Bwrdd Cynghori

Mae gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth bedwar Bwrdd Cynghori gweithredol sydd dan arweiniad myfyrwyr er mwyn datblygu meysydd allweddol yn Undeb y Myfyrwyr a bywyd myfyrwyr. Mae gennym:

  • Y Bwrdd Cynghori ar Gynaladwyedd Amgylcheddol.
  • Y Bwrdd Cynghori ar Ôl-raddedigion.
  • Y Bwrdd Cynghori ar Fyfyrwyr Rhyngwladol.
  • Y Bwrdd Cynghori ar Ryddhau, Cydraddoldeb, Amrywioldeb, a Chynwysoldeb.

 

Myfyrwyr sydd â diddordeb neu brofiad o’r meysydd hwnnw sy’n arwain ac yn mynychu’r Byrddau Cynghori hwnnw. Pwrpas y byrddau yw cynghori a gwneud awgrymiadau i Undeb y Myfyrwyr ar feysydd datblygu hy polisïau, ymgyrchoedd a phrosiectau allweddol yn ein cynllun ystadegol.

 

Os hoffech chi ymuno ag un o’n Byrddau Cynghori, gallwch roi gwybod i ni am eich diddordeb trwy lenwi ein ffurflen.


 

Y Bwrdd Cynghori ar Ryddhau, Cydraddoldeb, Amrywioldeb, a Chynwysoldeb.

 

Sefydlwyd y Bwrdd Cynghori ar Ryddhau, Cydraddoldeb, Amrywioldeb, a Chynwysoldeb i gefnogi myfyrwyr sy’n wynebu gormes mewn cymdeithas. Boed y rhai sy’n uniaethu fel LDHTC+, DALIE, anabl, menyw, traws neu o rywedd amrywiol.

 

Mae’r Bwrdd hwn yn cael ei fynychu gan ein Swyddogion Rhyddhau Gwirfoddol, ein Swyddogion Llawn Amser perthnasol, a myfyrwyr sy’n frwd dros wneud newid.

 

Os hoffech chi wybod mwy, gweler Amodau Gorchwyl ein Bwrdd Cynghori ar Ryddhau, Cydraddoldeb, Amrywioldeb, a Chynwysoldeb.

 

Ewch yma i weld canlyniadau a ddaeth o’r bwrdd hwn.

*Ni chymerwyd dim camau hyd yn hyn gan ei fod yn grwp newydd yn 2023-24*

 

 

Y Bwrdd Cynghori ar Fyfyrwyr Rhyngwladol

 

Sefydlwyd y Bwrdd Cynghori ar Fyfyrwyr Rhyngwladol i fyfyrwyr rhyngwladol rannu eu profiadau a’u hargymhellion i’r UM ar ddatblygiadau strategol pwysig er mwyn cefnogi myfyrwyr rhyngwladol.

Mae’r Bwrdd hwn yn cael ei fynychu gan ein Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol, ein Swyddogion Llawn Amser perthnasol, a myfyrwyr rhyngwladol sy’n frwd dros wneud eu hamser yng Nghymru y gorau posibl.

Os hoffech chi wybod mwy, gweler Amodau Gorchwyl ein Bwrdd Cynghori ar Fyfyrwyr Rhyngwladol.

 

 

Ewch yma i weld canlyniadau a ddaeth o’r bwrdd hwn.

*Ni chymerwyd dim camau hyd yn hyn gan ei fod yn grwp newydd yn 2023-24*

 

 

Y Bwrdd Cynghori ar Gynaladwyedd Amgylcheddol

 

Sefydlwyd y Bwrdd Cynghori ar Gynaladwyedd Amgylcheddol er mwyn rhoi argymhellion i Undeb y Myfyrwyr ar gamau allweddol i ddod yn fwy eco-gyfeillgar ac i fynd i’r afael â Newid Hinsawdd, ar lefel leol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r grwp hwn yn cefnogi’r Effaith Werdd, yn rhoi cyngor a chymryd rhan mewn ymgyrchoedd allweddol a meysydd i’w datblygu.

Mae’r Bwrdd hwn yn cael ei fynychu gan ein Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd a myfyrwyr sydd am fynd i’r afael â’r argyfwng amgylcheddol.

Os hoffech chi wybod mwy, gweler Amodau Gorchwyl ein Bwrdd Cynghori ar Gynaladwyedd Amgylcheddol.

 

Ewch yma i weld canlyniadau a ddaeth o’r bwrdd hwn.

*Ni chymerwyd dim camau hyd yn hyn gan ei fod yn grwp newydd yn 2023-24*

 

 

Y Bwrdd Cynghori ar Fyfyrwyr Ôl-raddedig

 

Sefydlwyd y Bwrdd Cynghori ar Fyfyrwyr Ôl-raddedig er mwyn rhoi cyngor i Undeb y Myfyrwyr ar gefnogi myfyrwyr ôl-raddedig tra byddant yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Maent yn cynghori ar ddigwyddiadau allweddol i feithrin cymuned Ôl-raddedig a datblygu prosiectau allweddol i helpu myfyrwyr ôl-raddedig.

Mae’r Bwrdd hwn yn cael ei fynychu gan ein Swyddog Ôl-raddedigion Gwirfoddol, ein Swyddogion Llawn Amser perthnasol a myfyrwyr ôl-raddedig eraill sy’n frwd dros wneud y gorau o’u hamser yn y Brifysgol.

Os hoffech chi wybod mwy, gweler Amodau Gorchwyl ein Bwrdd Cynghori ar Fyfyrwyr Ôl-raddedig.

 

   Ewch yma i weld canlyniadau a ddaeth o’r bwrdd hwn.

*Ni chymerwyd dim camau hyd yn hyn gan ei fod yn grwp newydd yn 2023-24*

 

I gael rhagor o wybodaeth ar ein Byrddau Cynghori, cysylltwch â:

 

 

Ash Sturrock

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth
ais13@aber.ac.uk  /  llaisum@aber.ac.uk 

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576