Disgrifiad Rôl: Cynrychiolydd Academaidd

Yn UMAber, rydyn ni am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth. Rydyn ni'n addo mai myfyrwyr gaiff y gair olaf, ac rydyn ni am i chi weithio gyda ni i wireddu ein gweledigaeth.

Electionswelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Rôl: Cynrychiolydd Academaidd
Adran: Cymorth a Chynrychiolaeth / Eich Adran Academaidd 
Ymrwymiad / Hyd y Swydd: Swydd etholedig am hyd at un flwyddyn academaidd. 1-2 awr y wythnos, yn ystod y tymor yn unig.
Angen profiad blaenorol: dim o gwbl; caiff pob hyfforddiant ei ddarparu.

 

Diben y Rôl

Mae Cynrychiolwyr Academaidd yn fyfyrwyr sy'n casglu adborth ac yn siarad ar ran myfyrwyr eraill i helpu i wneud eich addysg a’ch profiadau yn y Brifysgol y gorau y gall fod!

Etholir Cynrychiolwyr Academaidd i'w rôl gan fyfyrwyr ar eu cwrs, neu yn eu hadran. Mae hyn yn golygu eu bod wedi cael eu dewis fel y person gorau i arwain ar gasglu a lleisio adborth myfyrwyr i staff yn eu hadran neu Undeb y Myfyrwyr.

 

Cyfrifoldebau

  • Mynychu hyfforddiant a ddarperir gan Undeb y Myfyrwyr ym mis Hydref.
  • Arwain y gwaith o gasglu adborth myfyrwyr o fewn eich cwrs neu adran.
  • Hyrwyddo'ch rôl ymhlith myfyrwyr a'i gwneud yn glir sut y gallant gysylltu â chi
  • Mynychu Pwyllgorau Ymgynghorol Staff Myfyrwyr o fewn eich adran.
  • Adrodd yn ôl ar ddeilliannau'r adborth i fyfyrwyr yn eich adran ac Undeb y Myfyrwyr
  • Cyfeirio myfyriwr at aelod staff, swyddog neu wasanaeth priodol pan na fydd modd iddynt ddelio â phroblem eu hunain, neu pan na fydd y broblem yn gysylltiedig â'r cwrs.
     

 

Sut bydd o fantais i chi

Fel Cynrychiolydd Academaidd, byddwch yn gallu datblygu'r sgiliau sydd gennych eisoes a meithrin rhai newydd, yn ogystal â gwella eich cyflogadwyedd ac ymuno â chymuned o fyfyrwyr sydd o'r un anian â chi o fewn eich adran sy’n cyfrannu mewn ffordd gadarnhaol at lunio profiad myfyrwyr.

Gallwch ennill cydnabyddiaeth am oriau gwirfoddol a’ch sgiliau drwy weithio tuag at Wobr Aber; bydd eich rôl yn ymddangos ar eich trawsgrifiad HEAR, a bydd cyfle i chi gael eich enwebu ar gyfer 'Swyddog Gwirfoddol y Flwyddyn' fel rhan o'r Gwobrau Staff a Myfyrwyr.

 

Pam mae eich eisiau CHI!

Yn UMAber, rydyn ni am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth. Rydyn ni'n addo mai myfyrwyr gaiff y gair olaf, ac rydyn ni am i chi weithio gyda ni i wireddu ein gweledigaeth.

Drwy fod yn Gynrychiolydd Academaidd, byddwch wedi cael

 

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?

Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd
Zoë - llaisum@aber.ac.uk

 

 

 

 

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576