Iechyd Cyffredinol

Rydym yn argymell y dylech gofrestru gyda gwasanaethau iechyd lleol cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd Aberystwyth y tro cyntaf. Ddylech chi ddim aros nes bod angen triniaeth feddygol arnoch.


Cofrestru gyda Meddyg

Yn Aberystwyth, gallwch gofrestru gydag unrhyw un o dri practis meddyg teulu fel bod modd i chi gael cymorth pan fydd ei angen arnoch, boed hynny pan fyddwch yn teimlo’n wael neu os byddwch yn chwilio am gyngor ar nifer o faterion meddygol.

Er y gall y gwasanaethau amrywio rhyw ychydig o un practis i’r llall, mae llawer yn gallu cynnig neu eich cyfeirio at gefnogaeth a chyngor ar amrywiaeth o faterion iechyd, gan gynnwys iechyd rhyw, ysmygu, alcohol, cyffuriau ac anhwylderau bwyta.

Mae tri phractis lleol yn Aberystwyth, mewn lleoliadau sy’n gyfleus i fyfyrwyr sy’n byw mewn gwahanol lefydd (er y gallwch ddewis cofrestru gydag unrhyw un ohonynt):

 

Meddygfa Padarn, Ffordd Penglais, Aberystwyth, SY23 4PA

Ffôn: 01974 241556

Gwefan: www.padarn.wales.nhs.uk

Mae Meddygfa Padarn o fewn pellter cerdded rhwydd i’r rhan fwyaf o letyau’r Brifysgol ger y campws.

 

Meddygfa’r Eglwys, Stryd Portland, Aberystwyth, SY23 2DX

Ffôn: 01970 624855

Gwefan: www.churchsurgery.com

Mae Meddygfa’r Eglwys o fewn pellter cerdded rhwydd i ganol y dref, felly mae’n agos at y rhan fwyaf o letyau preifat a glan môr.

 

Meddygfa Ystwyth, Parc Y Llyn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3TL

Ffôn: 01970 613500

Gwefan: www.mysurgerywebsite.co.uk/index.aspx?pr=W92025

Mae Meddygfa Gofal Sylfaenol Ystwyth o fewn pellter cerdded i ganol y dref ac yn agos at letyau preifat yn Llanbadarn.

 

Mae rhagor o wybodaeth am feddygfeydd yn Aberystwyth a’r cyffiniau ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae pob un ohonynt ar agor rhwng tua 8/8.30am a 5/6.30pm ddydd Llun i ddydd Gwener i ddelio ag unrhyw ymholiadau neu bryderon all fod gyda chi.

Gallwch gofrestru gydag unrhyw un o’r meddygfeydd uchod neu ganfod rhagor o wybodaeth am eu gwasanaethau trwy eu gwefannau.  Wrth i chi gofrestru, mae’n bosib y gofynnir am eich Rhif GIG, tref a sir eich geni, cyfeiriad yn ystod y tymor yn ogystal â hanes meddygol diweddar mewn perthynas ag alergeddau, meddyginiaeth, ystadegau allweddol, dewisiadau ynghylch ffordd o fyw ac unrhyw ddiagnosis neu driniaeth sydd ar y gweill.


Cofrestru gyda Deintydd

Yn Aberystwyth, gallwch gofrestru gydag unrhyw un o bedwar practis deintyddol er mwyn i chi allu cael cymorth pan fydd ei angen arnoch. Mae gofalu am eich iechyd deintyddol cyn bwysiced â’ch iechyd cyffredinol ac er y gall fod yn anodd canfod triniaeth y GIG, gallai olygu na fydd rhaid i chi ddioddef y straen o chwilio am driniaeth neu orfod talu i fynd yn breifat mewn argyfwng.

Ceir pedwar practis deintyddol yn Aberystwyth, pob un yn agos at ganol y dref.

 

Practis Eastgate Dental, 29 Y Porth Bach, Aberystwyth, SY23 2AR

Ffôn: 01970 612457

Gwefan: www.eastgatedental.org.uk/hafan/

 

Clinig Deintyddol Friars, Coedlan y Parc, Aberystwyth, SY23 1PB

Ffôn: 01970 623369

Gwefan: www.mydentist.co.uk/dentists/practices/wales/west-wales/aberystwyth/park-avenue

 

Practis Deintyddol North Parade, 61 Rhodfa’r Gogledd, Aberystwyth, SY23 2JN

Ffôn: 01970 612266

Gwefan: www.mydentist.co.uk/dentists/practices/wales/west-wales/aberystwyth/61-north-parade

