Eich Cartref

Gall amodau byw yn y brifysgol fod yn anodd. Rydych chi wedi symud i ffwrdd o’ch teulu a ffrindiau i mewn i dy gyda dieithriaid, yn y gobaith y byddwch chi i gyd yn dod yn ffrindiau gorau ac yn cael profiad prifysgol anhygoel. Er y gallai hyn fod yn realiti i rai, i eraill gall symud i neuaddau deimlo'n ynysig, yn enwedig pan nad ydych chi a'ch cydletywyr yn dod ymlaen cystal ag yr oeddech chi wedi gobeithio. Mae hwn yn fater hynod gyffredin mewn neuaddau, a gall gael effaith enfawr ar eich profiad prifysgol os na chaiff y sefyllfa ei datrys. 

Yn UMAber, rydyn ni am fynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn fel eich bod chi'n teimlo y gallwch chi barhau i fyw yn eich llety a chael llwyddiant yn eich gradd!

Mae eich Swyddog Llesiant, Connor, a'ch Swyddog Materion Academaidd, Chloe, yn lobïo’r brifysgol i greu system dewis llety ar sail diddordebau.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576