Hwb Adnoddau

Dyma'r man cychwyn ar gyfer gwybodaeth ac adnoddau i'ch cefnogi yn eich rôl. Isod dewch o hyd i sut i gael mynediad at eich e-bost cynrychiolwyr yn ogystal â rhai templedi defnyddiol a dogfennau allweddol - gan gynnwys y llawlyfr cynrychiolwyr.


Cynrychiolwyr Academiadd Llawlyfr


Cyfeiriad E-bost Cynrychiolwyr

 

I’ch cefnogi mewn cysylltu â’r myfyrwyr rydych chi’n eu cynrychioli, rydyn ni wedi creu ‘E-byst Cynrychiolwyr’ ar gyfer pob cynrychiolydd academaidd etholedig. I actifadu a chael mynediad at y cyfeiriad e-bost, bydd rhaid i chi cwblhau ein ‘Cytundeb E-bost’ yma (bydd rhaid ei gwblhau bob blwyddyn academaidd).

Defnyddio eich E-bost Cynrychiolydd

  • Defnyddir E-byst Cynrychiolwyr y fformat fel a ganlyn: rep-list-abc123@aber.ac.uk ‘abc123’ fydd enw eich defnydd Prifysgol Aberystwyth.
  • I e-bostio myfyrwyr, y cwbl sydd angen ei wneud yw ei roi yn y maes ‘at (to)’ pan yn anfon eich e-bost

Noder...…

  • Er mwyn sicrhau mai chi sydd â chaniatâd i’w ddefnyddio, ni fydd neb arall yn cael defnyddio enw eich defnydd
  • Gall myfyrwyr ateb yn uniongyrchol i’r e-byst rydych chi’n anfon, byddwch yn gwybod bod yr e-bost wedi’i anfon oherwydd y dylech gael yr e-bost yn eich blwch.
  • Bydd gan rai ohonoch chi yr un rôl ac felly gosodir eich e-bost i chi gael cysylltu â’r un grwp o fyfyrwyr. Cofiwch i gydweithio gyda’ch gilydd pan yn anfon e-byst.
  • Wrth ddefnyddio cyfeiriad e-bost cynrychiolwyr, mae rhaid i chi ddilyn Hysbyseb a Pholisi Diogelu Data yr Undeb yn ogystal â Pholisi E-byst y Brifysgol.

Mae croeso i chi ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost i gyflwyno eich hun i’r grwp ac unwaith i chi fynd trwy’r hyfforddiant ewch i gasglu adborth.

 

 

   Cychwyn arni – Rhestr wirio cynrychiolwyr

   Templed E-bost Croesawu

   Templed Casglu Adborth Pwyllgor Cyswllt Staff a Myfyrwyr

   Cofnodi eich Oriau o Wirfoddoli


   SgiliauAber*     
   Polisi Cymorth Myfyrwyr a Chynrychiolaeth
 

 

*Bydd SgiliauAber yn darparu canolfan ganolog o wybodaeth defnyddiol i fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig i gefnogi eu sgiliau academaidd, astudio a phroffesiynol i gyd wedi'u trefnu'n gyfleus mewn un lle. Bydd tudalen we SgiliauAber yn dod yn siop-un-stop lle gall myfyrwyr ddod o hyd i ystod eang o gyngor ar wella eu hysgrifennu academaidd, gloywi eu sgiliau mathemateg, delio ag arholiadau, deall cyfeirnodi ac ymwybyddiaeth o lên-ladrad, bwcio sesiynau sgiliau ac 1:1 ynghyd â chyngor llyfrgell, gyrfaoedd a lles.


    Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd
  Zoë - llaisum@aber.ac.uk

  Swyddog Materion Academaidd
Anna - academaiddum@aber.ac.uk

 

 

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576