Black Lives Matter

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae ‘Black Lives Matter’ yn fudiad  byd-eang sy'n ymgyrchu yn erbyn hiliaeth, gwahaniaethu a thrais tuag at bobl dduon.


Dechreuodd y mudiad hwn yn 2013, pan gafodd dyn diniwed, Trayvon Martin, ei ladd. Yn dilyn y drasiedi hon, ymledodd dicter trwy'r gymuned Ddu, a wnaeth arwain at y defnydd o’r hashnod #BlackLivesMatter ar draws y byd, wrth i unigolion o bob gefndir ymuno mewn protest.


Wrth gwrs gwnaeth hyn denu sylw rhaglenni a phapurau newyddion ledled y byd. Mae'r tri gair hyn yn dangos yr angen i ddatgymalu goruchafiaeth wen, rhoi diwedd ar drais wedi'i dargedu'n hiliol a thrwsio'r system bresennol,  lle mae bywyd yn anoddach i bobl Du, dim ond oherwydd lliw eu croen. Mae'r ymdrech hon i drwsio’r system hen ffasiwn yma sy’n targedu'n hiliol wedi’i wasgaru mewn i lawer o wahanol sectorau. Sectorau megis cyfleoedd gwaith, gofal iechyd, systemau addysg, tai ac wrth gwrs plismona a charcharu.


Mae'r mis hwn yn Fis Hanes Pobl Dduon ac o ystyried y digwyddiadau diweddar ynghylch llofruddiaethau George Floyd a Breonna Taylor, mae'n bwysicach nag erioed i dalu sylwi ar yr hiliaeth a welwn o'n cwmpas. Boed hynny trwy rodd, mynychu protestiadau neu addysgu eich hun, mae yna lawer o ffyrdd i gefnogi’r frwydr fyd-eang yn erbyn hiliaeth.


Dyma ychydig o adnoddau o'n rhestr ‘Darllenwch, Gwyliwch a Gwrandewch’. Adnoddau, yn ein barn ni, bydd yn fuddiol i addysgu'ch hun.

 

Darllenwch

Gwyliwch(Films)

Gwrandewch

  • Noughts & Crosses - Malory Blackman
  • Selma

 

  • The Diversity Gap

 

  • Natives: Race And Class In The Ruins Of Empire - Akala
  • 13th

 

  • About Race with Reni Eddo-Lodge

 

  • Why I'm No Longer Talking To White People About Race - Reni Eddo-Lodge
  • The Black Power Mixtape 1967–1975
  • Psychodrama - Dave (Album)

 

Rydym yn annog chi i gefnogi'r mudiad mewn unrhyw ffordd y gallwch. Am fwy o wybodaeth dilynwch y ddolen isod.
https://www.futurelearn.com/info/blog/black-lives-matter-resources

I gael gwybod mwy am yr ymgyrch eleni cliciwch yma.

Eich Swyddog Llesiant – Connor. Have a beautiful day, all the love!

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576