Caniatâd y Senedd i Swyddog Llawn Amser wasanaethu ar Gyngor y Brifysgol ochr yn ochr â Llywydd UMCA

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 27/04/2026

Statws: Rydym yn gweithio arno


Manylion

I’w gymeradwyo:

Y cynnig yw diwygio Atodlen 2.2 - Rolau a Chyfrifoldebau Ymddiriedolwyr sy’n Swyddogion i gynnwys yr isod:

  1. Aelodaeth o Gyngor y Brifysgol
  2. Bydd dau Ymddiriedolwr sy’n Swyddog yn gwasanaethu fel aelodau o’r myfyrwyr o Gyngor Prifysgol Aberystwyth (yn unol â Gorchymyn 8 - y Cyngor: Aelodaeth).
  3. Bydd Llywydd UMCA yn aelod o Gyngor y Brifysgol yn rhinwedd ei swydd am y cyfnod yn ei swydd.
  4. Caiff yr ail aelod sy’n fyfyriwr ei ethol gan Senedd Undeb Aberystwyth o blith yr Ymddiriedolwyr sy’n Swyddogion yn sgil Etholiadau’r Swyddogion.
  5. Caiff unrhyw Ymddiriedolwr sy’n Swyddog (heblaw Llywydd UMCA) roi ei enw ymlaen ar gyfer y swydd hon. Bydd rhaid i’r Swyddogion â diddordeb gyflwyno i’r Senedd, gan amlygu eu rhesymau dros ddymuno gwasanaethu ar Gyngor y Brifysgol.
  6. Bydd Senedd y Myfyrwyr yn ethol yr ail aelod o Gyngor y Brifysgol o’r myfyrwyr trwy bleidlais bapur di-enw (cyntaf i’r felin). Yr ymgeisydd sy’n ennill y rhan fwyaf o’r pleidleisiau gaiff ei benodi.
  7. Bydd cyfnod yr aelod etholedig o Gyngor y Brifysgol sy’n fyfyriwr yn y swydd yn cydredeg â’u cyfnod fel Swyddog Llawn Amser.
  8. Caiff y broses hon ei goruchwylio gan Ddirprwy Swyddog yr Etholiadau neu’i enwebedig er mwy sicrhau tegwch, tryloywder, a chydymffurfio â gweithdrefnau democrataidd Undeb Aberystwyth.

 

Gwybodaeth gefndirol:

Yn sgil penderfyniad a basiwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Undeb Aberystwyth fis Mawrth 2025, lleihawyd nifer rolau y Swyddogion Llawn Amser o bump i bedwar. Yn rhan o’r ailstrwythuro hyn, caed gwared ar y Llywydd, a dosbarthwyd ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau ymysg y Swyddogion Llawn Amser yn weddill.

Daw y Llywydd a Llywydd UMCA a Diwylliant Cymru yn aelodau’n awtomataidd o Gyngor y Brifysgol fel llywodraethwyr o’r myfyrwyr. Gan nad oes gan Undeb lywydd mwyach, mae swydd wag na roddir yn awtomatig i swyddog (arhosith Llywydd UMCA ar y Cyngor) a’r Senedd fydd yn gyfrifol am benderfynu pa un o’r Swyddogion eraill gaiff eu penodi i lenwi swydd wag lywodraethwr o’r myfyrwyr.

 

Beth yw Cyngor y Brifysgol?

Cyngor Prifysgol Aberystwyth yw “corff llywodraethol goruchaf Prifysgol Aberystwyth”. Mae’n gyfrifol am “benderfynu ar gyfeiriad strategol y Brifysgol ac am y modd y gweithredir materion ariannol a gweinyddol, a materion eraill y Brifysgol, yn unol â’i hamcanion”. Mae’r Cyngor yn sicrhau bod y Brifysgol yn gweithredu’n effeithiol, yn aros yn gynaliadwy yn ariannol, ac yn cydymffurfio â phob gofyn cyfreithiol a rheoliadol, gan gefnogi cenhadaeth a gwerthoedd hir dymor y sefydliad. Mae’r Ordinhadau yn amlinellu cyfansoddiad, pwerau a swyddogaethau’r Cyngor.

Mae Aelodaeth y Cyngor yn cynnwys aelodau allanol annibynnol a benodir am eu harbenigedd a’u profiad, cynrychiolwyr o staff y Brifysgol, a chynrychiolwyr o’r myfyrwyr. Gyda’i gilydd, mae’r Cyngor yn dal arweinwyr uwch y Brifysgol i gyfrif ac yn gwneud penderfyniadau ar lefel uchel a gaiff effaith ar y Brifysgol gyfan.

Er enghraifft, mae Cyngor y Brifysgol, i bob pwrpas, yn cyflawni swydd gyfateb i Fwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Aberystwyth, ond yn gyfrifol am y Brifysgol i gyd.

Mae mynychu y Cyngor yn gyfrifoldeb sylweddol, gan fod y Cyngor yn trin materion o bwys mawr i’r sefydliad, gan gynnwys blaenoriaethau strategol, pwysau ariannol, a phenderfyniadau gaiff argraff hir dymor ar fyfyrwyr. Mae hefyd ymrwymiad amser sylweddol ynghlwm â’r safle gyda mynychu sawl cyfarfod wyneb yn wyneb y flwyddyn ynghyd â’r is-bwyllgorau niferus wrth wraidd y cyngor.

 

Penodi Llywodraethwr Ychwanegol o’r Myfyrwyr

Yn nghyfarfod olaf o’r Senedd yn sgil diwedd Etholiadau’r Gwanwyn, bydd y Senedd yn penderfynu ar ba Swyddog Llawn Amser (yn ogystal â Llywydd UMCA) fydd yn gwasanaethu fel y Llywodraethwr ychwanegol o’r Myfyrwyr ar Gyngor y Brifysgol.

Bydd pob Swyddog Llawn Amser newydd (na ddaw’n awtomatig yn aelod o’r cyngor) yn gymwys i’w henwebu eu hunain am y swydd hon. Rhoddir y cyfle i bob ymgeisydd gyflwyno i’r Senedd eu dadl dros eu penodi, bydd y Senedd wedyn yn pleidleisio dros benodi’r Llywodraethwr.

 


Diweddariadau

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
Pleidleisio dros Swyddog Llawn Amser i wasanaethu ar Gyngor y Brifysgol ochr yn ochr â Llywydd UMCA: Llywydd Lles a Rhyddid Y Senedd Ebrill 2026

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

    

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576