Cynrychiolwyr Academaidd a Swyddogion Cyfadran

Myfyrwyr sydd wedi cael eu dewis fel y bobl orau i siarad ar ran myfyrwyr eraill yw Cynrychiolwyr Academaidd a Swyddogion Cyfadran. Maen nhw’n rolau pwysig sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr godi adborth a gweithio gyda staff y Brifysgol i helpu gwneud eich amser yn Aberystwyth y gorau y gall fod! 

 

I ddysgu mwy am y rolau hon a sut gallwch chi fod yn gynrychiolydd myfyrwyr, gweler y tudalennau hon isod:

Elections ButtonResource Hub Button

 

 

Gellir clywed sut brofiad a gafodd myfyrwyr fel cynrychiolydd:

Jenny, Cynrychiolydd Hanes: “Mae bod yn gynrychiolydd yn gyfle anhygoel i gael gwella profiad myfyrwyr, nid yn unig i fyfyrwyr presennol ond ar gyfer myfyrwyr y dyfodol hefyd. Mae cyfathrebu’r syniadau lle mae’r corff myfyrwyr yn gallu newid a pharhau, a gweld y pethau hyn cael eu gweithredu arnynt, yn anhygoel.”

Kate, Cynrychiolydd Cyfryngau a Chyfathrebu: “Dwi’n gynrychiolydd academaidd ar fy nghwrs trwy gydol y 3 blynedd o’m gradd ac wedi mwynhau pob agwedd o’r rôl hon. Mae wedi rhoi’r cyfle i fi ddod i nabod fy narlithwyr a myfyrwyr eraill mewn ffordd fwy cadarnhaol, ac mae wedi fy ngalluogi i helpu o fewn yr adran i wneud yn siwr bod llais pawb yn cael ei glywed. Mae wedi bod yn bleser cael cynrychioli fy nghwrs yn y ffordd hyn ac mae wedi rhoi yr hyder i fi gyfathrebu’n fwy effeithlon rhwng cyfoedion a thiwtoriaid.”

Kim Cynrychiolydd Anrhydedd Cyfun: “Fel cynrychiolydd academaidd, dwi wedi cael ehangu fy sgiliau cyfathrebu, cydweithio gyda fy nghyd-gynrychiolwyr academaidd ac aelodau staff mewn cyfarfodydd trwy gydol y flwyddyn, megis y cyfarfodydd PCSMau a chyfarfodydd adrannol, er mwyn cyfleu unrhyw feysydd a allai gael eu newid neu eu gwella. Mae hefyd yn gyfle gwych i fod yn rhan gyda’r cyfoedion rydych chi’n eu cynrychioli oherwydd eich bod yn gallu cynrychioli eu meddyliau a’u pryderon a rhoi adborth ar y cynnydd sydd yn cael ei wneud.”

 

Cysylltiadau Allweddol:

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â:

  Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd
Zoë - llaisum@aber.ac.uk

  Swyddog Materion Academaidd
Anna - academaiddum@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576