iddynt deimlo’n dda tra byddant dan ddylanwad. Mae’r ffaith bod alcohol yn gallu gwneud i bobl deimlo’n dda neu hyd yn oed leddfu poen yn gallu cael cryn effaith ar iechyd meddwl hefyd. Teimladau dros dro fydd y rhain yn aml a gallant guddio’r achosion sydd wrth wraidd pethau.

Er bod Aberystwyth yn tueddu i fod yn ardal ddiogel iawn, dyma enghreifftiau o weithgareddau a allai beri risg sy’n gallu digwydd o ganlyniad i fod dan ddylanwad alcohol:

  • Cerdded i ffwrdd neu gartref ar eich pen eich hun.
  • Nofio neu fynd i mewn i ddwr agored.
  • Croesi ffyrdd neu reilffyrdd peryglus.
  • Mynd i mewn i, neu ddringo adeiladweithiau peryglus.
  • Gweithgaredd troseddol fel dwyn, ymladd neu ymosod.
  • Gweithgaredd rhywiol â risg, megis cael rhyw heb gydsyniad neu heb ddiogelwch.
  • Cymryd cyffuriau neu barhau i yfed yn ormodol.

Mae’n bwysig sylweddoli’r effeithiau y gall y gweithgareddau hyn eu cael, yn enwedig mewn sefyllfaoedd a allai eich cael mewn trafferth gyda’r heddlu neu’r brifysgol, yn dioddef trosedd neu’n gorfod mynd i’r ysbyty.


Cadw’ch hun yn ddiogel

Yn y bôn, eich ymddygiad eich hun yw’r ffactor pwysicaf o ran dylanwadu ar y ffordd y bydd y bobl sydd o’ch cwmpas yn ymddwyn, yn enwedig mewn perthynas ag alcohol. Er mwyn gwneud hynny’n ddiogel:

  • Ceisiwch osgoi yfed ar stumog wag; mae gwneud hynny’n golygu y bydd mwy o alcohol yn mynd i’ch gwaed mewn llai o amser a gallai eich gwneud yn feddw iawn.
  • Ystyriwch gyfnewid rowndiau o ddiodydd â rowndiau o ddwr ac annog eich ffrind(iau) i wneud hynny hefyd.
  • Ceisiwch osgoi prynu rowndiau o ddiodydd meddwol. Mae hyn yn eich annog chi a’ch ffrindiau i yfed alcohol ar adegau pan y gallech ddewis cael dwr neu ddiod ysgafn neu gael saib.
  • Ystyriwch opsiynau dialcohol, boed hynny’n ddiodydd moctêl neu’n gwrw dialcohol - gallwch fwynhau blas diod gadarn heb yr alcohol.
  • Os byddwch chi allan fel rhan o ddigwyddiad gyda chlwb neu gymdeithas, cofiwch ofalu am eich gilydd, gan sicrhau nad yw’r rhai sy’n mynychu’n cael eu rhoi o dan bwysau i wneud rhywbeth nad ydyn nhw eisiau ei wneud.
  • Gosodwch gap ar faint o arian y byddwch am ei wario ar noson allan a cheisiwch osgoi talu â cherdyn neu dynnu rhagor o arian allan - rhywbeth y gallech ei ddifaru drannoeth.
  • Peidiwch â bod ofn dweud na i gynnig o noson allan er mwyn rhoi amser i’ch hun, neu awgrymwch ddewis arall heb alcohol, fel mynd i’r sinema neu am bryd o fwyd.
  • Byddwch yn ymwybodol o’ch terfynau a cheisiwch osgoi eu gwthio neu deimlo dan bwysau i wneud hynny.
  • Os byddwch yn sylwi bod ffrind i chi yn yfed yn fwy rheolaidd neu os byddwch yn pryderu am sut mae’n yfed, ystyriwch gael sgwrs agored am y peth gyda nhw.
  • Byddwch yn ymwybodol o ble gallwch gael cymorth a chyngor neu gyfeirio pobl eraill yno.

