Barddoniaeth, Rhyddiaith a Dramâu 2020

E.M. Forster (1879-1970):

Roedd yn awdur hoyw, a ystyrir i fod yn un o awduron Prydeinig mwyaf yr 20fed ganrif. 'A Passage To India' oedd ei lwyddiant cyntaf, ac mae nifer o'i lyfrau eraill wedi'u haddasu ar gyfer ffilmiau - 'A Room With A View', 'Where Angels Fear To Tread’ ac yn fwyaf arwyddocaol ’Maurice', stori garu hoyw. Ysgrifennodd Forster y nofel 'Maurice' ym 1913, ond gadawodd gyfarwyddiadau nad oedd i'w chyhoeddi tan ar ôl iddo farw. Eleni yw hanner canmlwyddiant marwolaeth Edward Morgan Forster.


Lorraine Hansberry (1930-1965):

Roedd hi’n ddramodydd lesbiaidd. Hi yw awdur 'A Raisin In The Sun', y ddrama gyntaf a ysgrifennwyd gan ddynes Americanaidd Affricanaidd i gael ei chynhyrchu ar Broadway. Daw’r teitl o’r gerdd “Harlem” (a elwir hefyd yn “A Dream Deferred”) gan Langston Hughes. Am beth amser roedd y ddrama’n rhan o feysydd llafur Lefel O a TGAU. Hansberry ysbrydolodd y gân gan Nina Simone “To Be Young, Gifted and Black“.


William Shakespeare (1564-1616):

Dewiswyd Shakespeare fel llenor deurywiol eleni. Roedd yn nodweddiadol Brydeinig, ac mae ei waith yn rhan annatod o’r cwricwlwm Saesneg. Mae hyn yn bwysig o ystyried yr anawsterau parhaus ynghylch addysgu cynhwysol. Mae sawl cyfeiriad at y ffaith bod Sonnet 20 wedi'i ysgrifennu am ddyn.

 

SONNET 20

A woman's face with Nature's own hand painted

Hast thou, the master-mistress of my passion;

A woman's gentle heart, but not acquainted

With shifting change, as is false women's fashion;

An eye more bright than theirs, less false in rolling,

Gilding the object whereupon it gazeth;

A man in hue, all hues in his controlling,

Much steals men's eyes and women's souls amazeth.

And for a woman wert thou first created;

Till Nature, as she wrought thee, fell a-doting,

And by addition me of thee defeated,

By adding one thing to my purpose nothing.

But since she prick'd thee out for women's pleasure,

Mine be thy love and thy love's use their treasure.


Dawn Langley Pepita Simmons (c.1922-2000):

Mae'n debyg mai'r wyneb Traws ar gyfer eleni yw'r lleiaf adnabyddus, ond heb os, roedd ganddi stori hynod ddiddorol. Roedd hi’n blentyn i chauffeur Vita Sackville West, a chyn iddi drawsnewid, ysgrifennodd Dawn gofiant arobryn o'r Dywysoges Margaret. Ar ôl iddi drawsnewid, ysgrifennodd gofiant o'r actores ecsentrig y Fonesig Margaret Rutherford, a chafodd ei lled-fabwysiadu ganddi. Ond mae'n debyg mai'r peth mwyaf diddorol amdani yw'r ffaith mai ei phriodas hi â John-Paul Simmons ar 21 Ionawr 1969 oedd y briodas ryng-hiliol gyfreithiol gyntaf yn Ne Carolina!

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576