Haia, Gwenno ydw i a fi yw Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ar gyfer 2026/27. Gyda dros 150 o aelodau, UMCA yw calon y gymuned Gymraeg yma yn y brifysgol, a’m rhan i yn hynny yw bod yn lais i chi’r myfyrwyr Cymraeg – boed hynny ar gyfer eich profiad academaidd, eich lles neu wrth ymgyrchu.
Mae calendr UMCA yn llawn dop o bob math o bethau – tripiau amrywiol, cyfle i chwarae ar dimau rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd, nosweithiau gwisg ffansi Cymraeg o’r enw Sŵn a’r digwyddiadau Rhyng-golegol enwog lle bydd myfyrwyr holl brifysgolion Cymru yn dod at ei gilydd.
Mae eich amser fel myfyriwr wir yn hedfan, felly gwnewch y mwyaf o’ch cyfnod a’r holl gyfleoedd gwerthfawr sydd ar gael yma’n Aber! A pheidiwch anghofio fy mod i, UMCA a’r Undeb ehangach yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd. Mae gen i swyddfeydd yn adeilad Undeb Aber ac yn Neuadd Pantycelyn felly peidiwch â bod yn ddieithr!
Edrychaf ymlaen i’ch croesawu chi i deulu UMCA a’r Brifysgol!
Is-Lywydd: Tomos Parry
Cadeirydd: Siwan Williams
Ysgrifennydd: Elliw Mair
Trysorydd: Gwenno Jones
Swyddog Cyhoeddiadau: Elan Evans
Swyddog Gweithgareddau: Ella Lyons
Swyddog Siaradwyr Newydd: Luned Eryl
Swyddog Siaradwyr Newydd: Mared Roberts
Swyddog RAG: Sara Evans
Swyddog RAG: Elan Lloyd
Cyflwynwch gwyn