Togetherall

Os yw myfyrwyr Aberystwyth yn mynd drwy amser caled, erbyn hyn fe allant gael cymorth ar-lein am ddim gan Togetherall. P'un ydych chi'n ei chael hi'n anodd cysgu, yn teimlo'n isel, dan straen, neu'n methu ymdopi, fe all Togetherall eich helpu i gael cymorth, gafael yn yr awenau, a theimlo'n well.

Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth ar-lein gan gyfoedion a phobl broffesiynol, bob awr o bob dydd. Mae Togetherall yn rhoi lle diogel ar-lein i chi i siarad am rywbeth sy'n eich poeni, trafod eich teimladau, a dysgu sut i wella a rheoli'ch iechyd meddwl a'ch lles eich hun.

Mae Togetherall yn hollol ddienw, felly fydd neb yn gwybod eich bod wedi dewis ei ddefnyddio oni baech chi'n penderfynu dweud wrthyn nhw!

Mae'r rhan fwyaf o aelodau yn dweud eu bod yn teimlo'n well ac yn fwy abl i ymdopi â bywyd y brifysgol ar ôl defnyddio'r gwasanaeth, ac mae bron i 90% yn defnyddio Togetherall y tu allan i oriau swyddfa 9-5. Gallwch gael cymorth ar y gwasanaeth ar unrhyw adeg, ddydd a nos, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn!

I ymuno â chymuned gefnogol ar-lein Togetherall, y cwbl sydd angen ei wneud yw mynd i togetherall.com a chofrestru gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost prifysgol. Wedyn dewiswch ffugenw defnyddiwr i'ch amser ar y wal.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576