Chwilio am Lety

Cyn dechrau

Gall dod o hyd i rywle i fyw ynddo ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf fod yn frawychus ar y gorau. Mae'r canllaw hwn yn seiliedig ar rai o'r ymholiadau mwy cyffredin yr ydym yn cynghori myfyrwyr Aber yn eu cylch bob blwyddyn. Rydym wedi ymdrin â phopeth, o bethau i feddwl amdanynt, i'r hyn y dylid edrych amdano wrth fynd i weld eiddo a thaliadau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.


Arwyddo'n rhy gynnar

Mae Aberystwyth yn dref fyfyrwyr brysur gyda llawer o landlordiaid ac asiantau gosod yn cystadlu am gyfle i rentu tai a fflatiau i fyfyrwyr. Yn hanesyddol, mae myfyrwyr Aber wedi tueddu i ddechrau chwilio’n gynnar oherwydd pwysedd i wneud hynny gan fyfyrwyr eraill i raddau helaeth. Serch hynny, gyda datblygiad Fferm Penglais a PJM, a chyda llawer o fyfyrwyr yn dewis aros yn llety’r brifysgol, nid oes angen dechrau chwilio’n rhy gynnar.

Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn darllen unrhyw gytundeb tenantiaeth yn ofalus cyn i chi ei lofnodi. Os nad ydych chi'n siwr ynghylch rhai rhannau ohono, peidiwch â'i arwyddo oherwydd mae’n bwysig i chi sicrhau bod y llety yn iawn i chi ac nad ydych yn cael eich clymu i gytundeb tenantiaeth y gallech chi ddifaru bod wedi’i arwyddo yn nes ymlaen. Dewch ag e at Wasanaeth Cynghori Undeb Aber cyn i chi ei lofnodi er mwyn ei gael wedi’i wirio.

Peidiwch â theimlo dan bwysedd i arwyddo cytundeb tenantiaeth oherwydd eich bod yn pryderu y byddwch yn colli'r eiddo. Nid oes hawl gennych chi i newid eich meddwl na chanslo’r cytundeb ar ôl cyfnod o amser, felly ni ddylech arwyddo unrhyw beth nes eich bod yn berffaith sicr. Bydd landlord neu asiant dibynadwy yn caniatáu amser i chi gael cyngor ynglyn â’r cytundeb tenantiaeth.


Ble i ddechrau

Gellir rhentu llety yn uniongyrchol gan landlord, asiant gosod neu ddarparydd neuaddau preifat. Mae'r rhan fwyaf o asiantaethau yn codi ffi asiantaeth ar denantiaid, er nad yw rhai ohonynt yn gwneud hynny. Rhaid i asiantaethau hysbysebu eu ffi yn glir os ydynt yn codi un. Fel arfer, bydd myfyrwyr yn gwneud ymholiadau â llawer o ddarparwyr yn uniongyrchol, naill ai'n bersonol, dros y ffôn neu ar-lein. Mae llawer hefyd yn dod o hyd i lety drwy ofyn i ffrindiau am argymhellion neu’n troi at wefannau megis Zoopla.

Mae Ffair Tai Undeb Aber, yn gyfle arall gwych i chi ddechrau sgwrs gyda'r darparwyr lleol yn ogystal â darganfod mwy o wybodaeth am sut i ddod o hyd i'r llety perffaith. Byddwn yn archwilio pwy sy'n cael ei wahodd yn ofalus, gan sicrhau bod pawb sy'n bresennol wedi cofrestru â Rhentu Doeth Cymru. Mae ein Cynghorydd Myfyrwyr hefyd ar gael i roi cyngor a gwybodaeth am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau parthed cytundebau tenantiaeth, biliau, diogelwch, arbed ynni a llawer mwy.


Rhentu Doeth Cymru

Mae'n bwysig sicrhau, pwy bynnag rydych chi'n eu defnyddio, eich bod yn gwneud yn siwr bod ganddynt drwydded Rhentu Doeth Cymru. Cyflwynwyd y cynllun cofrestru gorfodol hwn, sy'n ofynnol dan Ddeddf Tai (Cymru), yn 2016 a rhaid i bob eiddo rhent yng Nghymru fod wedi’i gofrestru gyda Rhentu Doeth.

