Fe allai Cymru fod ar frig y llefydd gorau yn y Deyrnas Unedig i fod yn fyfyriwr, meddai papur polisi mawr newydd a luniwyd ar y cyd gan Swyddog Myfyriwr yn Undeb Aberystwyth.
Ysgrifennwyd ‘Y Gorau Oll’, a gyhoeddwyd gan Post-18 Project, yn ymateb i addewid Llywodraeth newydd Cymru i gynnal adolygiad trawsbleidiol, annibynnol o gyllid addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr yn ystod ei gan niwrnod cyntaf.
Lluniwyd y papur hwn ar y cyd gan Lywydd UMCA, Gwenno Roberts a Jim Dickinson, golygydd cyswllt gyda’r cyhoeddwr addysg uwch dylanwadol, Wonkhe.
Meddai Gwenno: “Nod ein papur yw ysgogi Llywodraeth Cymru, Medr, prifysgolion ac undebau myfyrwyr i ddod at ei gilydd i drafod y camau tymor byr, canolig a hir y gallwn eu cymryd i drawsnewid y profiad myfyriwr yng Nghymru.
“Nid barnu cyfranogiad presennol neb i faes addysg uwch mo hyn - mae’n ymwneud â chydnabod y manteision sydd gan Gymru fel darparwr addysg, a gweithio gyda’n gilydd i fanteisio i’r eithaf ar ei gallu cudd.”
Mae’r papur yn amlinellu wyth amcan i addysg uwch yng Nghymru, yn cynnwys pob agwedd ar y bywyd myfyriwr. Mae’r argymhellion yn amrywio rhwng rhoi mwy o rym i fyfyrwyr i lunio eu dysgu eu hunain, i sicrhau y caiff eu hanghenion iechyd, cymdeithasol a gwaith eu diwallu. Daw’r amcanion hyn ag wyth gofyn - newidiadau yn yr arfaeth megis gwarchod y pecyn cynhaliaeth fyfyrwyr bresennol a chyflwyno terfyn cyllid isaf i Undebau Myfyrwyr - i alluogi’r amcanion hyn.
Byrdwn y neges yn y papur yw mai o fantais sylweddol i Gymru yw bod yn wlad fach â threfn lywodraeth seml.
Ysgrifennodd Gwenno a Jim: Mae gan Gymru rhywbeth sy’n eisiau ar Loegr: y gallu i gysylltu â’r llywodraeth. Yn Lloegr, daw’r profiad myfyriwr yn gyfrifoldeb ar wahanol adrannau. Mae’r Adran Addysg yn trin polisi addysg er nad oes ganddi rym dros iechyd, tai na thrafnidiaeth. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gosod rheolau lles sy’n cosbi myfyrwyr. Mae GIG Lloegr yn gweithredu ar wahân i brifysgolion. Mae awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau cynllunio heb ystyried poblogaethau myfyrwyr.
“Darnio yw’r canlyniad - does neb yn hawlio’r broblem, felly does neb yn mynd i’r afael â hi. Gwahanol yw Cymru. Gyda 3.1 miliwn o bobl a llywodraeth datganoledig unigol, mae cydlynu yn haws mewn ffyrdd na all San Steffan ei wneud.”
Mae awduron y papur yn dweud fod gan eu cynigion y gallu i ddod â buddion ehangach i Gymru.
Meddai Gwenno: “Mae Cymru yn wynebu dwy her gysylltiedig y gall diwygio addysg uwch eu hateb. Y cyntaf yw denu myfyrwyr, a’r ail yw cadw graddedigion.
“Mae angen mwy o raddedigion ar Gymru, os oes awydd mynd i’r afael â heriau cynhyrchu a llenwi bylchau sgiliau. Mae ein papur yn cynnig newidiadau a fydd, yn ein barn ni, yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r sector addysg uwch ac yn dod ag effeithiau economaidd a diwylliannol buddiol i Gymru.”
Gellir lawrlwytho Y Gorau Oll yn llawn oddi ar wefan Post-18 Project.
DIWEDD
__________________________________________________________________________________
Nodyn i’r Golygyddion:
- Ynglŷn â’r Awduron:
Llywydd UMCA 2026-27 yw Gwenno Roberts, yn cynrychioli myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a diwylliant Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn arwain ymgyrchoedd myfyrwyr ar draws Cymru.
Golygydd Cyswllt gyda Wonkhe yw Jim Dickinson, yn arbenigo ar lywodraethu, rheoli prifysgolion, a’r profiad myfyriwr. Cafodd ei benodi’n ddiweddar yn Ymddiriedolwr Allanol yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
- Ynglŷn ag Undeb Aber ac UMCA:
Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn cynrychioli dros 8,000 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. UMCA, a sefydlwyd ym 1973, yw’r undeb myfyrwyr Cymraeg ei iaith sy’n cynrychioli myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ac yn hyrwyddo diwylliant Cymru a’r Gymraeg ar draws y campws a’r gymdeithas yn ehangach.
- Ynglŷn â’r Post-18 Project:
Menter o fewn Thesis yw’r Project Post-18 (ar y cyd â Wonkhe, Policy.Partners, a’r Research Agenda.) a sefydlwyd i gynhyrchu ymchwil, fframweithiau polisi, a thrafodaeth o’r newydd yn ymwneud â dyfodol addysg drydyddol ar ôl 18 yn y Deyrnas Unedig.
- Cyd-destun y papur
Addawodd Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trawsbleidiol, annibynnol o gyllid addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr yn ystod ei gan niwrnod cyntaf. Mae Y Gorau Oll yn gwasanaethu fel cynnig polisi rhagweithiol ar ran y mudiad myfyrwyr.
- Yr wyth uchelgais a amlinellir yn y papur yw:
- Bydd pob myfyriwr yn llywio ei ddysgu ei hun.
- Bydd pob myfyriwr yn cyfrannu i gymunedau Cymru.
- Bydd pob myfyriwr yn cael yr hyn sydd ei angen arno at ffynnu.
- Bydd pob myfyriwr yn cael ei gefnogi i lwyddo.
- Bydd pob myfyriwr yn iach, yn ddiogel - ac yn helpu Cymru i fod yn iach.
- Bydd pob myfyriwr â’r cyfle i ddysgu ieithoedd.
- Bydd pob myfyriwr yn bartner yn ei addysg.
- Bydd gwaith da gan bob myfyriwr.
Yr wyth gofyniad yw:
- Gwarchod trefn gynhaliaeth gyffredinol Diamond.
- Adfer y meincnod cynhaliaeth a dileu cyfyngiadau ar y trothwyau.
- Ailddiffinio 90 credyd yn “llawn amser”, â therfyn cynhaliaeth isaf.
- Meithrin y gallu i gario credyd ar draws y system addysg drydyddol.
- Cryfhau’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr gan osod terfyn ariannu isaf i Undebau Myfyrwyr.
- Comisiynu’r dystiolaeth goll.
- Paratoi Cymru i fod y cyntaf a’r cyflymaf i gyflwyno Erasmus+.
- Mabwysiadu strategaeth cyflogi myfyrwyr cenedlaethol.
- Ymholiadau Cyfryngau a Cheisiadau am Gyfweliad:
Tîm Cyfathrebu Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: union@aber.ac.uk