RAG – Codi Arian a Rhoddi

Mae’r wythnosau Codi Arian a’i Roddi (wythnos RAG) yn fenter codi arian a arweinir, am y rhan fwyaf, gan glybiau chwaraeon, cymdeithasau a grwpiau gwirfoddoli. Mae’n seiliedig ar addewidion UMAber i’ch cefnogi i fod yn iach ac yn hapus ac i fod yn ddylanwad cadarnhaol.


Wythnosau RAG

Pan roddir wythnos gyfan i grwpiau myfyrwyr godi arian. Mae rhai grwpiau yn trefnu un digwyddiad mawr, gyda rhai yn rhedeg rhywbeth bob dydd, a grwpiau eraill yn cydweithio gydag eraill a rhai grwpiau, ar y llaw arall, yn ei gwneud hi’n annibynnol – does dim ffordd gywir neu anghywir o fynd ati i gynnal wythnos RAG, cyhyd â’ch bod yn cael hwyl ac yn codi arian dros achos da!

23ain - 27ain Hydref | 13eg - 17eg Tachwedd | 11eg - 15fed Rhagfyr | 19eg - 23ain Chwefror | 18fed - 22ain Mawrth | 22ain - 26ain Ebrill


Y Gronfa RAG

Yn 2020, pasiwyd Syniad yn Bolisi trwy’r Senedd i greu Cronfa Llesiant Wythnosau Codi a Rhoddi. Bydd yr arian a roddir i’r gronfa hon yn cefnogi UMAber i gynnig ystod llawn o weithgareddau a phrosiectau i gefnogi llesiant myfyrwyr, o becynnau gofal i wasanaethau cymorth proffesiynol. Mae ein swyddogion llawn amser yn awyddus i ddatblygu ffyrdd newydd o wella llesiant myfyrwyr ar draws y campws.

Mae yna hefyd opsiwn i godi arian dros yr elusen/au o’ch dewis.


Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan cysylltwch â:

Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr 
Tiffany McWilliams
cyfleoeddum@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576