Gwyddom y gall y broses o gofrestru i bleidleisio ymddangos yn eithaf cymhleth a thechnegol. Felly, rydyn ni wedi llunio rhai diffiniadau i wneud yn siwr eich bod chi'n cael yr effaith orau o'ch gwaith cofrestru pleidleiswyr!
Comisiwn Etholiadol
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio sut y caiff etholiadau eu cynnal. Mae'r corff hwn yn rheoleiddio faint o arian y gall pleidiau ac unigolion ei wario yn ystod yr etholiad. Maent hefyd yn gyfrifol am weithredu'r Ddeddf Lobïo, sef darn o ddeddfwriaeth sy'n rheoleiddio gwaith ymgyrchu elusennau a mudiadau eraill.
Y Gofrestr Etholiadol
Y Gofrestr Etholiadol yw'r rhestr o bleidleiswyr sydd wedi cofrestru mewn etholaeth neu ardal benodol. Os nad ydych chi ar y gofrestr etholiadol dydych chi ddim yn gymwys i bleidleisio.
SCE
SCE yw Swyddog Cofrestru Etholiadol, sef unigolyn wedi'i benodi i fod yn gyfrifol am lunio a chynnal y gofrestr etholiadol.
CEU
CEU yw Cofrestru Etholiadol Unigol System newydd yw hon a ddaeth i fodolaeth ym mis Mehefin 2014. Mae'r system hon yn golygu bod rhaid i bawb gofrestru eu hunain yn unigol, yn hytrach na'r hen system lle byddai un 'pen teulu' yn cofrestru pawb yn y ty. Mae hyn yn achosi problemau ar gyfer cofrestru fesul bloc i fyfyrwyr. Ystyriwch gofrestru drwy roi tic mewn blwch fel dewis amgen.
Awdurdod Lleol
Yr awdurdod lleol yw'r corff gweinyddol mewn llywodraeth leol. Caiff trafodion eich ardal leol eu rheoli gan eich awdurdod lleol. Yr awdurdod lleol yw eich cyngor sir neu ddinas agosaf. Efallai y byddwch am wirio pa ardaloedd maent yn gyfrifol amdanynt i benderfynu pwy i gysylltu â nhw ynglyn â chofrestru pleidleiswyr.
Rhif Yswiriant Gwladol
Os ganed chi yn y DU, neu eich bod yn byw yma, byddwch wedi derbyn eich Rhif Yswiriant Gwladol cyn eich pen-blwydd yn 16. Defnyddir y rhif hwn i weinyddu cyfraniadau yswiriant gwladol ac fel ffurf o adnabyddiaeth. Dan y system newydd o gofrestru etholiadol unigol, caiff eich rhif yswiriant gwladol ei ddefnyddio yn y broses ddilysu er mwyn eich galluogi i gofrestru
Diwrnod Pleidleisio
Mae diwrnod pleidleisio'n derm technegol ar gyfer Diwrnod yr Etholiad! Dyma'r diwrnod pan fydd y rheiny sydd wedi cofrestru yn gymwys i fynd i bleidleisio.