Cwestiynau Cyffredin Etholiadau

Pleidleisio

BETH YW’R DYDDIADAU AR GYFER Y BLEIDLAIS?

Bydd y bleidlais yn dechrau am 10am 18/10/21 - 12pm 22/10/21. Bydd y bleidlais drwy ApAber neu drwy ddolen pleidleisio unigryw a anfonir drwy e-bost.

 

PWY ALL BLEIDLEISIO?

Unrhyw fyfyriwr llawn-amser ar gwrs lle mae ymgeisydd yn sefyll.

 

BETH SY'N DIGWYDD YN YSTOD Y CYFNOD PLEIDLEISIO?

Dyma pan fydd yr holl fyfyrwyr sy'n sefyll yn cystadlu am y rolau maen nhw'n sefyll amdanynt.

Yn ystod yr wythnos hon o bleidleisio, bydd y rheiny sy'n sefyll yn siarad â myfyrwyr ac yn ennyn eu diddordeb mewn sawl ffordd er mwyn annog pobl i bleidleisio drostynt.

Bydd myfyrwyr yn pleidleisio ar-lein drwy ApAber a chaiff mwy o wybodaeth ei rhyddhau yn nes at yr amser.

Am 6pm ddydd 22/10/21, bydd y canlyniadau'n cael eu rhyddhau ar wefan UMAber.


SEFYLL

PAM DDYLWN I SEFYLL?

Mae bod yn Gynrychiolydd Academaidd yn rôl syml ond yn un bwysig.

Mae rhesymau diddiwedd pam y dylech sefyll, ond dyma ein 5 prif reswm.

  • Mae'n gyfle i siarad ar ran myfyrwyr am eich profiad prifysgol
  • Gallwch greu newid a gwella'ch addysg
  • Cewch ddod i adnabod y staff a’r myfyrwyr yn eich adran
  • Byddwch yn fwy cyflogadwy drwy ymgymryd â rôl y tu allan i'ch astudiaethau
  • Dim ond 1-2 awr yr wythnos sydd eu hangen
     

Swyddogion Gwirfoddoli 
Mae cymaint o resymau dros sefyll i fod yn Swyddog Gwirfoddol neu Cynrychiolydd Cyfadran, pe baem ni'n eu rhestru nhw i gyd, byddech chi yma yn amser MAITH.

I grynhoi, mae’n gyfle gwych sy’n caniatáu i chi greu newid i fyfyrwyr ar y campws drwy weithio ar rywbeth rydych chi'n teimlo’n angerddol yn ei gylch, ac yn achos cynrychiolwyr sy’n mynychu cynadleddau, cewch siarad ar ran myfyrwyr Aberystwyth! Byddwch yn dod yn rhan agosach o deulu Aber wrth ddatblygu sgiliau a mwynhau profiadau newydd y gallwch chi eu defnyddio yn y dyfodol.


PWY ALL SEFYLL?

Cynrychiolydd Academaidd: Pob myfyriwr Is-raddedig ac Ôl-raddedig

Swyddogion Gwirfoddoli: Cyn belled â'ch bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth gallwch sefyll, 


SUT MAE MYND ATI I SEFYLL?

Cewch sefyll drwy gwblhau ein ffurflen ar-lein cyn 12m dydd Llun 11eg Hydref 2021.

Dim ond ychydig funudau y mae’n gymryd i sefyll, sy'n cynnwys uwchlwytho llun a chyflwyno cyhoeddusrwydd. Byddwch yn gallu mewngofnodi i hyb yr ymgeiswyr tan 9am dydd Llun 11eg Hydref 2021 i ychwanegu at, neu i ddiweddaru'r wybodaeth hon.

Cyhoeddusrwydd: oherwydd nifer fawr yr ymgeiswyr yn yr etholiad hwn, ni all Undeb y Myfyrwyr ddarparu gwasanaeth cyfieithu, ac oherwydd ein polisi dwyieithog, ni all arddangos unrhyw gyhoeddusrwydd ar eich rhan. Yn hytrach, gallwch ddarparu dolen i wefan allanol (er enghraifft tudalen ar gyfryngau cymdeithasol neu wefan blog) lle gallwch annog myfyrwyr i bleidleisio drosoch chi. Yna caiff y ddolen hon ei chynnwys ar y papur pleidleisio.

