Cynrychiolwyr Academaidd

Beth yw Cynrychiolwyr Academaidd?

Mae Cynrychiolwyr Academaidd yn fyfyrwyr sy’n casglu adborth a siarad ar ran eu carfan i helpu gwneud eich addysg a phrofiad prifysgol y gorau posibl!

Mae Cynrychiolwyr Academaidd yn cymryd eu rolau trwy gael eu hethol gan y garfan y byddant yn ei chynrychioli – boed eu dosbarth neu eu hadran ehangach. Mae hyn yn golygu eu bod wedi cael eu dewis i fod y person i godi adborth myfyrwyr gyda staff yn eu hadran, y Brifysgol ehangach neu Undeb y Myfyrwyr.

Mae sawl modd eu bod yn gallu lleisio adborth myfyrwyr ond mai Pwyllgorau Cyswllt Staff a Myfyrwyr yw’r mwyaf cyffredin. Pwyllgor a ffurfir gan staff adrannol a chynrychiolwyr academaidd yw Pwyllgorau Cyswllt Staff a Myfyrwyr gyda’r nod o drafod a gweithredu ar adborth. Gall eich Cynrychiolydd weithio gyda’r Swyddog Cyfadran a’ch Swyddog Materion Academaidd i godi adborth.

Prif ymrwymiadau:

  • Arwain casglu adborth gan fyfyrwyr ar eich cwrs neu yn eich adran.
  • Hyrwyddo eich rôl ymysg myfyrwyr a’i wneud yn glir sut gallan nhw gysylltu â chi.
  • Mynychu tri Phwyllgor Cyswllt Staff a Myfyrwyr bob blwyddyn.
  • Rhoi gwybod i fyfyrwyr ynglyn ag unrhyw newidiadau neu welliannau, sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod cael eu hadborth yn werthfawr a bod gweithredu arno.

Pwy yw fy Nghynrychiolydd Academaidd?

 

Mae sawl ffordd o ganfod pwy ydyn nhw, ac i gysylltu â’ch Cynrychiolydd Academaidd.

Dylech fod yn ymwybodol y gall gymryd ychydig wythnosau i fanylion gael eu casglu a'u huwchlwytho ar ôl cynnal etholiadau.

Os na allwch chi ddod o hyd i fanylion eich Cynrychiolydd Academaidd, yna cysylltwch â'r Cydlynydd Cynrychiolwyr Academaidd drwy e-bostio llaisum@aber.ac.uk a fydd yn gallu darparu eu manylion cyswllt i chi.

 

Pryd dylwn i gysylltu Cynrychiolydd Academaidd?

 

Os oes gennych chi unrhyw adborth cadarnhaol neu negyddol am eich cwrs, gan gynnwys pethau fel aseiniadau, yr addysgu, cyfleusterau, arholiadau ac amserlennu a.y.b. yna gallwch gysylltu â'ch Cynrychiolydd Academaidd.

Bydd eich Cynrychiolydd Academaidd yn cofnodi'ch adborth yn ddienw ac yn codi’r mater gyda'r aelod staff mwyaf priodol neu'n adrodd yn ôl yn eu PYSM nesaf. Os nad yw eich adborth yn ymwneud â'ch astudiaethau academaidd, yna gall eich cynrychiolydd helpu i'ch cyfeirio at rywun a all helpu yn eich adran, Cymorth i Fyfyrwyr neu Undeb y Myfyrwyr.

 

Pam dylwn i fod yn Gynrychiolydd Academaidd?

 

Rydyn ni’n credu mai llais y myfyrwyr sydd bwysicaf ac rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod barn, anghenion a phryderon myfyrwyr yn llywio eich Adran, Prifysgol ac Undeb Myfyrwyr! Os ydych chi’n angerddol am lais y myfyrwyr ac rydych chi eisiau’r addysg orau posibl yma yn Aberystwyth, yna dyma’r rôl i chi.

Trwy fod yn Gynrychiolydd Academaidd:

  • Byddwch yn gwneud ffrindiau newydd a magu perthnasoedd positif gyda staff
  • Byddwch yn magu sgiliau arweinyddiaeth a chyfathrebu
  • Bydd gennych rôl y tu allan i’ch astudiaethau academaidd a fydd yn edrych yn dda ar eich CV
  • Byddwch yn ennill cydnabyddiaeth gwirfoddoli trwy’r Gwobr Aber
  • Byddwch yn helpu gwneud newidiadau a fydd o les i addysg a phrofiad eich cyd-fyfyrwyr a myfyrwyr y dyfodol.

 

Sut mae modd i mi fod yn Gynrychiolydd Academaidd?

 

Cynhelir yr etholiadau ar gyfer ein Cynrychiolwyr Academaidd ym mis Medi a Hydref. Bydd eich adran yn rhoi gwybod i chi am y rolau cynrychioli. Cynhelir Is-etholiadau ar gyfer rolau gwag trwy gydol y flwyddyn.

 

Pa hyfforddiant a chymorth gaiff eu darparu?

 

Bydd yr holl Gynrychiolwyr Academaidd yn cael eu gwahodd i sesiwn hyfforddi unwaith iddynt gael eu hethol, mae’r hyfforddiant hwn yn ehangu ar natur y rôl ac yn rhoi sylfaen gadarn wrth ddechrau eich rôl. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei addasu ar gyfer cynrychiolwyr gan ddibynnu ar a ydynt yn ddechreuwyr neu yn dychwelyd i rôl.

Yn ogystal â hyfforddiant byddwn hefyd yn cysylltu’n rheolaidd â chi ynghylch diweddariadau, gwybodaeth a chyfleoedd perthnasol ar gyfer eich rôl – bydd hefyd yn cynnwys y cyfle i fynd i gynadleddau lleol a chenedlaethol i gwrdd â chynrychiolwyr o sefydliadau eraill.

Bydd y Swyddog Materion Academaidd a’r Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd wrth law hefyd trwy gydol y flwyddyn i drefnu cyfarfodydd rheolaidd, cyfleoedd i rwydweithio, cyfleoedd i gael hyfforddiant ychwanegol, a chynnig cymorth ychwanegol os bydd ei angen.

 

 


Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am Gynrychiolwyr Academaidd, cysylltwch â...

  Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd 
Zoë - llaisum@aber.ac.uk

  Swyddog Materion Academaidd
Anna - academaiddum@aber.ac.uk

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576