Ydych chi am gychwyn clwb chwaraeon newydd?
A ydych chi erioed wedi ceisio ymuno ag unrhyw glwbs, cyn sylweddoli nad yw’n bodoli?
Oes gennych chi ddiddordeb nad yw Undeb y Myfyrwyr yn darparu ar ei gyfer?
Ceisiwch gychwyn eich clwb eich hun felly. Gall unrhyw un gychwyn clwb (oni bai fod y clwb yn bodoli’n barod neu fod y clwb yn cael ei hystyried yn rhy beryglus).
Os ydych â diddordeb mewn cychwyn clwb chwaraeon newydd cysylltwch a'n Cydlynydd Chwaraeon: Lucie Gwilt neu dewch draw i'r swyddfa cyfleoedd am sgwrs.
Beth yw’r fantais ddechrau Clwb Chwaraeon gyda UMAber?
Mae bod yn Glwb UMAber yn golygu y gallwch fanteisio ar y manteision canlynol:
- Cyfeiriad busnes
- Agen (slot) flynyddol yn Ffair y Glas yr Undeb
- Gofod ar www.umaber.co.uk gyda chyfathrebiad uniongyrchol â’r corff myfyrwyr
- Gallwch ymgeisio am gymhorthdal datblygu
- Mynediad i gyhoeddusrwydd ar hyd a lled y campws ar gyfer gweithgareddau eich clwb
- Cymorth ar sut i drefnu tripiau – pa gwmnïau i’w defnyddio ac ati
- Mynediad am ddim i ystafelloedd cyfarfod yr Undeb
- Mynediad i ddefnyddio Bws Mini’r Undeb ac i hurio faniau
- Mynediad i Ystafelloedd y Brifysgol
- Mynediad i gyfleusterau chwaraeon (nid ar y campws yn unig)
- Cydnabod a gwobrwyo gwirfoddolwyr, gan gynnwys Seremoni Wobrwyo Blynyddol
- Hyfforddiant Sgiliau am ddim
- Opsiynau hyfforddi achrededig: trin bwyd, cymorth cyntaf
- Cyfrif banc ar wahân i’ch clwb, cymorth a chyngor cyllidol proffesiynol
- Swyddog Sabothol llawn amser a chefnogaeth staff
- Cefnogaeth i sicrhau fod pob aelod gydag hawliau a chyfleodd cyfartal