Llun: Rydym yn eich annog i uwchlwytho llun. Defnyddir y llun hwn ar y papur pleidleisio. Os ydych chi'n llwyddiannus yn yr etholiadau, bydd y llun hwn wedyn yn cael ei rannu gyda'ch adran a'i ddefnyddio i'ch hyrwyddo chi a'ch rôl i fyfyrwyr. Byddwn yn derbyn lluniau o unigolion yn unig, heb unrhyw rwystrau ac yn ddelfrydol yn erbyn cefndir golau. Gwnewch yn sicr hefyd nad yw eich llun yn cynnwys unrhyw logos o'r Undeb, y Brifysgol na grwpiau cysylltiedig, gan gynnwys dillad clybiau neu gymdeithasau.


PRYD MAE'R CYFNOD SEFYLL YN DOD I BEN?

Mae gennych chi pedair wythnos i sefyll ar gyfer swydd!

Mae'r cyfnod sefyll yn dod i ben 12pm, dydd Llun 11eg Hydref 2021


DWI DDIM YN GWYBOD A YDW I AM SEFYLL NEU BEIDIO, BETH DDYLWN I EI WNEUD?

Cewch alw heibio Undeb y Myfyrwyr am sgwrs gydag un o'n haelodau staff a fydd yn rhoi cymorth a chyngor i chi. Gofynnwch yn y dderbynfa i gael siarad â rhywun am yr etholiadau.

Siaradwch â ffrindiau, tiwtoriaid ac aelodau o'r teulu i gael rhywfaint o arweiniad.


PA RÔL DYLWN I SEFYLL AMDANI?

Cynrychiolydd Academaidd: Efallai y byddwch chi’n gymwys i sefyll ar gyfer mwy nag un rôl, ond cofiwch mai dim ond un rôl Cynrychiolydd Academaidd y gallwch chi sefyll ar ei chyfer. Os oes nifer o opsiynau wedi'u harddangos, dewiswch y rôl sydd o’r diddordeb mwyaf i chi, neu siaradwch â staff yn eich adran i weld pa un sydd fwyaf addas i chi.

Swyddogion Gwirfoddoli: Chi gaiff benderfynu, a bydd hyn yn dibynnu ar eich profiadau, eich diddordebau a'ch sgiliau. Cofiwch y byddwch yn y rôl hyd Fehefin 2022, felly mae’n bwysig ystyried yr hyn y byddwch chi'n ei fwynhau, a’r hyn rydych chi'n teimlo y gallwch chi ei gyfrannu ato neu ei wella ar ran myfyrwyr.


RWY’N FYFYRIWR RHYNGWLADOL; YDW I’N GALLU SEFYLL?

Ydych, rydych chi’n gallu. Ond cofiwch y gall Myfyrwyr Rhyngwladol ar Myfyrwyr Fisa wirfoddoli a / neu weithio uchafswm o 20 awr yr wythnos yn ystod y tymor.


DWI DDIM YN MEDDU AR Y SGILIAU ANGENRHEIDIOL. A FYDD HYFFORDDIANT AR GAEL?

Bydd! Mae'r holl yn derbyn hyfforddiant a ddarperir gan Undeb y Myfyrwyr yn y Flwyddyn Academaidd newydd (Medi / Hydref) cyn ymgymryd â'r rôl. Nid oes angen i chi fod yn meddu ar unrhyw wybodaeth, sgiliau na phrofiad penodol.

I fod yn llwyddiannus mae angen i chi fod yn drefnus, yn ymroddedig, yn hapus i siarad â staff a myfyrwyr ynglyn ag ystod o faterion, ac wrth gwrs, mae angen i chi fod yn frwdfrydig am y rôl!


PWY ALLAF I GYSYLLTU Â NHW OS OES GEN I GWESTIWN NEU BROBLEM?

Galwch heibio Undeb y Myfyrwyr i siarad ag aelod o'r tîm etholiadau neu e-bostiwch nhw ar undeb.etholiadau@aber.ac.uk.


ERBYN PRYD SYDD RHAID I MI GYFLWYNO CYHOEDDUSRWYDD?

Dylech gyflwyno'ch cyhoeddusrwydd a'ch llun erbyn y diwrnod olaf ar gyfer sefyll; 12pm, dydd LLun 11eg Hydref.

Nid yw'n orfodol creu tudalen gyhoeddusrwydd, ond mae'n fanteisiol i chi greu rhywbeth sy'n dweud wrth fyfyrwyr yr hyn yr hoffech chi ei gyflawni a pham y dylent bleidleisio drosoch chi.


PRYD DAW ENWAU'R MYFYRWYR SY'N SEFYLL YN GYHOEDDUS?

Yn yr wythnos cyn y cyfnod pleidleisio, byddwn yn rhyddhau erthygl ar ein gwefan.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576