Mythau Cyffredin sy’n perthyn i Bleidleisio

Gall cofrestru i bleidleisio a bwrw'ch pleidlais ymddangos yn ddryslyd. Isod mae rhai o'r mythau cyffredin ynghylch pleidleisio.


Ni allwch ond pleidleisio unwaith bob pedair blynedd

Anghywir! Er bod yr Etholiad Cyffredinol yn digwydd oddeutu pob pedair blynedd, mae yna lawer o etholiadau eraill y gallwch bleidleisio ynddynt. Gallwch bleidleisio i ethol eich cynghorwyr lleol, Aelodau Senedd Ewrop ac os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban neu Gymru, gallwch chi bleidleisio dros gyrff datganoledig hefyd!


Ni allaf bleidleisio oherwydd na chefais i fy ngeni yn y DU.

Ddim o reidrwydd. Os ydych yn ddinesydd o'r UE neu'r Gymanwlad, gallwch gofrestru i bleidleisio.


Rhaid i mi gofrestru gartref ac rydw i'n byw yn rhywle arall yn ystod y tymor.

Yn bendant, nid yw hyn yn wir. Mae gennych chi berffaith hawl i gofrestru yn eich cartref a'ch cyfeiriad yn ystod y tymor. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y gallwch bleidleisio ddwywaith. Ymddiheuriadau am hynny! Bydd yn rhaid i chi benderfynu ble hoffech chi bleidleisio.


Fydd fy mhleidlais i ddim yn cyfrif ta beth.

Allan o 650 o etholaethau yn y DU, canfu ymchwil gan UCM; mewn dros 200 ohonynt, mae gan fyfyrwyr y pwer i newid y canlyniad yn gyfangwbl. Ac mae mwy i hyn na dim ond pleidleisio; cyn i chi hyd yn oed fynd ar gyfyl gorsaf bleidleisio, fe allwch chi gael effaith anhygoel drwy ymgyrchu i ddylanwadu ar yr ymgeiswyr ar y materion sy'n bwysig i chi.


Mae'n rhy hwyr i gofrestru nawr.

Na, mae digonedd o amser gennych chi! Yn wir, yn achos y rhan fwyaf o etholiadau, gallwch chi gofrestru hyd at 11 diwrnod cyn y bleidlais. Digonedd o amser.


Os ydw i'n cofrestru i bleidleisio, caiff fy manylion eu pasio ymlaen.

Pan fyddwch chi'n cofrestru i bleidleisio, oni fyddwch wedi optio allan, bydd eich manylion yn mynd ar ddwy gofrestr: cofrestr etholiadol a chofrestr agored. Gyda'r gofrestr agored, sy'n cynnwys eich holl fanylion cysylltu gan gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad, gall unrhyw un brynu'r wybodaeth yma gan eich awdurdod lleol a defnyddio eich manylion. Os ydych chi eisiau osgoi hyn, gallwch osod tic mewn blwch yn ystod y broses gofrestru er mwyn optio allan, neu unwaith y byddwch chi wedi cofrestru, gallwch ffonio'ch cyngor lleol a gofyn iddynt i dynnu eich enw oddi ar y gofrestr.


Dydw i ddim yn gwybod beth yw fy rhif Yswiriant Gwladol, felly dydw i ddim yn gallu cofrestru.

Mae hyn yn gallu bod yn anodd. Mae angen eich rhif yswiriant gwladol arnoch fel modd o’ch adnabod. Yn ffodus i chi, gallwch ei ganfod yma.


Does gen i ddim amser i gwblhau ffurflen a'i phostio.

Rydych yn ffodus, oherwydd os ydych chi'n byw yn Lloegr, yr Alban neu Gymru, yna gallwch gofrestru ar-lein. Does ond angen i chi fynd i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Os ydych chi'n gallu cofrestru ar-lein, yna gwnewch hynny! Mae'n gyflymach ac yn haws!

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576