Un o amodau trwydded y landlord/asiant yw bod rhaid iddynt bob amser gadw at God Ymarfer Rhentu Doeth Cymru sy'n gosod oblygiadau ar landlordiaid ac asiantau i wneud y canlynol;

  • Darparu gwybodaeth gywir sydd ddim yn gamarweiniol.
  • Cadw cofnod o bob ffioedd sy'n gysylltiedig â'r trefniant rhentu.
  • Diogelu eich blaendal gyda chynllun diogelu cymeradwy o fewn 30 diwrnod i'w dderbyn.
  • Darparu Tystysgrif Diogelwch Nwy a Thystysgrif Perfformiad Trydanol (EPC).
  • Hysbysu cyflenwr dwr am y tenantiaid / tenantiaid o fewn 21 diwrnod iddyn nhw symud i mewn.
  • Darparu enw a chyfeiriad y landlord o fewn 21 diwrnod i ofyn amdano.
  • Sicrhau bod yr eiddo yn parhau mewn cyflwr diogel.
  • Cadw cyfarpar ar gyfer gwresogi a dwr poeth mewn cyflwr gweithredol.
  • Parchu hawl y tenant / tenantiaid i feddiant heddychlon o'r eiddo.
  • Rhoi 24 awr o rybudd wrth wneud cais am fynediad i'r eiddo oni bai bod achos brys. Os gwrthodir mynediad, rhaid cael gorchymyn llys cyn y gall landlord neu asiant fynd i mewn i’r eiddo.

Gellir cyrchu'r Cod Ymarfer yn ei gyfanrwydd yn:

www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/

Gallwch wirio a yw eich eiddo wedi'i gofrestru neu os yw eich landlord / asiant wedi'i drwyddedu drwy fynd i:

www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/check-register/


Beth i chwilio amdano pan fyddwch chi’n mynd i edrych ar eiddo

Mae bron yn amhosibl cael eich rhyddhau o gytundeb tenantiaeth ar ôl i chi ei arwyddo, hyd yn oed os oes problemau gyda'r eiddo. Felly mae'n bwysig sicrhau eich bod yn edrych o amgylch yr eiddo’n ofalus a sicrhau bod y lle yn iawn i chi cyn i chi arwyddo. Isod mae rhai hintiau handi ar gyfer mynd i weld ty neu fflat: 

  • Gwnewch yn siwr eich bod chi a phob un o'ch cyd-letywyr yn edrych o amgylch yr eiddo os ydych chi'n bwriadu byw mewn ty neu fflat wedi’i rannu. Peidiwch â dibynnu ar air rhywun arall bod yr eiddo yn iawn i chi.
  • Peidiwch ag arwyddo am y lle cyntaf y byddwch yn ei weld - hyd yn oed os yw’n teimlo’n ddelfrydol, cymharwch amryw o ddarparwyr a gwahanol eiddo.
  • Pan fyddwch chi'n mynd i weld y lle, cymerwch nodiadau a lluniau, a defnyddiwch y rhestr wirio ddefnyddiol sydd wedi’i hatodi at ddiwedd y canllaw hwn i sicrhau nad ydych yn methu unrhyw beth.
  • Gwnewch yn sicr eich bod yn gwybod beth yw eich hawliau a'ch cyfrifoldebau, gan y bydd hyn yn eich helpu i fod yn fwy beirniadol, a'ch rhoi mewn sefyllfa gryfach o ran taro bargen.
  • Gwiriwch a yw'r eiddo rydych chi'n ystyried ei rentu mewn perygl o lifogydd trwy ymweld www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd.


Meddyliwch am eich cyllideb

Rhent fydd eich eitem gwariant fwyaf, felly mae'n bwysig cael eich cyllideb yn iawn. Gall bod â fflat moethus yng nghanol y dref neu un o'r stiwdios en-suite gorau yn Fferm Penglais ymddangos yn ddeniadol ar y dechrau, ond dylech bob amser ystyried beth allwch chi ei fforddio mewn gwirionedd.

Yn ogystal â thalu eich rhent, peidiwch ag anghofio fod angen arian arnoch hefyd ar gyfer bwyd, llyfrau, offer ysgrifennu, costau teithio, heb son am arian ar gyfer ddillad a chymdeithasu. Nid yw rhai cytundebau tenantiaeth yn cynnwys biliau cyfleustodau, a hynny cyn i chi feddwl am fand eang, cyfryngau a theledu.