 

Practis Deintyddol Portland Street, 23-25 Stryd Portland, Aberystwyth, SY23 2DX

Ffôn: 01970 612581

Gwefan: www.colosseumdental.co.uk/practices/portland-street-dental-and-implant-clinic

 

Mae rhagor o wybodaeth am ddeintyddfeydd yn Aberystwyth a’r cyffiniau ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Bydd gan bob practis deintyddol ei ffordd ei hun o gofrestru cleifion newydd ac mae’n bosib y byddant yn cyfyngu ar faint o gleifion GIG sydd ganddynt ar unrhyw adeg. Felly, dylech gysylltu â’r deintyddfeydd yn uniongyrchol gan ddefnyddio’r manylion uchod i drafod eu prosesau cofrestru ac unrhyw ffioedd y gall fod angen i chi eu talu wrth ddefnyddio eu gwasanaethau.

Petai hi’n dod i’r gwaethaf, a bod angen triniaeth arnoch ar frys, ffoniwch GIG 111 am ddim ac fe gewch wybod am yr apwyntiad agosaf sydd ar gael trwy Wasanaeth Deintyddol Brys Hywel Dda (y Bwrdd Iechyd lleol).


Cael Gwasanaeth Optegydd

Yn Aberystwyth, gallwch gofrestru gydag unrhyw un o dri optegydd er mwyn i chi allu cael cymorth pan fydd ei angen arnoch. Mae nam ar y golwg yn gallu effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio ac i astudio, felly os ydych eisoes yn dioddef â nam ar eich golwg neu’n cael problemau gyda’ch golwg, mae’n bwysig cael profi’ch llygaid yn rheolaidd.

Mae tri optegydd yn Aberystwyth, pob un yn agos at ganol y dref.

 

Boots Opticians, 2-4 Y Stryd Fawr, Aberystwyth, SY23 1DE

Ffôn: 01970 617274

Gwefan: www.boots.com/stores/3433-aberystwyth-darkgate-opticians-sy23-1de

 

Probert and Williams Eye Care Cyf, Tan-yr-Eithin, 15 Stryd y Popty, Aberystwyth, SY23 2BJ

Ffôn: 01970 611555

Gwefan: www.probertandwilliams.co.uk/

 

Specsavers Ltd, 30 Y Stryd Fawr, Aberystwyth, SY23 1DE

Ffôn: 01970 636170

Gwefan: www.specsavers.co.uk/stores/aberystwyth

 

Mae rhagor o wybodaeth am optegyddion yn Aberystwyth a’r cyffiniau ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Bydd gan bob optegydd ei ffordd ei hun o gofrestru cleifion newydd. Felly, dylech gysylltu â’r optegyddion yn uniongyrchol gan ddefnyddio’r manylion uchod i drafod eu prosesau cofrestru ac unrhyw ffioedd y gall fod angen i chi eu talu wrth ddefnyddio eu gwasanaethau.


Cymorth gyda Chostau Iechyd

Ar y cyfan, mae gweld meddyg teulu a chael triniaeth feddygol ar y GIG yn gwbl ddi-dâl, ac mae hynny’n wir i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr rhyngwladol hefyd. Mae Cymru’n darparu presgripsiynau am ddim hefyd.

Ond gall fod adegau pan ofynnir i chi dalu am gostau megis triniaeth ddeintyddol, profion llygaid, sbectol, a lensys cyffwrdd. Fodd bynnag, fel myfyriwr, mae’n bosib y bydd gennych hawl i gael cymorth tuag at eich costau iechyd. Er mwyn sicrhau nad ydych y talu mwy nag sydd angen, gallwch lenwi ffurflen HC1W sy’n galluogi pobl gymwys sydd ar incwm isel i hawlio am gymorth gyda chostau iechyd.


Bod yn Egnïol

Mae Undeb Aber a Chanolfan Chwaraeon y Brifysgol yn cynnig llu o weithgareddau i helpu myfyrwyr i gymdeithasu, cynnal eu lles a bod yn egnïol. Does dim ots pa fath o lefel ffitrwydd sydd gennych na pha gamp rydych chi’n ei mwynhau, mae yna wastad rywbeth i bawb ei fwynhau.

