A ddylai Undeb Aberystwyth roi’r gorau i’r term DALlE (Du, Asiaidd, Lleiafrif Ethnig) a defnyddio MEBE (Mwyafrif Ethnig Byd-Eang)?

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 27/04/2026

Statws: Rydym yn gweithio arno


Manylion

Hoffem i’r Undeb adlewyrchu safiad mwy diweddar ar hil ac ethnigrwydd gan newid y termau. Yn ei adroddiad, a gyhoeddwyd fis Mawrth 31 2021, canfu y Comisiwn ar Wahaniaethau Hiliol ac Ethnig nad yw termau megis ‘DALlE (BAME)’ (Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig) yn fuddiol mwyach ac y dylid cael gwared arnynt, gan ddadlau dros ffocws ar ddeall gwahaniaethau a chanlyniadau ymysg grwpiau ethnig penodol.

Cyhoeddwyd ymateb y llywodraeth i’r Comisiwn fis Mawrth 17 2022. Ceir yn hwn cynllun gweithredu arloesol â’r bwriad o fynd i’r afael â gwahaniaethau negyddol, hybu undod. Mae hefyd yn cynnwys ymrwymiad i roi’r gorau i’r term ‘DALlE’ yn y llywodraeth.

 

Ond pam fod hyn o bwys?

Caiff ‘DALlE’ ei ddefnyddio yn aml at drin pob lleiafrif ethnig gyda’i gilydd. Mae DALlE yn ymddangos yn ffafrio rhai grwpiau hiliol dros eraill. Er enghraifft, byddai Teithwyr Gwyddelig yn dod o dan ‘DALlE’ megis Lleiafrif Ethnig yn ogystal â grwpiau eraill â gwahanol hunaniaethau a phrofiadau. Nid yw DALlE yn cwmpasu hunaniaethau ethnig yn yr un modd ag y byddai Mwyafrif Ethnig Byd-Eang (MEBE / S. GEM) yn eu cynnwys er enghraifft. Mae Mwyafrif Ethnig Byd-Eang, er ymhell o fod yn berffaith yn achos Aberystwyth, yn creu rhyw fath o gydbwysedd. Gallai’r defnydd o DALlE guddio gwahaniaethau mawr rhwng grwpiau ethnig o ran canlyniadau. Er enghraifft, rydyn ni’n deall bod cyrhaeddiad ym myd addysg ar draws gwahanol grwpiau ethnig yn gymhleth.

Yn 2019, bu canran uwch na’r arfer o blant o gefndiroedd Tsieineaidd, Indiaidd a Bangladeshi a enillodd ganlyniadau uchel mewn Saesneg a Mathemateg TGAU. Ond byddai edrych ar y canlyniadau hyn o safbwynt ‘DALlE’ fod wedi rhoi camargraff, gan guddio llwyddiant y grwpiau penodol hyn a thanberfformiad eraill.

Dylai Undeb Aber roi’r gorau i ddefnydd ar DALlE (Du, Asiaidd, Lleiafrif Ethnig) oherwydd ei natur hen ffasiwn a symud tuag at safbwynt sy’n grymuso grwpiau ethnig lleiafrifol yn fwy.

Cyflwynwyd gan: Tanaka Chikomo

 


Diweddariadau

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
     

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

    

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576