Yfed sy’n Broblem

Mae perthynas rhywun ag alcohol yn gallu bod yn un bersonol i’r unigolyn ac felly gall fod yn anodd herio eich hun a deall a yw wedi mynd yn broblem.

Mae’n bwysig ystyried a yw’n effeithio ar eich iechyd, eich perthnasoedd, eich gwaith neu’ch addysg. Os ydych chi’n yfed yn rheolaidd ac yn cael trafferth torri ar hynny, neu os ydych chi’n teimlo bod rhaid i chi yfed alcohol, yna mae’n bwysig i chi ystyried cael cymorth.

Mae Alcoholics Anonymous yn awgrymu os byddwch chi’n rhoi ateb cadarnhaol i unrhyw un o’r cwestiynau canlynol, efallai y byddwch eisiau meddwl o ddifrif am eich perthynas ag alcohol:

  • Ydych chi’n yfed oherwydd bod gennych broblemau?
  • Ydych chi’n yfed pan fyddwch chi’n gwylltio gyda phobl eraill, eich ffrindiau neu’ch teulu?
  • Ydy hi’n well gennych yfed ar eich pen eich hun yn aml, yn hytrach nag yfed gyda phobl eraill?
  • A yw’n effeithio ar eich perfformiad wrth astudio neu yn y gwaith?
  • Fyddwch chi byth yn ceisio stopio yfed neu yfed llai – ac yn methu?
  • Ydych chi wedi dechrau yfed yn y bore cyn mynd i’r brifysgol neu’r gwaith?
  • Fyddwch chi byth yn colli cof oherwydd eich yfed?
  • Ydych chi’n osgoi bod yn onest gyda phobl eraill ynglyn â’ch yfed?
  • Fyddwch chi byth yn mynd i drafferth pan fyddwch chi’n yfed?
  • Fyddwch chi’n meddwi’n aml pan fyddwch yn yfed, hyd yn oed pan nad ydych yn bwriadu hynny?

Gall fod yn anodd cymryd y camau cyntaf pan fydd yfed yn mynd yn broblem, ond mae’n bwysig delio â’r peth yn gynnar, boed hynny trwy siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo neu drwy geisio cymorth proffesiynol.


Sbeicio

Yn genedlaethol rydym yn ymwybodol bod cynnydd wedi bod mewn digwyddiadau sbeicio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Byddem yn cynghori ein myfyrwyr i gadw’n ddiogel drwy osgoi derbyn diodydd/vapes gan bobl eraill tra allan er mwyn lleihau’r risg y bydd hyn yn digwydd i chi neu’ch ffrindiau. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen gwe Ymgyrchoedd yma.


Ceisio cymorth

Os ydych chi’n teimlo bod alcohol yn mynd yn broblem, mae amryw o wasanaethau y gallwch droi atynt am gymorth.

Yn y lle cyntaf, efallai y byddwch eisiau trafod y peth gyda’ch meddyg teulu. Byddant yn asesu eich iechyd corfforol a meddyliol ac yn gallu argymell a’ch cyfeirio at wasanaethau arbenigol os bydd angen. Dyma rai o’r gwasanaethau cymorth eraill:

  • GCAD (Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed) (www.barod.cymru/cy/ble-i-gael-help/gwasanaethau-gorllewin/ddas-dyfed-drug-and-alcohol-service/) – gwasanaeth cymorth rhad ac am ddim nad yw’n barnu ar gyfer unigolion y mae alcohol a chyffuriau yn effeithio arnynt. Maent ar gael yn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr ar ddydd Mawrth.
  • DAN 24/7 (www.dan247.org.uk/Default_Wales.asp) – llinell gymorth 24/7 ddwyieithog am ddim sy’n darparu gwybodaeth neu gymorth mewn perthynas â chyffuriau ac alcohol.
  • Drink Aware (www.drinkaware.co.uk) – elusen genedlaethol sy’n ceisio helpu pobl i wneud gwell dewisiadau ynglyn â’u hyfed.
  • Alcohol Change UK (www.alcoholchange.org.uk/cymraeg) – elusen genedlaethol sy’n ceisio lleihau niwed alcohol a gwella ymddygiadau yfed.
  • Talk to FRANK (www.talktofrank.com) gwasanaeth wedi’i gyllido gan y llywodraeth sy’n darparu ffeithiau, cymorth a chyngor ynglyn â chyffuriau ac alcohol.
  • We Are With You (www.wearewithyou.org.uk) –  gwasanaeth cymorth cyfrinachol, am ddim i bobl sy’n cael trafferthion gyda chyffuriau, alcohol neu iechyd meddwl.
  • AA (Alcoholics Anonymous) (www.alcoholics-anonymous.org.uk) – cymdeithas o aelodau a oedd yn arfer yfed yn ormodol sydd bellach yn cynorthwyo ei gilydd i ddod yn sobor ac i aros yn sobor.

