Penwythnos Nôl i Aber 2020
Bydd ein digwyddiad Nôl i Aber newydd sbon yn digwydd ddydd Sadwrn 31 Hydref 2020 mewn sawl lleoliad yn Aberystwyth. Bydd cannoedd o fyfyrwyr o dimau chwaraeon a chymdeithasau'n cystadlu yn y twrnamaint hwn am dlws newydd Tîm Aber v Cyn-fyfyrwyr Aber.
Mae'r digwyddiad hwn yn RHAD AC AM DDIM a chaiff ei gyllido gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth drwy Gronfa Aber.
Cyfranogwch: Gwirfoddolwch!
Os na fydd modd i chi gystadlu yn Nôl i Aber ond hoffech chi gyfranogi (neu rydych chi'n adnabod rhywun a hoffai) bydd angen gwirfoddolwyr arnom ni ar gyfer y diwrnod. Cysylltwch â Wojtek Salski ar suopportunities@aber.ac.uk i gofrestru!
Cysylltydd
Os hoffech chi ragor o fanylion ynglyn â'r digwyddiad, cysylltwch â'n Cydlynydd Chwareaon, Emily Stratton