Cymdeithasau a Prosiectau Gwirfoddoli

Mae cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli yn ffordd wych o gwrdd â phobl sydd â'r un diddordebau â chi, gwneud ffrindiau a rhoi cynnig ar rywbeth newydd; hyn oll wrth ddatblygu eich cyflogadwyedd a chyfoethogi eich profiad yn y Brifysgol.

I ymuno â chymdeithasau, bydd rhaid i chi brynu Yswiriant Tîm Aber. Mae hyn yn daliad untro o £6, a fydd yn rhoi yswiriant personol i bob myfyriwr ar gyfer unrhyw weithgaredd UMAber. Unwaith i chi ei dalu, fe gewch chi gymryd rhan mewn cymaint o glybiau a chymdeithasau ag y mynnwch. Gellir chwilio am eich cymuned #TîmAber trwy fynd i’n rhestr o Glybiau Chwaraeon a Chymdeithasau. Ni fydd angen yswiriant Tîm Aber arnoch chi i fod yn rhan o Brosiectau Gwirfoddol gan ei fod yn cael ei gynnwys tra’n cofrestru fel gwirfoddolwr. 

Gweler y tudalennau ar gyfer y cymdeithasau unigol am fwy o fanylion ynghylch ffioedd aelodaeth. Mae ffioedd aelodaeth yn talu am aelodaeth sylfaenol o’r gymdeithas, ond mae’n bosib y bydd gofyn i chi gyfrannu tuag at gostau ychwanegol megis teithio a chyfarpar personol yn ystod y flwyddyn.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan, cysylltwch â:

  Cydlynydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli
Tom Morrissey
susocieties@aber.ac.uk // 
suvolunteering@aber.ac.uk
  Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr
Tiff McWilliams
cyfleoeddum@aber.ac.uk

  • All
  • Hapchwarae, Diddordeb a Gwleidyddiaeth
  • Ymgyrchoedd, Elusen a'r Amgylchedd
  • Ffilm, Cyfryngau, Llenyddiaeth a’n Cefnogwyr Selog
  • Perfformio a Cherddoriaeth
  • Academaidd a Gyrfaoedd
  • Ffydd a Diwylliant
  • Prosiect Gwirfoddoli
  • UMCA

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576