Cyffuriau

Mae nifer o risgiau ynghlwm â chymryd cyffuriau - o ran iechyd, lles neu gosbau posib. Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn mynd i gymryd cyffuriau, dylech chi ddarllen canllawiau lleihau niwed pan fo hynny’n briodol. Mae’n bwysig cofio mai’r ffordd orau i osgoi niwed neu gosb ydy peidio â chymryd cyffuriau o gwbl.

Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 a Deddf Sylweddau Seicoweithredol 2016 ydy’r ddeddfwriaeth sy’n disgrifio pa sylweddau sy’n anghyfreithlon a’u dosbarthiad cyfreithiol. Mae’r deddfau hyn yn gosod cyffuriau yn y dosbarthiadau canlynol:

 

Dosbarth A

Yn cynnwys: Crac cocên, cocên, ecstasi (MDMA), heroin, LSD, madarch hud, methadon, methamffetamin (crystal meth).

Meddiant: Hyd at 7 mlynedd o garchar, dirwy ddiderfyn neu’r ddau.

Cyflenwi a chynhyrchu: Carcharu hyd at fywyd, dirwy ddiderfyn neu’r ddau.

         

Dosbarth B

Yn cynnwys: Amffetaminau, barbitwradau, canabis, codin, cetamin, methylffenidad (Ritalin), canabinoid synthetig, cathinonau (e.e. meffedron, methocsetamin).

Meddiant: Hyd at 5 mlynedd o garchar, dirwy ddiderfyn neu’r ddau.

Cyflenwi a chynhyrchu: Hyd at 14 mlynedd o garchar, dirwy ddiderfyn neu’r ddau.

 

Dosbarth C

Yn cynnwys: Steroidau anabolig, bensodiasepinau (diazepam), gama hydrocsibutyrad (GHB), gama-butyrolacton (GBL), piperasinau (BZP), khat.

Meddiant: Hyd at 2 flynedd o garchar, dirwy ddiderfyn neu’r ddau (ac eithrio steroidau anabolig – nid yw’n drosedd bod â rhain yn eich meddiant at eich defnydd eich hun).

Cyflenwi a chynhyrchu: Hyd at 14 mlynedd o garchar, dirwy ddiderfyn neu’r ddau.

 

Sylweddau Seicoweithredol (a elwid gynt yn ‘anterthau cyfreithlon’)

Yn cynnwys: Bwyd planhigion, NPS, Mdat, Eric 3, Dimethocen, halwynau ymolchi.

Meddiant: Dim cosb os nad ydych yn y carchar.

Cyflenwi a chynhyrchu: Hyd at 7 mlynedd o garchar, dirwy ddiderfyn neu’r ddau.


Cyffuriau Presgripsiwn

Mae ymchwil yn awgrymu bod hyd at chwarter poblogaeth y Deyrnas Unedig yn cymryd meddyginiaethau presgripsiwn caethiwus ar unrhyw adeg, gan gynnwys gwrth-iselyddion, tabledi cysgu a phoenleddfwyr opioid, ac mae llawer wedi bod ar y cyffuriau hyn am o leiaf blwyddyn, sy’n gallu bod yn arwydd o ddibyniaeth.