Gallwn eich helpu chi i gyllidebu a chynllunio faint sydd gennych chi ar gyfer talu eich rhent, gan ystyried costau eraill a'ch blaenoriaethau. Gweler ein canllaw Cyllidebu neu cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.


Addo gormod, cyflawni rhy ‘chydig

Dylai unrhyw addewidion a wneir pan fyddwch yn mynd i weld yr eiddo, boed yn ailaddurno ystafell, y system adloniant yr ydych chi bob amser wedi breuddwydio amdani neu ychwanegiadau eraill, gael eu cynnwys yn y cytundeb tenantiaeth gydag amserlen wedi’i chytuno ar gyfer eu cwblhau.

Gwnewch yn siwr y byddech yn fodlon byw yn yr eiddo os na chyflawnir yr ychwanegiadau, gwelliannau neu atgyweiriadau sydd wedi cael eu haddo i chi. Os nad ydych chi, byddem yn argymell eich bod yn edrych yn rhywle arall, oherwydd os na chaiff y gwaith hwn ei wneud, nid yw'n golygu y gallwch chi dynnu allan o'r cytundeb tenantiaeth yn awtomatig. Os bydd hyn yn digwydd, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.


Gwybod pwy rydych yn delio â nhw

Os ydych chi'n defnyddio asiantaeth gosod eiddo i ddod o hyd i dy neu fflat mae’n bwysig gwybod a fydd yr asiantaeth yn rheoli'r eiddo ar ran y landlord pan fyddwch chi'n symud i mewn. Os felly, bydd angen i chi ddelio'n uniongyrchol â'r asiantaeth os oes gennych unrhyw broblemau neu anghenion atgyweirio (serch hynny, cofiwch fod y denantiaeth â'r landlord, sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol dros y denantiaeth o hyd).

Mae'n ofynnol i asiantaethau, dan amodau eu trwydded Rhentu Doeth, i sicrhau bod yr eiddo wedi ei gofrestru.


Tenantiaethau ar y Cyd

Os ydych chi'n cytuno i gymryd ty yr ydych wedi'i weld, a'ch bod chi a'ch cyd-letywyr i gyd yn arwyddo'r un cytundeb tenantiaeth, byddwch yn dod yn gyd-denantiaid sy'n atebol ar y cyd ac yn unigol am unrhyw rent, ôl-ddyledion, biliau cyfleustodau a difrod i'r eiddo rhent yn ei gyfanrwydd. Os oes un neu fwy o'r tenantiaid yn symud allan, gall y landlord fynd ar ôl y tenantiaid sy'n weddill am unrhyw ôl-ddyledion neu filiau sydd heb eu talu. Gallant hefyd fynd at ôl y tenant / tenantiaid sydd wedi gadael.


Gwarantwyr

Mae rhai asiantau gosod a landlordiaid yn mynnu bod angen ffurflen gwarantwr wedi'i llofnodi gan riant neu aelodau eraill o'r teulu. Mae hon yn ffurflen sy'n gwarantu y caiff y rhent ei dalu, ynghyd ag unrhyw filiau neu daliadau eraill yr ydych yn atebol amdanynt o dan delerau'r cytundeb tenantiaeth. Os yw'r denantiaeth yn un ar y cyd, gwnewch yn sicr fod y ffurflen gwarantwr yn ei gwneud yn eglur nad yw eich gwarantwr chi’n atebol am arian sy'n ddyledus gan y tenantiaid eraill. Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr nad oes ganddynt warantwr dalu rhent sawl mis ymlaen llaw. Os bydd hyn yn digwydd, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.


Cyfrifoldebau Tenantiaid

Yn aml, bydd cytundebau tenantiaeth yn gofyn i chi ymddwyn mewn modd sy’n ‘weddus i denant’. Mae hyn cynnwys talu rhent fel y cytunwyd, gofalu am yr eiddo a rhoi gwybod i’r landlord neu asiant am unrhyw ddiffygion, talu biliau cyfleustodau fel y cytunwyd yn y cytundeb a chydymffurfio â phob un o’r telerau teg eraill sydd wedi’u hysgrifennu yn y cytundeb tenantiaeth.