Mae pob math o gyfleusterau yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol, gan gynnwys pwll nofio a sawna, canolfan ffitrwydd, wal ddringo, ystafell ddawns, cyrtiau sboncen, prif neuadd chwaraeon a chawell chwaraeon. Ochr-yn-ochr â’r offer campfa diweddaraf, maent yn cynnal amryw o ddosbarthiadau grwp o ioga ymlaciol i sesiynau sbinio egnïol. Gall pob myfyriwr sy’n aros yn llety’r Brifysgol ddefnyddio holl weithgareddau’r Ganolfan Chwaraeon am ddim.

Os yw’n well gennych weithgareddau awyr agored, mae maes 3G bach ac un maint llawn yn ogystal â thrac rhedeg y tu allan i’r Ganolfan Chwaraeon. Mae gan y Brifysgol nifer o gyfleusterau chwaraeon mewn lleoliadau amrywiol o gwmpas y dref hefyd, gan gynnwys Meysydd Chwarae’r Ficerdy, Meysydd Chwarae Blaendolau, a Chyrtiau Tenis.

I gael rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Chwaraeon, ewch i wefan y Brifysgol.

Mae Undeb Aber yn darparu cyfleoedd hefyd i chi gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau cystadleuol neu hamdden trwy ymuno ag un o’n 50 o glybiau chwaraeon neu bron i 100 o gymdeithasau sydd dan arweiniad myfyrwyr.

O Rygbi’r Gynghrair i Ffrisbi Eithaf, o Ioga i Ail-greu’r Canoloesoedd, mae rhywbeth at ddant pawb ac os na allwch chi weld eich diddordeb penodol chi, gallwch gychwyn eich clwb chwaraeon neu’ch cymdeithas eich hun. Mae clybiau chwaraeon a chymdeithasau yn ffordd wych o gwrdd â phobl sy’n rhannu diddordebau tebyg i chi, i wneud ffrindiau, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a gwella eich profiad.

I weld rhestr lawn o’r clybiau chwaraeon a’r cymdeithasau yn ogystal â sut i ymuno, ewch i adran TîmAber ein gwefan.


Bwyta’n Iach

Mae bod yn fyfyriwr a bwyta’n iach yn gallu bod yn dipyn o her i rai. Mae bwyd iach fel petai wastad yn ddrutach na bwyd hwylus ac mae gwneud rhywbeth mor syml â rhoi pizza yn y ffwrn yn hytrach na threulio amser yn paratoi pryd o fwyd iachus yn apelio yn aml; serch hynny, dyma rai cynghorion defnyddiol a allai fod o gymorth chi:

  • Os oes gennych ddiwrnod llawn dop yn y brifysgol, beth am baratoi cinio ymlaen llaw a mynd â phecyn bwyd gyda chi. Mae gan Undeb y Myfyrwyr boptai meicrodon lle gallwch dwymo eich bwyd.
  • Arbedwch arian trwy chwilio ar-lein am brydau bwyd iachus sy’n addas i gyllideb myfyriwr yn hytrach na gwario ar lyfrau coginio drud.
  • Gwnewch amser bwyd yn amser hwyl – rhowch gynnig ar gael cystadlaethau coginio gyda’ch cyd-letywyr.
  • Cadwch dameidiau bach iachus yn eich bag bob amser - bydd yn golygu na fydd rhaid i chi ildio i demtasiwn gostus prynu bwyd yn ystod eich diwrnod gwaith neu o beiriannau gwerthu rhwng dosbarthiadau.
  • Ceisiwch gadw at dri phryd bwyd y dydd yn rheolaidd, cofiwch ei bod yn bwysig bwyta’n rheolaidd. Gall hepgor prydau fel brecwast olygu y byddwch yn delio â bod yn llwglyd yn nes ymlaen yn ystod y dydd.

Cofiwch bod bwyta’n iach yn wahanol iawn i ddioddef anhwylder bwyta - mae’r rheiny’n digwydd ar sawl ffurf wahanol (gweler ein canllaw ar Anhwylderau Bwyta i gael rhagor o wybodaeth).


Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol ar y Brifysgol ac mae’n darparu gwasanaeth cyfrinachol, diduedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Gall y Gwasanaeth Cynghori eich cynorthwyo mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys:

  • Eich cyfeirio at ffyrdd o gael gwasanaethau iechyd lleol.
  • Cymorth gyda cheisiadau am gymorth gyda chostau iechyd.
  • Cael golwg ar unrhyw ddatganiadau drafft y byddwch wedi’u paratoi a chynnig awgrymiadau.
  • Eich helpu i gasglu’r dystiolaeth briodol i gefnogi eich achos.

Cysylltu  Chynghorydd


Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd gyntaf: Tachwedd 2020

Adolygwyd: Ebrill 2024

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576