Rolau: Swyddogion Llawn Amser

Caiff 5 swyddog llawn-amser eu hethol a'u cyflogi am un flwyddyn y tu hwnt i'w hastudiaethau i wasanaethu fel arweinwyr gwleidyddol UMAber. Mae gan bob un ohonyn nhw ddyletswyddau unigol yn eu rolau, ac maen nhw'n gweithredu'r rhain ar sail yr addewidion a wnaed ganddyn nhw yn eu maniffestos.

Gyda'i gilydd, nhw yw llais holl fyfyrwyr Aberystwyth, ac ar y cyd, maen nhw'n gyfrifol am hyrwyddo ac amddiffyn hawliau myfyrwyr, ymgyrchu ar faterion o bwys, hyrwyddo cyfranogiad yn yr Undeb a chydlynu parthau a grwpiau o fyfyrwyr.

Hefyd, fel swyddog llawn amser, byddwch chi'n ymddiriedolwr ac yn eistedd ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ogystal ag eistedd ar wahanol bwyllgorau rheoli'r Brifysgol i siarad ar ran myfyrwyr. Darperir hyfforddiant i bob swyddog etholedig, ynghyd â chymorth ac arweiniad i gyflawni'r rôl a throi eu hamcanion yn realiti.

 

I fynd yn syth at y rôl sydd o'r diddordeb mwyaf i chi, mae croeso i chi glicio ar un o'r dolenni isod…

Llywydd

Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA

Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr

Swyddog Materion Academaidd

Swyddog Llesiant


LLYWYDD

Y Llywydd yw llais cyhoeddus Undeb y Myfyrwyr a myfyrwyr Aberystwyth. Maen nhw'n gweithio gyda'r tîm Swyddogion llawn-amser drwy adolygu materion allweddol myfyrwyr yn rheolaidd, yn ogystal â sicrhau bod ymgyrchoedd cynrychioli a gwleidyddol yn cydweddu ag anghenion myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Nhw yw prif gynrychiolydd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, gan eistedd ar wahanol uwch bwyllgorau a chyfarfod ag unigolion allweddol yn rheolaidd i sicrhau perthynas gref rhwng yr Undeb, y Brifysgol a'r gymuned yn ehangach. Hefyd, nhw sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr Undeb yn cael ei gynrychioli ar lefel genedlaethol, drwy weithredu fel prif bwynt cyswllt ar gyfer UCM ac UCM Cymru.

Fel Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, bydd yn gweithio'n agos â Phrif Weithredwr yr Undeb i sicrhau bod amcanion strategol yr Undeb yn cael eu gweithredu, bod polisïau'n cael eu cynnal a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud sy'n adlewyrchu gwerthoedd yr aelodau. Yn olaf, nhw yw wyneb cyhoeddus Undeb y Myfyrwyr ac mae'n gyfrifol am gyhoeddi datganiadau i'r wasg, cynnal cyfweliadau ac ymateb i unrhyw gwynion ac adborth gan aelodau. Mae'r rôl yn un heriol a buddiol ac mae pob diwrnod yn wahanol.


SWYDDOG DIWYLLIANT CYMREIG a LLYWYDD UMCA

Y Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA yw llais myfyrwyr ar ran diwylliant Cymreig a myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn Aberystwyth. Maen nhw'n sicrhau bod diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg yn cael eu cynrychioli ym Mhrifysgol Aberystwyth. Maen nhw'n cyfarfod yn rheolaidd ag unigolion allweddol ac adrannau perthnasol i hyrwyddo anghenion siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.

Mae hyn yn cynnwys cydlynu ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd, er mwyn sicrhau bod buddiannau siaradwyr Cymraeg yn cael sylw ac yn cael eu hybu. Mae digon i'w wneud yn y rôl hon drwy'r amser, o drefnu gwersi Cymraeg, ymgyrchu a hyrwyddo'r iaith, i sicrhau bod polisïau dwyieithrwydd yn gyfoes.

Fel Llywydd UMCA, mae disgwyl i chi amddiffyn ac ymgyrchu dros hawliau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr yn y Brifysgol, yn ogystal ag arwain llawer o ddigwyddiadau rheolaidd UMCA a gynhelir gydol y flwyddyn, o Wythnos y Glas i Wythnos Nefi Blw.