Telerau Annheg

Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn nodi na ddylai fod telerau annheg yn eich cytundeb tenantiaeth. Os oes gennych chi bryderon y gallai eich telerau fod yn annheg, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau neu cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar: 03454 04 05 06


Blaendaliadau a Ffioedd

Mae’n bosib y bydd landlord neu asiant gosod yn codi ffioedd arnoch chi am amrywiaeth o resymau gweinyddol sydd â llawer o enwau gwahanol. O dan Rhentu Doeth, dylid gwneud pob ffi yn eglur yn gynnar yn y broses, a chyn gofyn i chi arwyddo'r cytundebau tenantiaeth - bydd darparwyr da yn dangos y rhain yn glir cyn gynted â phosibl.

Peidiwch fyth â thalu unrhyw arian nes eich bod yn fodlon â'r eiddo a’ch bod wedi arwyddo cytundeb tenantiaeth. Os ydych chi'n talu ac yna'n newid eich meddwl am gymryd yr eiddo, efallai y bydd hi'n anodd cael eich arian yn ôl. Dylech bob amser dalu'ch blaendal ac unrhyw ffioedd â siec neu gerdyn debyd/credyd a chael derbynneb yn dangos y swm a dalwyd a'r hyn y mae'n ei gynnwys; cadwch hon yn ddiogel gyda chopi o'r cytundeb tenantiaeth fel nad yw'n mynd ar goll.

Isod ceir y blaendaliadau neu'r ffioedd mwyaf cyffredin y gofynnir amdanynt; nid oes unrhyw symiau penodol y gellir gofyn amdanynt:

 

  • Blaendal - Mae blaendal yn swm o arian sy’n cael ei ddal yn erbyn difrod i'r eiddo, ôl-ddyledion rhent neu gyfleustodau, unrhyw waith glanhau hanfodol, cael gwared ar lwyth o sbwriel a chost ailosod cloeon neu dorri allweddi newydd os na chânt eu dychwelyd yn brydlon. Ni ellir dal arian yn ôl ar gyfer traul deg i’r eiddo.

          Gellir ei ad-dalu ar ddiwedd y cytundeb tenantiaeth os nad oes unrhyw ôl-ddyledion na difrod.

  • Ffi Arwyddo neu Weinyddol - Fel rheol codir y ffi yma gan landlord neu ei asiant gosod eiddo i dalu costau, gan gynnwys llunio cytundebau, a gwirio credyd neu eirda darpar denantiaid. Peidiwch â bod ofn holi pam eu bod yn codi’r ffi a beth yn hollol y mae'n talu amdano, ac os oes gennych chi unrhyw bryderon, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

          Fel arfer ni ellir ei ad-dalu

  • Blaendal Cadw Eiddo - Codir y tâl yma fel arfer pan fydd tenant yn cytuno i rentu'r eiddo, ond nid yw eto wedi llofnodi'r cytundeb tenantiaeth. Mae'n fodd o ddangos eich bod wedi ymrwymo i daro bargen a bod y landlord neu asiant gosod yn cytuno i gadw’r eiddo i chi. Mewn rhai achosion, bydd y blaendal cadw eiddo yn dod yn flaendal unwaith y bydd y denantiaeth yn dechrau, ac mae'n rhaid iddynt ei ddiogelu (gweler blaendal uchod).

          Fel arfer ni ellir ei ad-dalu oni bai fod yr asiant gosod yn penderfynu tynnu'r cynnig yn ôl.

  • Tâl Cadw - Yn anffodus, nid oes diffiniad manwl gywir. Mae rhai landlordiaid ac asiantau gosod yn codi tâl cadw os ydych chi am storio'ch eiddo yn ystod y cyfnod cyn dechrau'r denantiaeth (fel arfer misoedd yr haf). Fodd bynnag, nid yw tâl cadw yn rhoi'r hawl hon i chi oni nodir yn benodol, felly mynnwch ei fod wedi’i gynnwys yn y cytundeb tenantiaeth.

          Ni ellir ei ad-dalu.


Diogelu Blaendal

Unwaith y byddwch yn talu'ch blaendal, mae'n rhaid i'ch landlord neu asiant ei ddiogelu gan ddefnyddio cynllun a gymeradwyir gan y llywodraeth; gall y rhai sy'n methu â chydymffurfio â hyn, gan gynnwys rhoi manylion am sut y caiff ei ddiogelu, gael eu cosbi.

