Aber 7's

Unwaith eto bydd tref hyfryd Aberystwyth ger y lli yn cynnal yr wyl rygbi 7 bob ochr FWYAF yn ystod penwythnos Gwyl Banc Mai, rhwng 2 - 3 o Mai 2026.

Mae'r cofrestriadau tîm yn agor yn fuan! Peidiwch ag anghofio, nid oes angen i chi gystadlu i fwynhau'r diwrnod, gallwch chi ddod i gymryd rhan trwy wylio o hyd!

Cysylltwch â Rheolwr Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb, Lucie Gwilt Os oes angen unrhyw fanylion pellach arnoch neu os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Cystadlaethau

Canolradd dynion | Dechreuwr dynion (Cystadleuol) | Dechreuwr dynion (Gymdeithasol) | Canolradd merched | Dechreuwr merched (Cystadleuol) | Dechreuwr merched (Gymdeithasol)

Cynhelir yr holl gystadlaethau dros y penwythnos cyfan. Ar y diwrnod 1af a bore’r 2il ddiwrnod, bydd y timau yn chwarae mewn cynghrair, gyda chystadleuaeth ddileu yn cael ei chynnal ar brynhawn yr 2il ddiwrnod. Yn dibynnu ar lwyddiant pob wrth chwarae yn y gynghrair, byddant naill ai yn symud ymlaen i’r Cwpan, y Plât neu’r Fowlen a fydd yn gystadlaethau dileu sy’n cynnwys rowndiau cyn-derfynol a rownd terfynol.

Nid yw'r cynnyrch hwn ar werth.

Nid yw'r cynnyrch hwn ar werth.

Aber7s 2026: Player Weekend Pass | Pas Penwythnos i Chwaraewyr

Cyf: P10032390
This ticket guarantees your place in your Aber7s 2026 team. Don't forget, each player in your team MUST purchase their Player Weekend Pass to enter the event.

Nid yw'r cynnyrch hwn ar werth.

Gwybodaeth Allweddol

Dyddiad:  2-3 o Mai 2026

Mynediad: 

  • Mynediad Tîm - £100
  • Pas Chwaraewyr - £25
  • Tocyn Gwylwyr - £12 (Ar-lein yn unig, pas penwythnos)

Llety: Gall timau gadw ystafelloedd yn fflatiau Penbryn Prifysgol Aberystwyth am £TBC y pen fesul noson (ar sail lleiafswm o aros dwy noson). Mae modd i chi archebu a/neu gael rhagor o wybodaeth yma.

Parcio:Mae parcio i’w gael ar y safle am £6 am y penwythnos cyfan. Caiff y maes parcio ei gau ar ôl y cyflwyniad olaf ar y Sul felly cofiwch fynd â’ch car o’r maes parcio erbyn nos Sul neu fydd rhaid i chi aros tan ddydd Mawrth i’w nôl. 

Bwyd a Diod: Mae ganddo ni ddigon o ddewis bwyd a diod ar safle #Aber7s eleni; Van byrgyrs a sglodion, Indian Cuisine, Hog Roast, Hufen Ia, van coffi a bar y brifysgol.

Does dim rhaid i chi adael y cae!

Canlyniadau: Mae modd dilyn y canlyniadau byw trwy gydol y penwythnos ar www.aber7s.co.uk

Polisi Blaendolau: Ni chaniateir cwn ar Gaeau Chwarae Blaenau.

Manylion ir Capteiniaid

Cystadlaethau & Gemau | Map o'r lleoliad | Rheolau

Mynediad: Caiff pob chwaraewr cofrestredig fynediad am ddim felly sicrhewch eich bod chi'n cyrraedd mewn da bryd cyn y gêm gyntaf! Cofiwch, bydd y tîm diogelwch yn sicrhau nad oes gennych alcohol. Os byddant yn dod o hyd i alcohol, caiff ei gymryd oddi wrthych.

Cofrestru'ch Tîm: O 9:00 ymlaen fore Sadwrn ym Mhabell y Swyddogion ym Mlaendolau. (Capteiniaid yn unig os gwelwch yn dda).

Gemau: TBC

Gorchuddion dannedd: Bydd stondin fechan ar wahân yn gwerthu gorchuddion dannedd hefyd.

Cyflwyniad: Bydd Cyflwyniad y Gwobrau'n digwydd ar y safle, yn dilyn rownd derfynol y Prif Gwpan am tua 17:00 ddydd Sul.

Gwylwyr Aber7s

Bach o hwyl i wylwyr #Aber7s!! Pam eich bod chi’n aros, mae yna le i bawb! Dewch i ddathlu’r wyl fanc Mai yng gwyl rygbi FWYAF Cymru!! 
Bachwch eich docyn penwythnos AR DDISGOWNT nawr ar gyfer.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576