Mae bod yn gaeth i gyffuriau presgripsiwn felly’n fater peryglus ac yn aml yn gymhleth; mae’n dechrau fel rheol wedi i rywun fod ag angen dilys i’w defnyddio am resymau iechyd. Er eu bod yn cael eu rhagnodi’n ofalus gan weithwyr iechyd proffesiynol, mae llawer o’r rhain yn gaethiwus.

Yn aml, gallant fod yn borth sy’n arwain at sylweddau eraill anghyfreithlon, yn enwedig pan fydd presgripsiwn yn dod i ben, ac maent yn gallu cael yr un effeithiau ar iechyd a lles ag unrhyw sylwedd caethiwus pan fydd eu defnydd yn mynd yn broblem.

Yn ogystal â’r gwasanaethau cymorth a welir yn y canllaw hwn, rydym yn argymell y dylech siarad â’r gweithiwr iechyd proffesiynol a roddodd y presgripsiwn ar gyfer y feddyginiaeth neu os nad ydych yn teimlo’n gysurus yn gwneud hynny, siarad â gweithiwr proffesiynol sydd â phrofiad o gaethiwed i gyffuriau os byddwch yn teimlo y gallech chi fod yn mynd yn gaeth i feddyginiaeth bresgripsiwn.


Cyffuriau Clyfar (a elwir hefyd yn Gyffuriau Astudio)

Mae Cyffuriau Clyfar yn derm sy’n cyfeirio at ystod o feddyginiaethau presgripsiwn yn bennaf sy’n gweithio fel symbylyddion, gan gynyddu bywiogrwydd, egni, curiad y galon, cyfradd anadlu, a phwysedd gwaed. Un gamdybiaeth yw eu bod yn cynyddu’r gallu i ddysgu neu feddwl; yn hytrach, mae defnyddwyr yn tueddu i weld eu bod yn eu helpu i ganolbwyntio.

Mae cyffuriau o’r fath yn tueddu i gael eu defnyddio i drin cyflyrau fel anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) ac felly maen nhw’n dod i law fer arfer trwy rywun y mae’r defnyddiwr yn ei adnabod sydd â phresgripsiwn o’r fath. Mae yna nifer o risgiau iechyd ynghlwm â chymryd cyffuriau o’r fath, a gaiff eu rhoi yn aml ar bresgripsiwn dos isel i ddechrau sy’n cael ei gynyddu’n raddol wedyn.

Maent yn gallu achosi problemau iechyd corfforol a iechyd meddwl difrifol gan gynnwys pwysedd gwaed uchel, curiad calon afreolaidd, methiant y galon, trawiadau, strôc, paranoia a phroblemau iechyd meddwl eraill. Mae llawer yn credu eu bod yn ddiniwed er y gallant fod yn hynod gaethiwus a’u bod yn cael eu gorddefnyddio llawer o gymharu â sylweddau eraill.

Os oes angen i chi ganolbwyntio ar waith academaidd, mae yna ddulliau sydd wedi’u profi ar gyfer gwella canolbwyntio a churo straen heb y risgiau, gan gynnwys meddyginiaeth, cael noson dda o gwsg, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, a bwyta amrywiaeth o fwydydd iachus. Cofiwch y gallwch hefyd gyflwyno achos Amgylchiadau Arbennig neu ofyn am Estyniad, gan ddibynnu ar eich sefyllfa (gweler ein canllaw i Amgylchiadau Arbennig ac Estyniadau i gael rhagor o wybodaeth).


Defnyddio Cyffuriau mewn Llety wedi’i Rentu

Mae gan Asiantaethau Gosod a Landlordiaid gyfrifoldeb cyfreithiol dros atal gweithgaredd anghyfreithlon rhag digwydd yn eu heiddo. Os byddant yn amau bod gweithgaredd anghyfreithlon yn digwydd, gallant gymryd camau i geisio atal hyn a hyd yn oed roi gwybod i’r heddlu amdanoch.

