Jim Dickinson Wohnke yn Ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Aber

Mae’n bleser gan Undeb Aber roi croeso i Jim Dickinson, Golygydd Cyswllt (Undebau Myfyrwyr) gyda Wonkhe, i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr, a hithau’n #WythnosYmddiriedolwyr arnom.

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae’n bleser gan Undeb Aber roi croeso i Jim Dickinson, Golygydd Cyswllt (Undebau Myfyrwyr) gyda Wonkhe, i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr, a hithau’n #WythnosYmddiriedolwyr arnom.

Jim yw un o leisiau blaenllaw y Deyrnas Unedig ar y profiad myfyriwr, polisi addysg uwch ac Undebau Myfyrwyr. Fel Golygydd Cyswllt (Undebau Myfyrwyr) gyda Wonkhe, mae’n ysgrifennu’n helaeth ar y profiad myfyriwr, trefn llywodraethu a rheoli prifysgolion, ac yntau’n arwain gwaith Wonkhe gydag Undebau Myfyrwyr ledled y Deyrnas unedig, gan gynnwys ei deithiau astudio Ewropeaidd poblogaidd.

Dechreuodd ei yrfa yn cefnogi arweinwyr myfyrwyr ac Undebau Myfyrwyr cyn symud ymlaen i swydd uwch yn Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, pan arweiniodd waith datblygu Undebau Myfyrwyr, ymgyrchoedd a strategaeth gwleidyddol. Fe fuodd wedyn yn gwasanaethu fel Prif Weithredwr ar Undeb y Myfyrwyr ym Mhrifysgol East Anglia ac mae wedi meddu ar swyddi ymddiriedolwr a llywodraethwr ar draws y sectorau addysg uwch a gwirfoddol.

Daw Jim yn rhan o Fwrdd Ymddiriedolwyr sy’n cyfuno ystod eang o arbenigedd, profiad ac ymrwymiad cyffredin i Aberystwyth. Ynghyd â phedwar Ymddiriedolwr Allanol arall, Alwena Hughes-Moakes, Alan Roberts, Bob Hart a Dan Fow, penodir ein Ymddiriedolwyr Allanol i ddod ag ystod o wybodaeth, arbenigedd a galluoedd perthnasol i’n Bwrdd.

Mae Tomos Akash Padel, ein Ymddiriedolwr-Myfyriwr newydd etholedig (israddedig) yn ymuno â Tristan Wood ein Ymddiriedolwr-Myfyriwr etholedig (uwchraddedig) a nhwthau, ynghyd â phedwar swyddog llawn amser etholedig yr Undeb, Francesco Lanzi, Alice Leroy, Gwenno Roberts a Laura Young, fydd yn sicrhau bod llais a phrofiad y myfyrwyr yn aros yn flaenoriaeth gan y Bwrdd wrth weithio i sicrhau bod myfyrwyr Aber yn caru y bywyd myfyriwr.

Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr yn gyfle i gydnabod cyfraniad yr ymddiriedolwyr at helpu mudiadau elusennol ac aelodaeth i gyflawni effaith er budd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576