|
Terri Chandler
Yn gyntaf oll, clust a chefn fyddaf i. Dwi’n ymfalchïo mewn helpu eraill a gwneud gwahaniaeth.
- Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Mae gen i ymdeimlad cryf o gyfiawnder a chyfrifoldeb ac dwi’n gweld gwerth mewn tegwch a gonestrwydd. Dwi wedi dysgu pwysigrwydd dibynadwyedd, atebolrwydd, a chynrychiolaeth ar gyfer unrhyw gymuned a sefydliad, dyma pam dwi’n credu y byddwn i’n trin y swydd â gwyleidd-dra, cyfrifoldeb, ac ymrwymiad go iawn i helpu sefydliad i gyflawni ei nod a chael effaith er gwell.
Dwi’n rhoi sylw’n arbennig i bobl ac yn deall pwysigrwydd gwrando ar wahanol bersbectifau.
Dwi wedi ymrwymo i ddysgu’n barhaol.
Byddaf yn trin heriau newydd â chwilfrydedd, gofyn cwestiynau ystyriol, ac dwi’n fodlon ennill gwybodaeth newydd pan fo angen.
Dwi’n credu mai tystiolaeth, tryloywder a buddion y bobl a’r cymunedau dan sylw ddylai lywio penderfyniadau.
Dwi’n barod i godi fy llais yn ôl y galw tra’n cadw’n barchus a chydweithredol.
Dwi’n deall mai cyfle i wasanaethu yw bod yn ymddiriedolwr.
Ond yn fwy na dim, dwi wedi ymrwymo i newid bywydau er gwell.
- Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
1. Trais rhyweddol a rhywiol - gan gynnwys, er nid yn unig; aflonyddu rhywiol, ymosodiadau, a chamymddwyn. Trais, gwahanu, a llefaru casineb ar sail rhywedd. Perthnasoedd niweidiol a’r cam-drin sy’n digwydd mewn carwriaethau rhwng myfyrwyr. Stelcian a diwylliant treisio.
Pethau i’w gwella/gweithredu: Addysg, galw casineb at wragedd allan yn y gweithle, cefnogi grwpiau i ddioddefwyr, gweithredu pethau a fydd yn gwneud i bobl deimlo’n saff. Dim goddef unrhyw drais rhywiol nac ar sail rhywedd.
2. Anableddau - Pob un!!
Pethau i’w gwella/gweithredu: Materion yn ymwneud â llywio’r campws. Materion meddygol yn ymwneud â rhyw (gwybodaeth o glefydau cyffredin, misglwyfau, a nwyddau misglwyfol/hylendid). Cymorth i’r newydd anabl. Mynediad i adnoddau i bawb, helpu llywio anabledd, addysg ar bobl anabl - ar gyfer staff a myfyrwyr. Ymladd â stigma Bod yn glust a dylanwad arweiniol.
3. Iechyd meddwl - mae myfyrwyr yn wynebu heriau sylweddol wrth iddynt bontio i annibyniaeth, addysg uwch, a byd gwaith. Mae’r ymennydd yn mynd trwy camau mwyaf olaf ei ddatblygiad wrth i chi ddod yn oedolyn ifanc (hy rhwng 18 - 35) Yn ystod yr adeg hon, daw tueddiadau geneteg i sawl cyflwr iechyd meddwl difrifol i’r amlwg; dylem ddarparu cefnogaeth ar gyfer pobl a’u cyflyrau iechyd meddwl wrth iddynt ddatblygu. Bydd llawer o unigolion yn teimlo ar goll a/neu yn unig, fel nad ydyn nhw’n gallu estyn allan neu wybod beth i’w wneud gan fod cymaint o gyflyrau yn datblygu adeg oedran y myfyriwr cyffredin.
Pethau i’w gwella/gweithredu: Y Gwasanaethau Cymorth, sut i gefnogi ffrindiau, beth i’w wneud os yn poeni am les rywun yn eich llety neu ar eich cwrs. Sut i wneud y brifysgol yn amgylchedd gwell/hapusach. Cymryd pryderon ac awgrymiadau myfyrwyr o ddifri.
|