Superteams

Os na wyddech chi'n barod, Superteams yw PRIF ddigwyddiad y flwyddyn. Fe'i cynhelir gan Undeb y Myfyrwyr, a bydd myfyrwyr yn trefnu eu hunain yn dimoedd o 10 er mwyn cystadlu mewn amryw enfawr o weithgareddau a chwaraeon dros y penwythnos. Paratowch eich hun ar gyfer tynnu coes, chwys a llawer o fwd!

Bydd ein digwyddiadau'n amrywio o bêl-fasged i brofion blîp, pêl-droed i gwrs rhwystrau, felly dydy'r penwythnos hwn ddim yn addas i'r gwangalon. Hefyd, mae'n gyfle i'r rheiny sydd ddim yn ymwneud â chlybiau chwaraeon i ddangos eu medrau athletaidd. Mae'n bosib hyd yn oed cael eu sgowtio! Yr unig ofynion yw bod rhaid i chi fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn fodlon gwneud unrhyw beth dros eich tîm… dim pwysedd felly!

Gwybodaeth Allweddol

Menywod: 14 - 16 o Chwefror 2025

Dynion: 21 - 23 o Chwefror 2025

Dyma rywfaint o wybodaeth allweddol:

  • Cofrestrwch eich tîm ar dudalen we Undeb y Myfyrwyr am 9am ddydd Gwener 13 Rhagfyr 2024. i osgoi cael eich siomi – llynedd gwerthodd y rhain allan mewn LLAI NA munud, felly sicrhewch eich bod chi wedi paratoi a bod gennych chi'r holl wybodaeth angenrheidiol wrth law*
  • Cost cystadlu yw £250
  • Bydd timau'n cynnwys 10 aelod (dim mwy, dim llai)
  • Caniateir uchafswm o 28 tîm o fenywod ac 28 tîm o ddynion
  • Caiff pob cystadleuydd grys-t #Superteams21 a mynediad am ddim i ôl-barti enwog Superteams
  • Rhoddir pwyntiau i'r timau yn ôl pa safle maen nhw'n ei gyrraedd ym mhob cystadleuaeth
  • Bydd 11 digwyddiad, gan gynnwys y 'Digwyddiad Dirgel'**
  • Bydd rhaid i bob tîm ddefnyddio ‘Joker’ ar gyfer un digwyddiad (i ddyblu eu pwyntiau) a ‘hepgor’ un digwyddiad (ni chewch unrhyw bwyntiau)
  • Ni chaiff timau hepgor y ‘Digwyddiad Cudd’ na'r ‘Prawf Blîp’
  • Os cewch eich derbyn, caiff amserlen Superteams, ynghyd â'r rheolau a'r rheoliadau, eu dosbarthu'r wythnos cyn Superteams

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â'r tîm Cyfleoedd sydd ar: suclubs@aber.ac.uk

*Pan fyddwch yn cofrestru, bydd angen y manylion canlynol arnoch yn barod: Enw'r Tîm, Manylion y Capten (Enw, E-bost, Symudol), Manylion y Cystadleuwyr (Enw, Rhif y Myfyriwr, E-bost) a Digwyddiadau Joker / Galw. Sylwch, unwaith y byddwch wedi cofrestru, ni fyddwch yn gallu newid eich Enw Tîm neu Ddigwyddiadau Joker / Galw.

* Mae'r digwyddiadau'n cynnwys: tbc*

Gofrestru Tîm

13 Rhag 2024 09:00

 

Gwnewch yn siwr bod manylion eich tîm a'ch aelod unigol wrth law pan fyddwch yn cofrestru. Os ydych yn ddigon lwcus i gael tîm, bydd y cynnyrch yn cael ei gadw yn eich basged felly cofiwch gymryd eich amser i gyflwyno'r holl wybodaeth yn gywir.

Gwirfoddol

Os nad fyddwch chi'n cymryd rhan yn Superteams ond hoffech gynnig help llaw, mae croeso i chi gysylltu â'n Swyddog Cyfleoedd, Tiff McWilliams trwy cyfleoeddum@aber.ac.uk. Mae ein holl wirfoddoli yn cael mynd i Ganlyniad y Superteams am ddim felly os nad yw hynny’n ddigon i ysgogi gwirfoddolwyr, beth fydd?


 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576