SWYDDOG CYFLEOEDD MYFYRWYR

Y Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr yw llais myfyrwyr ar gyfer chwaraeon, cymdeithasau a chyfleoedd gwirfoddoli. Maen nhw'n sicrhau cynrychiolaeth myfyrwyr ar faterion sy'n ymwneud â chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd o fewn Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol. Maen nhw'n cysylltu'n rheolaidd â phwyllgorau'r clybiau a chymdeithasau, boed hynny'n wyneb yn wyneb, drwy e-bost neu ar gyfryngau cymdeithasol, er mwyn deall barn ac anghenion myfyrwyr yn well.

Gan weithio gyda staff, maen nhw'n helpu i gydlynu ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd a fwriadwyd i gynyddu cyfranogiad a sicrhau eu bod yn weithgareddau ffyniannus dan arweiniad myfyrwyr yn yr Undeb. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys cadeirio'r Parthau Chwaraeon a Chymdeithasau, helpu i gynnal Wythnos RhagLas, Mis RAG, y Rhyngolgampau, Superteams a Rygbi 7 Bob Ochr Aber.

Yn olaf, maen nhw'n cyfarfod yn rheolaidd ag unigolion allweddol ac adrannau perthnasol i hybu datblygiad clybiau, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.


SWYDDOG MATERION ACADEMAIDD

Y Swyddog Materion Academaidd yw llais myfyrwyr ar gyfer pob mater academaidd. Maen nhw'n sicrhau cynrychiolaeth myfyrwyr ar faterion sy'n perthyn i astudiaethau academaidd, gan gynnwys buddiannau myfyrwyr rhyngwladol ac ôl-radd; hefyd meysydd megis ehangu cyfranogiad, asesu ac adborth neu ddysgu ac addysgu. Maen nhw'n cysylltu'n rheolaidd â Chynrychiolwyr Academaidd a Chynrychiolwyr Athrofa, boed hynny'n wyneb yn wyneb, drwy e-bost neu ar gyfryngau cymdeithasol, er mwyn deall barn ac anghenion myfyrwyr yn well.

Gan weithio gyda staff, maen nhw'n helpu i gydlynu amryw o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd a fwriadwyd i ennyn diddordeb myfyrwyr yn eu profiad academaidd a'u gwella. Mae rhai enghreifftiau o hyn yn cynnwys cadeirio'r Parth Academaidd, adolygu hyfforddiant y Cynrychiolwyr Academaidd, trefnu Gwobrau Dysgu UMAber, chwilio am dîm University Challenge, ac yn bwysicaf oll, lobïo'r Brifysgol i newid pethau maen nhw'n meddwl sy'n bwysig i fyfyrwyr.

Yn olaf, mae ganddo/i rôl yn strwythurau rheolaeth y Brifysgol ac mae'n eistedd ar amryw o bwyllgorau ac yn cyfarfod ag unigolion allweddol ac adrannau perthnasol i hyrwyddo'r profiad academaidd.


SWYDDOG LLESIANT

Y Swyddog Llesiant Myfyrwyr yw'r llais ar gyfer llesiant a rhyddhad myfyrwyr. Maen nhw'n sicrhau cynrychiolaeth ar faterion sy'n perthyn i lesiant myfyrwyr, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr, lles, cydraddoldeb ac amrywioldeb. Mae'r rôl yn ymdrin ag ystod eang o faterion, gan gynnwys llety a chymorth ariannol, yn ogystal ag iechyd meddwl a chorfforol. Byddan nhw'n datblygu rhwydwaith o gysylltiadau rheolaidd, gan gynnwys y swyddogion rhan-amser, cymdeithasau a chysylltiadau allweddol yn y Brifysgol ac yn y gymuned leol.

Gan weithio gyda staff, mae'n helpu i gydlynu amryw o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd a fwriadwyd i sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth yn ystod eu hastudiaethau wrth wella'u llesiant. Mae rhai enghreifftiau o hyn yn cynnwys cadeirio'r Parth Llesiant, helpu i drefnu Ffair Dai a Llety'r Undeb, cynrychioli buddiannau myfyrwyr i wahanol grwpiau, o'r bwrdd iechyd lleol i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac yn bwysicach oll, lobïo'r Brifysgol i newid pethau mae'n credu sy'n bwysig i fyfyrwyr.

Yn olaf, maen nhw'n cyfarfod yn rheolaidd ag unigolion allweddol, adrannau perthnasol a chymdeithasau cymunedol i hybu datblygiad llesiant myfyrwyr ymhellach.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576