Mae tri phrif gynllun:

  • The Deposit Protection Service
  • The Tenancy Deposit Scheme
  • My Deposits

Mae cynlluniau diogelu blaendal yn darparu gwasanaeth datrys anghydfod am ddim os na all y landlord neu'r asiantaeth gytuno â’r tenantiaid ar y swm sydd i'w ddychwelyd, gan felly sicrhau na chaiff eich blaendal ei ddal yn ôl ac osgoi'r angen am fynd i gyfraith i gael eich arian yn ôl. Felly mae'n bwysig eich bod yn gofyn sut y bydd eich blaendal yn cael ei ddiogelu cyn talu unrhyw arian.

Mae'n ofynnol i'ch landlord neu asiant gosod ddiogelu'r blaendal o fewn 30 diwrnod i'w dderbyn, yn ogystal â darparu manylion am sut y caiff ei ddiogelu. Gall y rhai sy'n methu â chydymffurfio â'r gyfraith hon wynebu cosb. Dylid ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • Manylion cysylltu'r landlord neu'r asiant.
  • Cyfanswm y blaendal a dalwyd a chyfeiriad y denantiaeth.
  • Enw a manylion cyswllt y cynllun blaendal a ddefnyddir.
  • Y gweithdrefnau ar gyfer ad-dalu’r blaendal ar ddiwedd y denantiaeth.
  • Manylion y gwasanaeth datrys anghydfod amgen am ddim mae’r cynllun yn ei gynnig.

Mewn achosion o denantiaeth ar y cyd, bydd cynlluniau fel arfer ond yn delio â'r prif enw (sef yr un cyntaf) ar y cytundeb tenantiaeth. Rhaid i'r person hwn dderbyn y cyfrifoldeb fel cynrychiolydd y cyd-denantiaid eraill.

Am ragor o wybodaeth am ddiogelu blaendal, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau neu ewch i:

www.gov.uk/tenancy-deposit-protection


Rhestr cynnwys yr eiddo

Dylai'r rhestr hon gynnwys pob dodrefn, cyfarpar ac eitem a ddarperir gan y landlord. Ar ddechrau'r denantiaeth mae’n bosib y gofynnir i chi lofnodi'r ddogfen hon. Dylech sicrhau ei bod yn cynnwys gwybodaeth am gyflwr popeth yn y ty ac nid dim ond ei gynnwys (gan gynnwys carpedi, drysau a waliau a.y.b.).

Gellir defnyddio'r rhestr hon fel tystiolaeth yn achos unrhyw anghydfod ynglyn â difrod neu lanhau pan ddaw'n amser i gael eich blaendal yn ôl. Gall ffotograffau a gymerir ar yr un pryd hefyd fod yn ddefnyddiol iawn, felly peidiwch ag ofni cymryd y rhain gan gynnwys stamp dyddiad/amser. Os na ddarperir rhestr o’r cynnwys ar eich cyfer, paratowch un eich hun, arwyddwch hi a gofynnwch i'r landlord neu'r asiant hefyd ei llofnodi.

Gweler ein canllaw Symud Allan i gael gwybodaeth am yr hyn sydd angen i chi ei wneud a sut i gael eich blaendal yn ôl ar ddiwedd y denantiaeth.


Beth all Gwasanaeth Cynghor Uneb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Udeb Aber yn cynnig cyngor a gwybodaeth am ddim, sy’n gyfrinachol ac yn ddiduedd, i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Esbonio hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid, asiantau gosod a thenantiaid.
  • Adolygu a chynghori ar gytundebau tenantiaeth, cyn ac ar ôl arwyddo.
  • Cynnig cefnogaeth i chi os bydd anghydfod, gan gysylltu â'r landlord neu asiant gosod.
  • Eich helpu i gasglu tystiolaeth briodol ynghyd, pan fo angen hynny, fel sail i'ch achos.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar e-bost a thros y ffôn. Hefyd, rydyn ni’n cynnal gweithgareddau a digwyddiadau eraill i ddatblygu ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau myfyrwyr er mwyn sicrhau eich bod chi mor hapus ac iach â phosib yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth.

Cysylltu  Chynghorydd


Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd gyntaf: Medi 2018

Adolygwyd: Ebrill 2024

Ymwadiad: Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir. Ni ellir dal Undeb Aber yn gyfrifol am ddeilliannau unrhyw beth a wneir o ganlyniad i ddarllen y canllaw hwn. Cyn cymryd unrhyw gamau, rydym yn awgrymu eich bod yn ymweld â'r Gwasanaeth Cynghori.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576