Dyma eich cyfle i siarad dros eich addysg. Fel Cynrychiolydd Academaidd byddwch yn chwarae rôl weithgar mewn casglu a lleisio adborth myfyrwyr i helpu gwneud eich addysg Brifysgol y gorau posibl!
Mae Recriwtio ar gyfer Cynrychiolwyr Academaidd yn cychwyn yn ystod yr Wythnos Ymgartrefu. Dylech chi gael gwybodaeth oddi wrth eich adran ynglŷn â sut mae cofrestru/ymgeisio i fod yn gynrychiolydd. Bydd eich adran yn eich hysbysu chi am ba rolau sydd i'w cael, ac ar gyfer pa rai y gallwch roi eich enw ymlaen. Rydym hefyd yn eich annog i fynegi eich diddordeb yn uniongyrchol â'ch darlithwyr neu eich adran os oes rôl gynrychiolydd penodol yr hoffech chi ymgymryd â hi. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb ac yn gymwys i roi eu henw ymlaen!
Mae gennym system gyfethol yn gyntaf sy'n golygu y gellir cael cymaint o gynrychiolwyr academaidd yn yr un rôl ag sydd eu hangen ym marn eich adran. Mewn achosion unigryw lle bydd mwy o fyfyrwyr yn ymgeisio am rôl nac y mae eu hangen ar yr adran, cynhelir etholiad i benderfynu pwy gaiff ei benodi.
Wedi colli'r dyddiau cau? Cysylltwch â'ch adran i weld a oes swyddi ar gael. Gellir cynnal recriwtio ar gyfer swyddi gwag trwy gydol y flwyddyn.
Eisiau dysgu ynglyn â bod yn Cynrychiolydd Academaidd?
Beth yw Cynrychiolydd Academaidd?
Beth yw disgwyliadau Cynrychiolydd Academaidd?
Pam ddylwn i ddod yn Gynrychiolydd Academaidd?
Pa hyfforddiant a chymorth gaiff eu darparu?
|
.png)