Yn Aberystwyth dros Gaeaf

Beth bynnag yw'r rheswm - mae llawer o fyfyrwyr yn aml yn aros yn Aberystwyth dros egwyl y Nadolig. Er mwyn osgoi'r unigrwydd rydyn ni wedi llunio'r rhestr ddigwyddiadau yma yn ogystal â rhestr cysylltiadau defnyddiol.

Rydym hefyd wedi creu grwp Facebook fel y gallwn rannu diweddariadau lleol o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod yr egwyl, yn ogystal â rhoi cyfle ichi drefnu cyfarfod gyda myfyrwyr eraill os ydych chi eisiau!


UMABER ar Gau

Adeilad UM:

Ar gau o ddydd Gwener 20 Rhagfyr, 4pm.

Yn ailagor ddydd Llun 6 Ionawr, 10am-4pm.

Siop a Bar:

Ar gau o ddydd Gwener 13 Rhagfyr.

Mae’r siop yn ailagor ar ddydd Llun y 6ed, Ionawr 2025.


DIGWYDDIADAU:

Drwy gydol Tachwedd a Rhagfyr, mae Clybiau a Chymdeithasau UMAber yn cynnal llawer o ddigwyddiadau eraill hefyd, cliciwch yma i gael gwybod mwy!

Res. Life: Dyma restr o ddigwyddiadau ResLife sydd hefyd yn cael eu cynnal yn ystod tymor y Gaeaf hwn. Find out more here!