'Sialens Aber’ yw digwyddiad mwyaf newydd eich Undeb!
Caiff y digwyddiad ei gynnal dros dri diwrnod; mae’n cynnwys amrywiaeth o ddisgyblaethau - ac mae’n mynd i newid y gêm. Does dim angen dweud, ar ôl cyfnod cystadleuol, dylai gwrthwynebwyr fynd ati i gymodi â’i gilydd a dathlu’r canlyniad. Felly, ar y dydd Sul, byddwn yn cynnal ôl-ddigwyddiad i bawb sydd wedi cymryd rhan!

Trefnwch benwythnos rhydd, dewch â’ch ffrindiau gyda chi ac ymunwch â ni ar antur anhygoel newydd yn llawn darganfyddiadau!

Pryd: 5ed - 7fed Chwefror 2021 | Ble: Yn Rhithwir/Aber*
Amserlen: i’w chadarnhau | Cost: £35 y tîm | Timau: 3-6 o bobl (swigen aelwyd)
Digwyddiadau*
Rhithwir |
Rhithwir a Diriaethol |
Cwis |
Cwis |
Jackbox Games |
Jackbox Games |
Gwyddbwyll |
Gwyddbwyll |
Her Fideo |
Her Fideo |
Helfa Sbarion |
Helfa Sbarion |
The Great Aber Bake Off - Her Dechnegol |
The Great Aber Bake Off - Her Dechnegol |
Digwyddiad Dirgel |
Digwyddiad Dirgel |
E-Chwaraeon |
Glanhau'r Traeth / y Dref |
Scategories |
Cystadleuaeth Jenga Enfawr |
*Yn dibynnu ar gyfyngiadau COVID, rydym wedi cynllunio i'r digwyddiad fynd rhagddo, naill ai'n gyfangwbl rhithwir, neu gyfuniad o rithwir a diriaethol. Felly, gall digwyddiadau newid ychydig oherwydd cyfyngiadau COVID.

Mae'r cofrestru'n cau 9am ddydd Llun 18fed Ionawr 2021!
Wrth gofrestru, gofynnir i chi ffurfio tîm yn eich swigen aelwyd. Bydd angen i chi fod â’r manylion canlynol yn gyfleus: Enw'r Tîm, Manylion y Capten (Enw, E-bost, Ffôn symudol) a Manylion Aelodau’r Tîm (Enw, Rhif Myfyriwr). Gofynnir i chi hefyd a oes gan bawb sy’n cymryd rhan Yswiriant Tîm Aber (bellach am ddim) ac unrhyw ofynion dietegol / alergenau. Oherwydd y gallai'r digwyddiad fod yn rhithwir neu gymysgedd o rithwir a diriaethol, gofynnir i chi ddwywaith ddewis eich Digwyddiad Joker / Diwgyddiad i’w Ollwng. Sylwch unwaith y byddwch wedi cofrestru, fyddwch chi ddim yn gallu newid Enw eich Tîm na’ch Digwyddiad Joker / Digwyddiad i’w Ollwng.

I’w Chadarnhau
Os ydych chi am wybod mwy ynglyn â’r digwyddiad, cysylltwch â’ch Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr, Wojtek Salski.