Os ydych yn byw mewn llety sy’n eiddo i’r Brifysgol, gallech chi wynebu camau disgyblu os bydd staff diogelwch yn canfod cyffuriau yn eich ystafell neu yn eich meddiant. Gallai hynny arwain yn y pen draw at ofyn i chi adael eich llety neu at gael eich cyfeirio at Banel Disgyblu a wynebu cael eich atal dros dro neu’ch diarddel o’r Brifysgol.

Os byddwch chi yn penderfynu defnyddio cyffuriau yn neu yng nghyffiniau eich llety wedi’i rentu, mae’n bwysig ystyried pobl eraill. Os bydd unrhyw un o’ch cydletywyr yn anghysurus ynglyn â chael cyffuriau yn y ty, mae’n well canfod rhywle mwy addas sy’n ddiogel ac nad yw’n effeithio ar bobl eraill.


Goblygiadau pellach

Mae’n bwysig ystyried y gall fod goblygiadau difrifol i gael eich dal â chyffuriau yn eich meddiant, gan ddibynnu’n arbennig ar eich cynlluniau ar gyfer gyrfa. Gallai myfyrwyr sy’n astudio ar gyrsiau proffesiynol sydd â gofynion addasrwydd i ymarfer gael eu diarddel o’u cwrs os cânt eu dal â chyffuriau yn eu meddiant neu os canfyddir eu bod wedi defnyddio unrhyw un o’r sylweddau hyn.

Os byddwch yn destun ymchwiliad i bryderon ynglyn â’ch Addasrwydd i Ymarfer unrhyw bryd, dylech gysylltu â Gwasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr i drafod eich opsiynau.

Gall cael record droseddol am fod â chyffuriau yn eich meddiant eich atal rhag cael mynediad i rai gwledydd, felly bydd yn cyfyngu ar eich gallu i deithio’n rhyngwladol.


Lleihau Niwed

Mae WEDINOS (Adnabod Cyffuriau Newydd a Sylweddau Newydd Cymru) yn brosiect lleihau niwed sy’n cael ei gynnal er mwyn monitro defnydd a chanfod samplau peryglus o sylweddau yng Nghymru. Mae modd i chi gael samplau o gyffuriau wedi’u profi gan WEDINOS yn ddienw a byddant yn rhoi gwybod i chi am ganlyniadau’r profion ar eu tudalen Canlyniadau Samplau. Trwy wneud hyn, byddwch yn cyfrannu at eu hymchwil.

I gael rhagor o wybodaeth am brofi samplau yn ogystal â chyngor pragmatig ar leihau niwed, ewch i wefan WEDINOS.


Ceisio cymorth

Os ydych chi’n poeni am eich defnydd (neu ddefnydd rhywun arall) o gyffuriau, rydym yn argymell y dylech geisio cymorth i fynd i’r afael â’r broblem.

Yn y lle cyntaf, efallai y byddwch eisiau trafod y peth gyda’ch meddyg teulu. Byddant yn asesu eich iechyd corfforol a meddyliol ac yn gallu argymell a’ch cyfeirio at wasanaethau arbenigol os bydd angen. Dyma rai o’r gwasanaethau cymorth eraill:


Beth all Gwasanaeth Cynghori UMAber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghori UMAber yn annibynnol ar y Brifysgol ac mae’n darparu gwasanaeth cyfrinachol, diduedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Gall y Gwasanaeth Cynghori eich cynorthwyo mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys:

  • Darparu cyngor diduedd ar gyfer eich amgylchiadau.
  • Cyngor ynglyn â sut i ymateb i honiadau a pharatoi ar gyfer unrhyw gyfarfodydd.
  • Mynd gyda chi ble bo hynny’n briodol i unrhyw gyfarfodydd i roi cymorth ac i’ch cynrychioli.
  • Helpu i’ch cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill.

I wneud apwyntiad i drafod eich holl opsiynau, gan gynnwys pa gymorth sydd ar gael i chi, cysylltwch â ni isod:


Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd gyntaf: Rhagfyr 2020

Adolygwyd: Tachwedd 2023

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576