Byddwch yn ddiogel yn Aber

Byddwch yn ddiogel yn Aber

O ran llefydd i fynd ac astudio, Aberystwyth yw un o'r llefydd mwyaf cyfeillgar a diogel i wneud hynny. Dylai dechrau'r brifysgol fod yn brofiad anhygoel a dylai'r Glas fod yn fythgofiadwy dim ond am y rhesymau cywir!

Hefyd, bydd tîm-A Undeb Aber gerllaw i roi cymorth i chi ac i ateb eich cwestiynau yn ystod eich wythnos gyntaf. Dyma gysylltiadau defnyddiol a hintiau handi i chi eu defnyddio i'ch helpu chi i fod yn ddiogel:

 

Manylion cyswllt defnyddiol

Llinell Gymorth 24/7 Bywyd ar y Campws

Os oes gennych chi unrhyw broblemau yn eich ystafell neu'ch fflat, e.e. rydych chi wedi colli’ch allwedd, rydych chi’n sâl, mae angen trwsio rhywbeth neu mae gennych chi broblem gyda chymydog, mae staff gerllaw wrth Dderbynfa'r Brifysgol 24 awr y dydd.
Ffôn: 01970 622900

 

Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn cynnig cyngor a gwybodaeth sy’n gyfrinachol, yn ddiduedd ac yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Beth bynnag fo’r broblem, os ydych chi’n ansicr ynglyn â’r hyn i’w wneud, cysylltwch â ni. Byddwn ni’n gwneud ein gorau i ddatrys eich problem ac os na fyddwn ni’n llwyddo, gallwn ni eich cyfeirio chi at rywun sy’n gallu.

Ffôn: 01970 621712 
E-bost: undeb.cyngor@aber.ac.uk
Gwefan: www.umaber.co.uk/cyngor

 

Hintiau handi

Yfwch yn ddiogel

Defnyddiwch synnwyr cyffredin wrth dderbyn diodydd gan bobl anghyfarwydd a pheidiwch byth â gadael eich diod eich hun heb oruchwyliaeth. Os cewch chi unrhyw broblemau gyda hyn, cofiwch y bydd aelod o staff yn gallu helpu. Bydd dwr ar gael am ddim y tu ôl i unrhyw far felly cofiwch hyn pan fyddwch chi allan.

 

Iechyd rhyw

I rai, mae dod i'r Brifysgol yn gyfle gwych o ran rhyw a rhywioldeb. Ond mae sicrhau eich bod chi a’ch partner(iaid) yn ddiogel yn rhan bwysig o'r broses. Mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu condomau am ddim a gwarchodaeth lanweithdra i bawb.

 

Cyffuriau

Mae cyffuriau'n effeithio ar yr ymennydd sydd, yn eu tro, yn effeithio ar hwyliau'r person sy'n eu cymryd nhw. Mae gwahanol fathau o gyffuriau’n effeithio ar ddefnyddwyr mewn gwahanol ffyrdd. Mae gan Talk to Frank (www.talktofrank.com) A-Y cyflawn o gyffuriau a'u heffeithiau.

 

Sbeicio

Yn genedlaethol rydym yn ymwybodol bod cynnydd wedi bod mewn digwyddiadau sbeicio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Byddem yn cynghori ein myfyrwyr i gadw’n ddiogel drwy osgoi derbyn diodydd/vapes gan bobl eraill tra allan er mwyn lleihau’r risg y bydd hyn yn digwydd i chi neu’ch ffrindiau. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen gwe Ymgyrchoedd yma.

 

Cyrraedd gartref

Arhoswch gyda’ch gilydd. Awgrymwn eich bod chi’n aros gyda'ch ffrindiau newydd a pheidio â theithio adref ar eich pen eich hun wrth i chi ddod i’r arfer â’ch amgylchedd newydd. Er bod y campws a'ch llety’n daith gerdded fer o'r dref, sicrhewch fod gennych chi rif tacsis rhag ofn.

 

Parchwch y dwr

Byw ger yr arfordir yw un o fanteision gwych astudio yn Aberystwyth ond mae’n gallu bod yn beryglus hefyd. Mae bron 200 o bobl yn colli eu bywydau bob blwyddyn ar arfordir y DU ac Iwerddon a doedd mwy na hanner ddim hyd yn oed wedi bwriadu mynd i mewn i'r dwr. Felly sicrhewch eich bod chi’n ymwybodol o'r risgiau posib ac os ydych chi'n gweld rhywun arall mewn trafferth, ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau.

 

Dim goddefgarwch

Mae gan Undeb Aber bolisi dim goddefgarwch at fwlio ac aflonyddu a bydd pob achos yn cael eu trin o ddifrif. Rydyn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd diogel a chynhwysol y mae pawb yn gallu cymryd rhan ynddo. Rydyn ni’n gweithio gyda’r Brifysgol ac mae gennym ni system adrodd ar-lein lle mae modd tynnu sylw at achos yn ddienw neu fel trydydd parti.

 

Hoffi, cloi, cadw!

Clowch eich eitemau gwerthfawr yn eich ystafell neu storiwch nhw’n ddiogel a chofiwch gloi’r drysau a’r ffenestri pan fyddwch chi’n gadael y ty. Ystyriwch gofrestru'ch eitemau gwerthfawr am ddim ar www.immobilise.com – gan wella’ch gallu i ddychwelyd eitemau os cân nhw eu colli neu eu dwyn.

 

Gofalwch am eich gilydd

Mae Aberystwyth yn lle gwych i fwynhau noson allan gyda ffrindiau newydd. Sicrhewch eich bod chi’n gofalu amdanyn nhw fel y byddech chi am iddyn nhw ofalu amdanoch chi er mwyn sicrhau y cewch chi’r profiad gorau posib.

 

Ond yn bwysicaf oll, cael amser anhygoel yn y Brifysgol yma yn Aberystwyth!

Adolygwyd: Ebrill 2024

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576